Cydgrynhoi trefol

Cynllunio trefol a geisir cynyddu nifer y boblogaeth, aneddiadau ac yn aml gwaith, o fewn tref neu ddinas ar dir sydd eisoes yn rhan o diriogaeth trefol, er mwyn lleihau neu osgoi adeilau tref a maestrefi am allan ar dir glas newydd.
(Ailgyfeiriad o Dwyseddu trefol)

Mae cydgrynhoi[1] trefol[2] (nid oes term safonol Gymraeg, gellid cynnig hefyd: dwyseddu adeileddol, cyfnerthu trefol, ymddwyso trefol, neu dwyseiddiad mewnol[angen ffynhonnell]) yn cyfeirio at strategaeth gynllunio drefol sy'n ceisio dwysáu cymdogaethau yn hytrach na thyfu allan. Mae llawer o ddinasoedd wedi profi degawdau o dwf tuag allan sydd wedi arwain at drawsnewid rhanbarthau helaeth faestrefi preswyl tra bod cymdogaethau canol y ddinas wedi dadfeilio. Mae cydgrynhoi trefol yn gasgliad o strategaethau i wneud ardaloedd canol y ddinas yn fwy deniadol i dynnu pobl yn ôl.[3] Mae'n anelu at ddefnyddio treflannau annibynnol hunangynhaliol o ran adnoddau gan gynyddu anheddau o fewn yr adeiladau neu tiriogaeth sydd eisoes o fewn ffiniau trigo a gweithio. Mae hyn yn cynyddu'r gofod byw fesul ardal adeiledig, sy'n gwrthweithio blerdwf trefol.

Cydgrynhoi trefol
Cydgrynhoi trefol fertigol yn Stockholm. Estynnwyd yr adeiladau masnachol isel yn Hötorgscity drwy godi cartrefi ar y toeau yn ystod diwedd y 2000au

Dinas 15 Munud golygu

Mae nifer o hanfodion syniadol a gweithredol cyngrynhoi trefol yn plethu i gysyniad dinasoedd 15 munud. Yn y naill achos a'r llall, ceir pwyslais ar adnoddau a gwasanaethau sy'n agos at y trigolion ac ar y gallu i gerdded neu seiclo iddynt.

Diffiniad golygu

Mae cydgrynhoi trefol yn disgrifio'r polisi o gynllunio ar ddatblygiad pellach a thẇf poblogaeth o fewn ffiniau ardaloedd trefol sy'n bodoli eisoes yn hytrach nag ehangu allan i ardaloedd maestrefol. Mae cydgrynhoi trefol yn ceisio cynyddu dwysedd poblogaeth ardal drefol benodol trwy ehangu i fyny, ailddatblygu adeiladau a lotiau sy'n bodoli eisoes, ac adeiladu cyfleusterau newydd yn y lleoedd sydd ar gael. Damcaniaethir y bydd atal ymlediad trefol ac annog datblygiad pellach o unedau tai mewn ardaloedd trefol presennol yn arwain at gynnydd net mewn ffyniant cymdeithasol ac economaidd (e.e. trafnidiaeth gyhoeddus mwy hygyrch, defnydd mwy effeithlon o gyfleustodau cyhoeddus, a mwy o fforddiadwyedd tai).[4] Mae hefyd yn strategaeth i wneud ardaloedd trefol yn fwy atyniadol i ddenu neu droi'r trai ar bobl yn symud allan i'r maestrefi.[5]

Mae tai teras a rhandai yn enghreifftiau da o sut gellir creu dwysedd trefol, ac, yn achos tai teras, yn boblogaidd iawn.

Hanes golygu

Mae'r term "urban consolidation" (cydgrynhoi trefol) yn ymddangos gyntaf mewn gwyddor gymdeithasol a llenyddiaeth cynllunio trefol tua diwedd y 19g a dechrau'r 20g. Daw llawer o'r llenyddiaeth bresennol ar gydgrynhoi trefol o Awstralia; deddfwyd rhai o bolisïau cydgrynhoi trefol swyddogol llywodraeth gyntaf y byd yn Sydney a Melbourne i gynyddu'r gwaith o adeiladu tai teras dwysedd uwch ar ddiwedd y 19eg ganrif.[6] Drwy gydol yr 20fed ganrif, mae'n ymddangos bod gweithredu polisïau cydgrynhoi trefol yn dod mewn 'tonnau', wedi'u gwahanu gan ymchwyddiadau poblogaeth yn deillio o ddigwyddiadau mawr fel y Rhyfel Byd Cyntaf a'r Ail Ryfel Byd. Dechreuodd polisïau cydgrynhoi trefol ymddangos yn yr Unol Daleithiau tua'r un adeg, ac un o'r enghreifftiau cynharaf oedd cynnig i gyfuno llinellau rheilffordd yn Iowa a Minnesota i gynyddu cynhwysedd ac effeithlonrwydd traffig teithwyr a nwyddau presennol.[7]

Gweithdrefnau golygu

 
Cwarter "De gamlas vänner", de Stockholm, Sweden, 2013, cyfres o 4 bloc anheddau sy'n adeiladau 4 llawr yn creu 44 rhandy preswyl. Roedd yn rhan o gynllun Stockholm ÖP 99 ”Bygga staden inåt” ('adeiladu'r ddinas i mewn')

O safbwynt y diwydiant adeiladu a chynllunio trefol, gwahaniaethir rhwng ffactorau agor a chyfyngu wrth nodi ardaloedd y gellir eu hail-gywasgu. [8] Mae'r cysylltiadau trafnidiaeth lleol da, y seilwaith presennol, ac yn arbennig agosrwydd ardaloedd hamdden yn cael eu hystyried yn "agor". Mae cyfyngiadau presennol oherwydd gwarchod henebion, coed a natur yn gyfyngol.

Gall y cywasgu ddigwydd trwy:

  • Cau bylchau rhwng adeiladau
  • Cwblhau datblygiad agored i ddatblygiad caeedig, megis datblygiad perimedr bloc
  • Ychwanegu lloriau at adeiladau presennol, trawsnewid atig, ac ati (mwy o le caeedig)
  • Dymchwel strwythurau presennol ac adeiladu strwythurau mwy
  • Datblygiad cefnwlad (e.e. yng ngardd eiddo hir)
  • Datblygiad iard neu ymestyn adeiladau presennol gyda thai cefn

Manteision golygu

Mae dwysedd yn gwneud defnydd gwell o’r seilwaith presennol (e.e. system garthffosiaeth, trafnidiaeth gyhoeddus) – gall ei gostau sefydlog gael eu trosglwyddo i nifer fwy o drigolion. Nid oes rhaid datblygu'r adeiladau newydd yn llafurus yn gyntaf. Mae hyn yn arbed costau i'r pwrs cyhoeddus, ond hefyd i'r preswylwyr blaenorol a newydd.

  • O safbwynt cynllunio trefol, mae dwysedd yn cefnogi'r datblygiad mewnol dymunol
  • O safbwynt cynllunio trefol, mae dwysedd yn fodd i wella dyluniad y treflun trwy wyneb tawelach a mwy unffurf, ac felly uwchraddio trefol posibl o chwarteri.
  • O safbwynt y perchnogion, mae gofod defnyddiadwy ychwanegol yn cael ei greu yn economaidd, yn enwedig mewn eiddo presennol, trwy ddefnyddio datblygiadau presennol a strwythurau cynhaliol.
  • Mae defnyddwyr yn aml yn gweld ansawdd bywyd mewn ardaloedd sefydledig a'r lleoliad yn well nag un ardal ddatblygu newydd.
  • Gall dwysedd arwain at ddinas o bellteroedd byr os yw dwysedd hefyd yn cyfrannu at fwy o gymysgedd o ddefnyddiau.

Esiampl Stockholm golygu

Ceir dadl ynghylch manteision ac anfanteision dwysáu trefol, a'r ddadl fwyaf cyffredin dros ddwysáu yw bod angen adnewyddu a datblygu'r ddinas. Yng Nghynllun Cyffredinol 1999 dinas Stockholm yn Sweden, defnyddir y term "adeiladu'r ddinas i mewn" fel math o gydgrynhoi. Nid yw'r syniad o ddwysáu ardaloedd trefol wedi'u cwblhau yn newydd. Yn Stockholm yn 1980, mae cynlluniau i "ddwysáu", er enghraifft, adeiladau Hammarbyhöjden o'r 1940au. Yng Nghynllun Cyffredinol 1999 ar gyfer Stockholm, gelwir y dwysedd hwn yn "gadael i'r ddinas dyfu i mewn" [9] ac yn y cynllun cyffredinol Dinas y Promenâd, argymhellir dwysáu ardaloedd adeiledig.[10]

Ceir dadleuon amgylcheddol hefyd, gan fod dwysáu fel arfer yn golygu bod adeiladau newydd yn cael eu gosod yn agos at lonydd trafnidiaeth gyhoeddus presennol . Dadl gyffredin yn erbyn dwysáu yw'r amharodrwydd i adeiladu ar feysydd gwyrdd, yr ystyrir bod ganddynt lawer o swyddogaethau pwysig mewn cymdeithas. Ar yr un pryd, gall dwysáu olygu, trwy ganolbwyntio ar ardaloedd trefol sydd eisoes yn bodoli, y gellir osgoi datblygiadau mawr newydd, er enghraifft, ardaloedd coedwig neu dir âr. Un rheswm pam mae dwysáu wedi dod mor ddadleuol yw ei fod yn aml yn gallu newid amgylchedd uniongyrchol pobl yn sylweddol, sy'n ennyn diddordeb pobl.

Enghreifftiau yn Stockholm golygu

Enghraifft Israel golygu

 
aneddiad yn Stryd Aharonson, Ramat Gan, ger Tel Aviv, bydd yn cael ei hadnewyddu ac ychwanegu aneddiadau fel rhan o gynllun TAMA 38 (2015)

Mae Israel wedi ymgorffori cynlluniau TAMA 35 a diweddariar, TAMA 38, i'w cynllunio trefol er mwyn cynyddu dwysedd ei threfi. Mae TAMA yn dalfyriad Hebraeg am "Cynllun Amlinellol Cenedlaethol". Daw hyn yn sgil prisiau uchel a phrinder tai i'r boblogaeth sy'n tyfu. Nodir bod Tel Aviv yn llai dwys na Barcelona neu Baris. Caiff perchnogion rhantai arian at gryfhau seilau'r adeilad rhag daeargrynfeydd ac addasiadau i'w rhandai unigol am yr hawl i ddatblygwyr adeiladu'n uwch ar ben yr adeilad fel bod mwy o aneddau ar gael. Yn gynyddol, gwelir mantais hefyd i ddwysedd er mwyn gwneud gwasanaethau fel trafnidiaeeth yn fwy cost-effeithiol ac adeiladir mewn dinasoedd fel Tel Aviv gan leihau yr 'hawl' neu'r gofyniad am lefydd parcio ceir.[11]

Anfanteision golygu

Hyd yn oed os yw blerdwf trefol yn cael ei gyfyngu i raddau gan ddwysáu, mae'n dal i annog defnydd tir trwy selio tir os nad yw dwysáu yn digwydd ar dir braenar sydd eisoes wedi'i selio . Mewn dinasoedd yn benodol, mae llystyfiant a mannau agored yn cael eu colli, mae'r llwybrau cerdded olaf ar gyfer anifeiliaid bach yn cael eu rhwystro, mae cylchrediad aer (coridorau aer) yn gyfyngedig ac yn gyffredinol gall ecoleg y ddinas a hinsawdd y ddinas gael eu heffeithio'n andwyol (ffurfio ynysoedd gwres, crynodiad cynyddol o lwch mân).[12]

O safbwynt y trigolion hirsefydlog , mae adeiladau newydd a'r mewnlifiad cysylltiedig yn arwain at ostyngiad yng ngwerth ansawdd bywyd trwy foneddigeiddio neu - yn achos tai cymdeithasol - i geto-eiddio, dwysedd poblogaeth cynyddol neu ddwysedd traffig cynyddol , yn dibynnu ar y math o brosiect adeiladu.[13]

Felly, mae mentrau dinasyddion lleol yn erbyn cydgrynhoi cynlluniedig yn amddiffyn hefyd rhag colli mannau gwyrdd.

Dolenni golygu

Mae'r erthygl hon yn cynnwys term neu dermau sydd efallai wedi eu bathu'n newydd sbon: cydgrynhoi trefol o'r Saesneg "urban consolidation". Gallwch helpu trwy safoni'r termau.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Geiriadur Prifysgol Cymru". geiriadur.ac.uk. Cyrchwyd 2022-05-24.
  2. "Cryfhau Gwydnwch Economaidd" (PDF).
  3. "What is Urban Consolidation?". Gwefan Simplicable. 2016-10-29.
  4. Shaw, B. J.; Houghton, D. S. (1991-06-01). "Urban Consolidation: Beyond the Rhetoric". Urban Policy and Research 9 (2): 85–91. doi:10.1080/08111149108551463. ISSN 0811-1146.
  5. "What is Urban Consolidation?". Gwefan Simplicable. 2016-10-29.
  6. Troy, Patrick Nicol (1996-01-01). The perils of urban consolidation : a discussion of Australian housing and urban development policies. Federation Press. ISBN 9781862872110. OCLC 35570982.
  7. Richard H. Zeitlan, "Prairie du Chien: Urban Consolidation and Decline, 1858-1930," July, 1980, unpublished report for U.S. Army Corps of Engineers, St. Paul, p. 8.
  8. Fink/Fischer (2012). "Neue Werkzeuge für die dichte Stadt". bauwelt 36. http://www.lsa.ar.tum.de/fileadmin/w00boo/www/media_lib/downloads/presse/bw_36_12.pdf. Adalwyd 2022-04-15.
  9. Översiktsplan 1999 Stockholm, Stockholms stadsbyggnadskontor. Strategiska avdelningen, publikation SBK 2000:6.
  10. Promenadstaden. Översiktsplan för Stockholm. Antagen av kommunfullmäktige 15 mars 2010.
  11. Nagler, Daniel (24 Mai 2022). "Looking inward: In Israeli cities, 'densification' seen as answer to housing demand 'Concentrated dispersion' – the development of existing residential areas and less urban sprawl – adopted as way forward for building across Israel". The Times of Israel. line feed character in |title= at position 84 (help)
  12. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-03-20. Cyrchwyd 2022-04-15.
  13. Höher, enger, dichter. Der Spiegel, 28. März 2016
  Eginyn erthygl sydd uchod am ddaearyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.