Y Fad Felen
Pla mawr yn y 6g oedd Y Fad Felen neu'r Fall Felen (hefyd 'Pla Melyn'). Yr enw Gwyddeleg arni oedd Crón Chonnaill ('y clefyd melynddu'), neu Buidhe Chonnaill ('y clefyd melyn'). Yr enw Saesneg oedd "The Yellow Plague of Rhos".[angen ffynhonnell]
Enghraifft o'r canlynol | epidemig pla |
---|---|
Rhan o | Pla Iwstinian |
Cofnoda'r Annales Cambriae iddi ladd Maelgwn Gwynedd, brenin Gwynedd a nifer o bobl eraill yn y flwyddyn 547:
- Mortalitas magna in qua pausat Mailcun rex Genedotae. Unde dicitur, 'Hir hun Wailgun en llis Ros.' Tunc fuit wallwelen.'[1]
Mae'r llawysgrif gynnar Llyfr Llandaf yn cyfeirio at i hefyd, dan yr enw flaua pestis (gyda'r glos 'Y Vall Velen'). Roedd yn lladd meddyg a chlaf fel ei gilydd ac yn gadael y wlad yn anghyfannedd.[2]
Yn ôl traddodiad llên gwerin cuddiodd Maelgwn yn Eglwys Rhos (rhwng Degannwy a Llandudno). Gwelodd y Fad Felen (sy'n fath o anghenfil ddinistriol yn y traddodiad Cymreig) drwy dwll clo'r eglwys a disgynodd i'r llawr yn gelain yn y fan. Daeth y llinell a ddyfynnir yn yr Annales Cambriae yn ddihareb: 'Hir hun Maelgwn yn llys (neu 'eglwys') Rhos'. Mae Gildas yn dweud mai hon oedd un o'r tair cosb enbyd a roddai Duw ar y Brythoniaid i ddial eu camweddau.
Ceir nifer o gyfeiriadau at y Fad Felen yng ngwaith y beirdd, er enghraifft gan Iolo Goch a Iorwerth Fynglwyd. Gwelir cyfeiriadau at y Fad Felen mewn testunau hanes o'r cyfnod modern cynnar, megis gan Charles Edwards yn Y Ffydd Ddi-ffuant[3] , a Theophilus Evans yn Drych y Prif Oesoedd, ill dau'n ei alw'n 'Fall Felen' ac yn ei ddeall fel cosb gan Dduw am ddrygioni'r genedl, fel y gwnaeth Gildas ganrifoedd ynghynt. Yn ôl Thomas Pennant yn ei Tours in Wales, 'yr oedd (y Fad Felen) i gymeryd naill ai ffurf sarff gribog... neu ynte ar lun benyw brydferth, yr hon a laddodd Maelgwyn gyda chipdrem.'[4]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ John Morris (gol.), Nennius: British History, and The Welsh Annals (Llundain, 1980).
- ↑ J. Gwenogvryn Evans (gol.), The Text of the Book of Llan Dâv (1893), t. 131.
- ↑ Edwards, Charles (1677). Y Ffydd Ddi-ffuant. Rhydychen: Henry Hall. t. 188.
- ↑ Thomas Pennant, Teithiau yng Nghymru (Caernarfon, 1883), t. 440.