Maffia Mr Huws
Band o Fethesda oedd Maffia Mr Huws - un o fandiau mwyaf poblogaidd Cymru yr 1980au[1]. Mae'r band yn dal gigio'n achlysurol ac yn cynnwys yr aelodau: Deiniol Morus, Hefin Huws, Sion a Gwyn Jones. Ffurfiwyd y grŵp yng ngŵyl Pesda Roc ym Methesda yn ystod y 1980au.[2] Yn 2006, ail-ffurfiodd y band ar gyfer adfywiad o ŵyl Pesda Roc.
Deiniol Morus a Hefin Huws. Maffia Mr Huws a'r Cyrff; Neuadd Pantycelyn, Aberystwyth; 1985. | |
Enghraifft o'r canlynol | band |
---|---|
Yn cynnwys | Hefin Huws |
Gyrfa
golyguYm Methesda ar ddiwedd y 70au daeth y brodyr Sion a Gwyn Jones at ei gilydd gyda Deiniol Morris a Guto Orwig i ffurfio grŵp ysgol o'r enw Weiran Bigog. Chwaraeodd Weiran Bigog yn lleol am gyfnod tra roeddynt yn dysgu eu crefft, diolch i Arwel Jones Disco'r Llais a drefnai lawer o gigs ar y pryd. Pync a roc oedd y caneuon a daeth gig mwya'r band yn un o wyliau Roc eiconic Cymru sef Padarn Roc, a gynhaliwyd yn Llanberis ar ddiwedd y 1970au. Roedd Sion yn canu a chwarae gitar rithm ond nid oedd yn hapus fel canwr felly fe ofynnodd i'w ffrind Hefin Huws i ganu ac ym 1981 ymunodd Hefin Huws yn lle Guto Orwig, newidiwyd yr enw, a ganwyd Maffia Mr Huws. Daeth yr enw o graffiti 'Abercaseg Maffia' a welwyd ar un o waliau ym Methesda. Ychwanegwyd yr 'Huws' ar ôl cyfenw Hefin ac athro Cymraeg Ysgol Dyffryn Ogwen, J Elwyn Huws.
Bu'r band yn gweithio'n galed o gwmpas pentrefi ardal Arfon dan arweiniad Dafydd Meurig, ffrind ysgol a fu'n drefnydd cynnar y Maffia. ac yna ym 1982 fe recordiodd Maffia y caneuon 'Ffrindiau', Reggae Racs a Byth Eto ar gyfer sesiwn radio rhaglen poblogaidd iawn Richard Rees sef Sosban. Rhyddhawyd 'Ffrindiau' ar record hir Sesiwn Sosban (Sosban oedd rhaglen roc Radio Cymru ar y pryd, yn darlledu bob bore Sadwrn). Fe ddaeth hi'n amlwg bod dyfodol mawr i'r band a chyn hir dyma nhw'n cyhoeddi eu record sengl gyntaf, Gitar yn y To, hefyd ym 1982. Recoriwyd hon gyda'r un cynhyrchydd a recordiodd y sesiwn Sosban, sef Richard Moz Morris o Gwmtwrth Uchaf. Chwaraeodd Richard rhan bwysig yn swn y Maffia ar record.
-
Deiniol Morus a Hefin Huws. Maffia Mr Huws a'r Cyrff; Neuadd Pantycelyn, Aberystwyth; 1985.
-
Neil Williams, Maffia Mr Huws; 1989.
Roedd y band yn byw gyda'i gilydd mewn bwthyn ym Methesda o'r enw 'Y Bwthyn' lle roeddynt yn rhydd i chwarae eu hofferynnau ddydd a nos ac o ganlyniad yn ymarfer eu techneg yn ddibaid. Daeth y Bwthyn yn enwog drwy Gymru yn nes ymlaen (pan werthywd y tŷ fe gafodd y perchnogion newydd amryw o ymweliadau gan bobl o bob cwr o Gymru, gan gynnwys chapter o Hells Angels!) Erbyn hanner cyntaf yr wythdegau roedd Maffia'n chwarae dros 100 o gigs y flwyddyn - a hynny'n amal mewn llefydd na welwyd bandiau Cymraeg eu hiaith erioed o'r blaen - fel Cymoedd De Cymru. Roedd ymestyn ffiniau'r iaith drwy Gymru'n bwysig i'r hogiau. Roeddynt yn awyddus i fod yn fand Cymraeg heb ffiniau daearyddol. Roedd gan y band ddilyniant anhygoel gyda'r "Maffia Maniacs". Chwaraewyd eu sengl Newyddion Heddiw/Nid Diwedd y Gân ar Radio 1 yn ystod yr oriau brig am gyfnod.[angen ffynhonnell]
Fe fu'r band yn fuddugol ddwywaith yn Noson Gwobrwyo Cylchgrawn Sgrech wrth ennill y wobr am y record orau, a'r anrhydedd o ennill tlws prif grwp roc Cymru ym 1983. Nhw aeth â'r wobr am brif grwp roc y flwyddyn eto ym 1984.
Yng nghanol yr wythdegau fe ymunodd Alan Edwards (bachgen o Gaernarfon a oedd yn byw ym Methesda) â'r band i chwarae'r allweddellau, ond yn anffodus, ym 1987, fe laddwyd Alan mewn damwain pan ddaru fan y band troi drosodd yn ystod un o deithiau'r Maffia yn Kemperle, Llydaw. Ym 1986 bu'r band yn teithio gyda Geraint Jarman a'r Cynganeddwyr ar "Taith y Carcharorion". Roedd y daith yn un o uchafbwyntiau'r byd roc y flwyddyn honno gan gadarnhau perthynas agos iawn rhwng y ddau fand. Rhyddhawyd caset i gydfynd â'r daith gyda dwy o ganeuon Maffia, dwy o ganeuon Jarman ac un trac ar y cyd rhwng y ddau fand.
Wedi i Hefin Huws benderfynu mynd i fyw i Lundain fe gariodd Maffia i fynd gyda Neil Williams yn canu, ac yn achlysurol fe fyddai'r gitarydd John Doyle, y canwr poblogaidd Martin Beattie, drymiwr o Fethesda o'r enw Kevin ('Robo'/Taff) Roberts a Les Morrison yn dod i'r adwy. Mae Dafydd Rhys, gynt o'r band pync a reggae Chwarter i Un (ac yn frawd i Gruff Rhys Super Furry Animals) hefyd yn haeddu clod am drefnu ac ysgogi hogiau Maffia mwy neu lai drwy gydol eu gyrfa hyd at y presennol. Mae Dafydd hefyd wedi cyfrannu i'r band ar y trwmped a gitar. Chwaraeodd y band yng Ngŵyl y Faenol yn 2000 ac eto yn 2008.
Mae Maffia wedi cyhoeddi naw record a chasét, a CD o oreuon Maffia yn 2008. Mae rhai'n credu y daw'r hogiau'n nôl at ei gilydd unwaith eto.
Disgyddiaeth
golyguSenglau/EP
golyguTeitl | Fformat | Label | Rhif Catalog | Dyddiad ryddhau |
---|---|---|---|---|
"Gitar Yn Y To / Reggae Racs" | Sengl 7" | Fflach | RFRS0013 | 1982 |
Hysbysebion | EP 12" | Pesda Roc | PR001 | 1983 |
"Nid Diwedd Y Gan / Newyddion Heddiw" | Sengl 7" | Recordiau Sain | SAIN 115S | 1985 |
Taith y Carcharorion (Ar y cyd gyda Geraint Jarman) | EP Casét | Recordiau Sain | SAIN C963B | 1986 |
Albymau
golyguTeitl | Fformat | Label | Rhif Catalog | Dyddiad ryddhau |
---|---|---|---|---|
Yr Ochor Arall | Albwm 12" | Recordiau Sain | SAIN 1286M | 1983 |
Da Ni'm Yn Rhan O'th Gêm Fach Di | Albwm 12" | Recordiau Sain | SAIN 1307A | 1984 |
Awé 'fo'r Micsar | Albwm Casét | S4C | Dim | 1987 |
Twthpêst Ozone Ffrendli | Albwm Casét | Stiwdio Les | Dim | 1989 |
Croniclau'r Bwthyn (Goreuon Maffia Mr Huws) | Albwm CD | Recordiau Sain | SAIN SCD 2553 | 2008 |
Dolenni Allanol
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ "bandit247.com". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-05-03. Cyrchwyd 2010-10-14.
- ↑ Maffia Mr Huws yn ail ffurfio. BBC Arlein. 19-07-2006. Adalwyd ar 15-10-2010