Mantell fapadeiniog

Araschnia levana
Un o'r cyntaf i ddeor, ddechrau'r gwanwyn
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Lepidoptera
Teulu: Nymphalidae
Genws: Araschnia
Rhywogaeth: A. levana
Enw deuenwol
Araschnia levana
(Linnaeus, 1758)

Glöyn byw sy'n perthyn i deulu'r Nymphalidae yn urdd y Lepidoptera yw mantell fapadeiniog, sy'n enw benywaidd; yr enw lluosog ydy mentyll mapadeiniog; yr enw Saesneg yw European Map, a'r enw gwyddonol yw Araschnia levana.[1][2] Ei diriogaeth yw dwyrain a chanol Ewrop, ac mae'n ymgartrefu yng ngorllewin Ewrop yn llwyddiannus iawn ac yn cynyddu o ran niferoedd.

Ail genhedlaeth yn yr haf
Siani flewog

Ymwelydd prin iawn â gwledydd Prydain ydy'r fantell fapadeiniog. Dros y 100 mlynedd diwethaf cafwyd sawl cynnig aflwyddiannus i geisio'i gyflwyno i'r ynysoedd hyn. Ceisiwyd gwneud hynny yn Nyffryn Gŵy yn 1912, ac yn Swydd Gaerwrangon yn y 1920au, De Ddyfnaint yn y 1942, Sir Gaer yn y 1970au a Chanolbarth Lloegr yn y 1990au. Mae'r arferiad yma, bellach, yn anghyfreithlon.

Un o nodweddion hynota'r fantell yw fod pryd a gwedd y ddwy genhedlaeth o oedolion yn edrych yn bur wahanol. Du ydy lliw' genhedlaeth gyntaf - gyda marciau gwyn.

Bwyd golygu

Mae'r wyau'n cael eu dodwy mewn un llinell hir, un ar ben y llall, a hynny o dan ddeilen danadl poethion, sef y planhigyn y bydd y lindys, yn ei dro, yn ei fwyta. Mae'r rhes gwyn o wyau'n edrych yn debyg i flodau'r danadl.

Cyffredinol golygu

Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnyws mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.

Wedi deor o'i ŵy mae'r mantell fapadeiniog yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.

Gweler hefyd golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau golygu

  1.  Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
  2. Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.