Nymphalis antiopa
neu Aglais antiopa
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Lepidoptera
Teulu: Nymphalidae
Genws: Nymphalis
Rhywogaeth: N. antiopa
Enw deuenwol
Nymphalis antiopa
(Linnaeus, 1758)
Cyfystyron

Aglais antiopa

Glöyn byw sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw mantell alarus, sy'n enw benywaidd; yr enw lluosog ydy mentyll galarus; yr enw Saesneg yw Camberwell Beauty (neu Mourning Cloak yn America), a'r enw gwyddonol yw Nymphalis antiopa neu Aglais antiopa.[1][2] Mae'n löyn sydd i'w weld drwy Ewrop - yn enwedig y gwledydd Sgandinafaidd - ac yn ymwelydd prin â dwyrain Lloegr. Ar adegau (1846, 1872, 1947, 1976, 1995 a 2006) gwelwyd myrdd ohonynt. Eu cyfnod yn Lloegr ydy Awst a Medi.

Y fantell alarus, wedi anafu ei hadenydd
Nymphalis antiopa: siani flewog yn San Diego, Califfornia
Ffotograff o'i hochor, Ontario, Canada

Yr hen enwau arni yn Saesneg ydy: Grand Surprise a White Petticoat. Daw'r enw Saesneg o'r lleoliad (Coldharbour Lane, Camberwell ger Llundain) lle canfyddwyd dau esiampl ohoni yn Awst 1745.

62–75 mm ydy lled ei hadenydd ar ei anterth.

Prif fwy y siani flewog ydy coed llwyfen, poplys a helyg. Oherwydd hyn, mae i'w gweld fel arfer mewn coedlannau.

Isrywogaethau

golygu
  • N. a. antiopa (Linnaeus, 1758)
  • N. a. hyperborea (Seitz, 1914) (Alaska)
  • N. a. asopos (Fruhstorfer, 1909) (Japan)

Cyffredinol

golygu

Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnwys mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.

Wedi deor o'i ŵy mae'r fantell alarus yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.

Hanes yng Nghymru

golygu

Ddiwedd mis Awst 2010 ymddangosodd yr hanesyn yma yn y newyddion:

A rare butterfly has been seen in Colwyn Bay for the first time in a decade. The Camberwell Beauty - a migrant which occasionally flies into Britain from Europe - was spotted by Geoff Benfield in his conservatory in Llanelian. "It just suddenly appeared in the conservatory," said Geoff. "From what I read, they live on beech and willow trees - all the things we've got in theimmediate area."[3]

Ond yn ôl Tywyddiadur Llên Natur, nid dyma’r fantell alarus gyntaf i gyrraedd gogledd Cymru:

  • 12 Awst 1995: Hefin Jones ar Radio Cymru yn son bod iar fach dramor a Camberwell beauty wedi cyrraedd de Lloegr ar raddfa fawr o'r cyfandir
  • 21 Awst 1995: Camberwell beauty yn Nhregarth ond son bod rhywun wedi eu bridio nhw?
  • 6 Mai 1996: Coedydd Aber,Abergwyngregyn Camberwell beauty!! i fyny ac i lawr dros Bontnewydd, Aber tua thri o’r gloch y pnawn.
  • 19 Mai 1996: Mike Howe yn dweud bod monarch a Queen of Spain Fritillary wedi eu cael yn ddiweddar yn ogystal â Camberwell Beauty yng Ngogledd Ewrop. Dick Squires wedi cael CB ffres yr olwg hefyd yn ddiweddar

Gweler hefyd

golygu
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau

golygu
  1.  Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
  2. Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.
  3. BBC Radio Wales