Mahmoud Ahmadinejad
Mahmoud Ahmadinejad (Persieg: محمود احمدی نژاد ) (neu Mahmud Ahmadinajad/ Ahmadinezhad / Ahmadi-Nejad / Ahmadi Nejad / Ahmady Nejad) (ganwyd 28 Hydref, 1956) oedd arlywydd Iran o 2005 hyd 2013. Cafodd ei eni yn Garmser, ger Tehran. Mae'n ddyn dysgedig ac fe gafodd ddoethuriaeth (PhD) ym Mhrifysgol Technoleg a Gwyddoniaeth Iran yn 1997; gradd mewn peirianneg sifil. Bu hefyd yn darlithio yno o 1989 ymlaen. Mae'n briod ac mae ganddo ddau fab a merch.
Mahmoud Ahmadinejad محمود احمدینژاد | |
---|---|
Arlywydd Iran | |
Yn ei swydd 3 Awst 2005 – 3 Awst 2013 | |
Vice President | Parviz Davoodi Mohammad-Reza Rahimi |
Uwch Arweinydd | Ali Khamenei |
Rhagflaenwyd gan | Mohammad Khatami |
Dilynwyd gan | Hassan Rouhani |
Maer Tehran | |
Yn ei swydd 20 Mehefin 2003 – 3 Awst 2005 | |
Dirprwy | Ali Saeedlou |
Rhagflaenwyd gan | Mohammad-Hassan Malekmadani |
Dilynwyd gan | Mohammad-Bagher Ghalibaf |
Llywiawdwr Ardabil | |
Yn ei swydd 1 Mai 1993 – 28 Mehefin 1997 | |
Rhagflaenwyd gan | Hossein Taheri (Dwyrain Azerbaijan) |
Dilynwyd gan | Javad Negarandeh |
Manylion personol | |
Ganwyd | Aradan, Iran | 28 Hydref 1956
Plaid wleidyddol | Cynghrair Adeiladwyr Iran (2003–presennol) |
Cysylltiadau gwleidyddol arall | Cymdeithas Islamaidd y Peiriannwyr (1990–2005) |
Priod | Azam Farahi (1981–presennol)[1] |
Plant | Mehdi Alireza Fatemeh |
Cartref | Narmak |
Alma mater | Prifysgol Gwyddoniaeth a Thechnoleg Iran |
Galwedigaeth | Peiriannydd Sifil |
Llofnod | |
Gwefan | Gwefan swyddogol |
Cymerodd drosodd ar ôl Mohammad Khatami fel chweched arlywydd ei wlad ar 3 Awst, 2005. Fe'i olynwyd gan Hassan Rouhani.
O ran ei wleidyddiaeth mae'n geidwadwr ar un ystyr ac eto'n awyddus i weld rhai newidiadau yn Iran, yn arbennig ym myd addysg wyddonol a datblygiad economaidd.
Mae'n adnabyddus am ei feirniadaeth hallt o lywodraeth George W. Bush yn yr Unol Daleithiau ac Israel. Yn ddiweddar mae Ahmadinejad wedi denu sylw am ei barodrwydd i barhau â rhaglen ynni niwclear Iran yn wyneb condemniad y Gorllewin, ac yn neilltuol America. Yn ogystal mae wedi datgan ei fod yn dymuno gweld Israel yn cael ei dileu o fap y byd ac wedi mynegi ei farn nad oedd yr Holocost hanner mor eang ag a dybir yn gyffredinol.
Sancsiynau
golyguAr 09 Mehefin 2010 fe basiodd Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig y dylid gosod sancsiynau ar Iran. Cytunodd Rwsia a Tsiena gyda'r mesur ar ôl cryn bwysau gan yr Unol Daleithiau; ataliodd Libanus a phleidleisiodd Twrci a Brasil yn erbyn y cynnig. Dyma bedwerydd rownd o sancsiynau gan y C.U. ers 2006 a grëwyd gyda'r bwriad o atal Iran rhag puro Wraniwm. Dywedodd yr Arlywydd Mahmoud Ahmadinejad, "The ressolutions you issue are like a used handkerchief which should be thrown in the bin."[2]
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ "Iran's first lady makes rare speech at Rome summit". Fox News. Associated Press. 2009-11-15. Cyrchwyd 2011-06-01.
- ↑ The Times, 10 Mehefin 2010.
Rhagflaenydd: Mohammad Khatami |
Arlywydd Iran 3 Awst 2005 – 3 Awst 2013 |
Olynydd: Hassan Rouhani |
Dolenni allanol
golygu- (Perseg) Blog Ahmadinejad Archifwyd 2007-10-03 yn y Peiriant Wayback