Troedfilwr

(Ailgyfeiriad o Troedfilwyr)

Milwr sy'n gorymdeithio ac sy'n ymladd ar droed yw troedfilwr.[1] Maent yn cario cyfarpar ac arfau cludadwy megis reiffl, gwn peiriant, mortar, grenadau, neu lansiwr rocedi, a chyflenwadau os ydynt yn y maes am gyfnod hir. Swyddogaeth y troedfilwr yw i gipio a dal tir ar y faes y gad, ac mewn goresgyniad i feddiannu tir y gelyn.[2] Darperir amrywiaeth o gerbydau i gludo'r troedfilwyr modern o amgylch maes y frwydr, ond yn aml maent yn parhau i ymladd ar droed gydag arfau llaw.[3]

Troedfilwr
Enghraifft o'r canlynoladran y lluoedd arfog Edit this on Wikidata
Mathadran y lluoedd arfog Edit this on Wikidata
Rhan obyddin, môr-filwr Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Y Reifflwyr Gwyddelig Brenhinol mewn ffos yn ystod Brwydr y Somme (1916)

Trefnir troedfilwyr mewn unedau (platŵn, cwmni a bataliwn) sy'n rhan o fyddin, o'i gyferbynnu â mathau eraill o filwyr megis y marchfilwr. Rhennir yn droedfilwyr trymion a throedfilwyr ysgafn. Yn hanesyddol, gwisgodd troedfilwyr trymion arfogaethau ac roedd troedfilwyr ysgeifn yn cynnwys ysgarmeswyr, taflwyr a bwawyr. Yn yr oes fodern, y tanciau yw'r troedfilwyr trymion a chyrchfilwyr a lluoedd mewn tanciau bychain sy'n ffurfio'r troedfilwyr ysgeifn.[4]

Y cleddyf, y gwayw, y ffon dafl a'r bwa oedd arfau troedfilwyr yr Henfyd. Datblygodd y 'mur tariannau' ym Mesopotamia, y ffalancs yng Ngroeg a'r lleng yn Rhufain. Defnyddid trefniannau mwy ystwyth yn Tsieina, gan fanteisio ar y bwa croes. Daeth y marchfilwr i ddominyddu rhyfeloedd Ewrasia wedi'r 4g. Y troedfilwr oedd y prif fodd o frwydro yn yr Amerig nes i'r concwistadoriaid ddod â'r ceffyl yno. Dychwelodd bwysigrwydd y troedfilwr yn Ewrop yn sgil dyfeisio drylliau yn y 14g. Brwydrodd troedfilwyr mewn trefniannau a lluoedd mawr hyd ddiwedd y 19g. Datblygodd rhyfela'r ffosydd yn sgil dyfodiad y dryll awtomatig adeg Rhyfel y Boer a'r Rhyfel Byd Cyntaf.[4]

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Geiriadur yr Academi, [infantryman].
  2. (Saesneg) infantry. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 19 Mehefin 2016.
  3. Richard Bowyer. Dictionary of Military Terms, 3ydd argraffiad (Llundain, Bloomsbury, 2004), t. 126.
  4. 4.0 4.1 (Saesneg) infantry. The Columbia Encyclopedia. Encyclopedia.com (2016). Adalwyd ar 19 Mehefin 2016.