Man geni

brycheuyn neu farc ar groen a geir ers dydd yr enedigaeth

Mefl neu farc cynhenid sy'n ymddangos ar y croen pan gaiff person ei eni neu yn fuan weddi iddo gael ei eni yw man geni.[1][2] Yn aml mae mannau geni sy'n ymddangos yn hwyrach wedi'u lleoli lle ceir nam ar y croen.[2]

Man geni
Dosbarthiad ac adnoddau allanol
ICD-10 Q82.5
ICD-9 757.32

Anhysbys yw achos mannau geni, ond nid yw'r mwyafrif ohonynt yn etifeddol.[3]

Mathau golygu

Staen gwin port (naevus flammeus) golygu

 
Staen gwin port ar ben y gwladweinydd Rwsiaidd Mikhail Gorbachev

Casgliad o'r gwaedlestri lleiaf sy'n creu marc gwastad sy'n amrywio o liw pinc golau i goch/porffor tywyll yw staen gwin port. Mae'n bresennol, fel arfer ar un ochr o'r wyneb, pan fydd y plentyn yn cael ei eni ac yn barhaol. Maent yn digwydd mewn tua 0.3% o fabanod ac maent yn fwy cyffredin mewn merched.[4]

Gall y math hwn o fan geni bod yn gysylltiedig â syndrom Sturge-Weber neu syndrom Klippel-Trénaunay-Weber.[4] Yn achos syndrom Sturge-Weber mae'n gysylltiedig ag annormaledd yn y gwaedlestri dyfnach sy'n effeithio ar weithrediad yr ymennydd, a gall cyd-fynd ag anawsterau dysgu ac epilepsi. Gyda Syndrom Klippel-Trénaunay-Weber, ceir staeniau gwin port ar un o aelodau'r corff (y fraich neu'r goes), gan achosi twf ychwanegol yn yr aelod hwnnw. Gall staeniau gwin port o amgylch y llygaid hefyd arwain at risg uwch o ddioddef o glawcoma.[5] Mae'n bosib drin staeniau gwin port â laserau dermatolegol gyda chanlyniadau da a nifer fychan o sgîl-effeithiau. Fel arfer, bydd angen triniaeth ailadroddus.[6]

Man geni storc golygu

Gelwir marciau gwastad a phinc rhwng yr aeliau neu ar gefn y gwddf yn fannau geni storc. Maent yn dod yn fwy amlwg pan fydd y baban yn crio, ond yna maent yn pylu'n gyflym, dros gyfnod o fisoedd fel arfer.[4] Anaml byddant yn methu â diflannu erbyn pen-blwydd cyntaf yr unigolyn.[6]

Man geni melanosytig cynhenid (CMN) golygu

Fel arfer ffurfir mannau geni melanosytig cynhenid (CMNau),[7] sydd gan tua 1% o fabanod newydd-anedig, gan ordyfiant diniwed yn y melanosytau, y celloed sy'n gyfrifol am liw arferol y croen. Maent yn amrywio mewn maint o'r rhai lleiaf sy'n 1-2mm; y mwyafrif ohonynt sydd yn fwy na 2.5 cm o led; i'r CMNau enfawr anghyffredin sy'n fwy nag 20 cm o led a cheir mewn 0.01% o fabanod newydd-anedig. Mewn pobl â gwallt golau, bydd CMNau yn dueddol o fod o liw brown, a bron yn ddu mewn unigolion a chanddynt groen tywyllach. Fel arfer, mae CMNau yn fwy blewog na rhannau arferol y croen, ond mae hyn yn amrywiol iawn.[4]

Mae perygl bach o falaenedd yn gysylltiedig â mannau geni melanosytig cynhenid. Fel staen gwin port, gall CMN amharu ar weithrediad yr ymennydd (os oes croniad o felanosytau yn bresennol ar wyneb yr ymennydd) neu achosi perygl bach o glawcoma (os yw'n agos iawn at lygad).[5] Weithiau caiff CMNau eu gwaredu trwy lawdriniaeth os oes ganddynt olwg wael neu os oes pryder ynglŷn â malaenedd. Oherwydd y gallant fod yn fawr ac yn aml fe'u lleolir mewn mannau lletchwith, gall eu tynnu trwy lawdriniaeth fod yn anodd neu'n amhosib ac efallai y bydd yn arwain at ychydig o greithio.[6]

Hemangioma golygu

 
Hemangioma

Casgliad o waedlestri bychain sy'n cynhyrchu lwmp ar y croen yw hemangioma, sydd gan tua 5% o fabanod.[4] Mae'n bosib i hemangioma ger y llygad, y trwyn, y geg, neu ardal cewyn baban achosi problemau o ran bwydo, anadlu, neu weithrediadau corfforol eraill, ac efallai y bydd angen triniaeth yn fuan ar ôl genedigaeth. Gall rhai hemangiomâu anffurfio neu ymestyn y croen hyd yn oed ar ôl iddynt ddiflannu'n gyfan gwbl. Mewn achosion prin mae hemangiomâu yn bresennol yn yr organau mewnol, a dyler monitro'r rhain.[5] Mae angen triniaeth, a all gynnwys triniaeth laser, llawdriniaeth ac/neu steroidau, ar tua 20% o hemangiomâu oherwydd cymhlethdodau.[6]

Gelwir hemangioma ar wyneb y croen yn hemangioma capilari, neu'n fan geni lliw mefus, sydd yn farc meddal, lympiog, bach, o liw coch llachar. Ymddangosa hemangioma capilari ar y croen yn ystod yr wythnosau cyntaf o fywyd. Mae'n tyfu i'w faint llawn yn ystod y chwe mis neu'r flwyddyn gyntaf ac yna, fel arfer, yn dechrau pylu a gwastatau; gan amlaf bydd wedi diflannu'n gyfan gwbl erbyn i'r plentyn gyrraedd pum mlwydd oed.[4] Oherwydd nid ydynt yn gyffredinol yn para ymhellach na hyn, ac oherwydd gall llawdriniaeth arnynt achosi cymhlethdodau a chreithio, ni argymhellir ceisio trin mannau geni lliw mefus yn llawfeddygol, hyd yn oed os ydynt yn effeithio ar ymddangosiad ac yn tyfu wrth i'r plentyn tyfu.[6]

Gelwir hemangioma sydd yn ddyfnach yn y croen yn hemangioma ceudodol, sef y math amlycaf o fan geni. Mae'n dalpiog ac yn chwyddedig ac o liw porffor/glas oherwydd bod y gwythiennau annormal yn ddyfnach yn y croen. Mae rhai yn diflannu erbyn i'r plentyn gyrraedd pum mlwydd oed, ond mae angen triniaeth ar rai eraill.[4]

Cyfeiriadau golygu

  1.  Mannau geni: Cyflwyniad. Gwyddoniadur Iechyd. Galw Iechyd Cymru. Adalwyd ar 8 Hydref, 2009.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) birthmark. Dorland's Medical Dictionary. MerckSource.
  3.  Mannau geni: Achosion. Gwyddoniadur Iechyd. Galw Iechyd Cymru. Adalwyd ar 14 Hydref, 2009.
  4. 4.0 4.1 4.2 4.3 4.4 4.5 4.6  Mannau geni: Symptomau. Gwyddoniadur Iechyd. Galw Iechyd Cymru. Adalwyd ar 14 Hydref, 2009.
  5. 5.0 5.1 5.2  Mannau geni: Cymhlethdodau. Gwyddoniadur Iechyd. Galw Iechyd Cymru. Adalwyd ar 22 Hydref, 2009.
  6. 6.0 6.1 6.2 6.3 6.4  Mannau geni: Triniaeth. Gwyddoniadur Iechyd. Galw Iechyd Cymru. Adalwyd ar 22 Hydref, 2009.
  7. O'r Saesneg: congenital melanocytic nevus.