Malo
Sant sy'n un o Saith Sant-sefydlydd Llydaw oedd Malo (27 Mawrth 520 - 15 Tachwedd 621; Llydaweg: Maloù, Lladin: Maclovius).
Malo | |
---|---|
Ganwyd | 27 Mawrth 520 Llancarfan |
Bu farw | 15 Tachwedd 621 Archingeay |
Dinasyddiaeth | Llydaw Cymru |
Galwedigaeth | offeiriad |
Swydd | esgob |
Dydd gŵyl | 15 Tachwedd |
Hanes a thraddodiad
golyguNid oes llawer o wybodaeth ar gael amdano, ond credir iddo gael ei eni yn Llancarfan, Bro Morgannwg, tua diwedd y 6g, ac iddo gael ei addysg yn Llanilltud Fawr. Roedd e'n fab i Caradog ab Ynyr Gwent a Derwela ac yn gefnder i Samson. Dywedir iddo fynd gyda Sant Brendan o Iwerddon ar ei fordaith enwog. Daeth yn esgob yn Llancarfan, ac yn sgil y Pla Melyn fe aeth Malo â nifer o fynaich i Lydaw, a sefydlon nhw wladfa Gristnogol yno a ddatblygodd yn dref dros y canrifoedd. Rhoddodd y sant ei enw i'r ddinas honno, Sant-Maloù ("Saint-Malo" yn Ffrangeg; "St Malo" yn Saesneg). Dethir ei ŵyl ar 15 Chwefror. Dywedir mewn un ffynhonnell iddo farw yn 649.
Yn yr iaith Ffrangeg, mae yna ansoddair Malouin(s) neu Malouine(s) ar gyfer unrhyw beth sy’n perthyn neu’n gysylltiedig â thref St Malo, a thrwy hynny daw'r enwau Ffrangeg a Sbaeneg ar Ynysoedd y Falklands: Iles malouines ac Islas Malvinas.
Buchedd
golyguYsgrifennwyd ei fuchedd, Vita S. Maclovii (Buchedd Sant Malo) tua 870.[angen ffynhonnell]