Polygonia c-album
O'r top
Ffotograff o'r ochor. Hutchinsoni gyda'i dan-adain o liw golau.
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Lepidoptera
Teulu: Nymphalidae
Llwyth: Nymphalini
Genws: Polygonia
Rhywogaeth: P. c-album
Enw deuenwol
Polygonia c-album
(Linnaeus, 1758)
Isrywogaethau

8 sspp, gweler y testun

Cyfystyron

Nymphalis c-album

Glöyn byw sy'n perthyn i deulu'r Nymphalidae yn urdd y Lepidoptera yw mantell garpiog, sy'n enw benywaidd; yr enw lluosog ydy mentyll carpiog; yr enw Saesneg yw Comma, a'r enw gwyddonol yw Polygonia c-album.[1][2] Adain garpiog yw enw arall arni. Mae'r Polygonia c-album i'w weld ledled Ewrop a'r ardaloedd cynnes yn Asia a Japan a'r holl ffordd i'r de i Forocco. Mae mathau tebyg iddynt ar gael yng Ngogledd America. [3][4][5]

Siani flewog

Mae lled ei adenydd (ar ei fwyaf) oddeutu 45mm gydag oddi tan yr adain o liw brown, gydag "c" ar bob un mewn gwyn. Dyma sut y cafodd yr enw Lladin. Mae ymylon yr adenyd yn igam-ogam, fel ymyl deilen ac mae hyn yn ddull hawdd o'i hadnabod.[4]

Gan fod y math hwn o löyn byw yn cysgu drwy'r gaeaf, maen nhw i'w gweld drwy'r flwyddyn gron. Eu tymor hedfan, fodd bynnag ydy rhwng Ebrill a Thachwedd.

Mae'r enw Lladin (Polygonia c-album "c"-gwyn), y Saesneg (comma, "atalnod") ac un o'r enwau Ffrangeg yn cyfeirio at y nod gwyn ar ffurf atalnod ar ochr isaf yr isadain. Mae'r enwau Cymraeg a'r enw amgen Ffrangeg ill tri yn cyfeirio at ffurf "carpiog" yr adennydd. Mae un o'r enwau Ffrangeg yn tynnu ar draddodiad sy'n cysylltu ffurfiau toredig a lliwiau coch tanllyd â'r diafol.

Enw amgen: adain garpiog.

HANES YR ENWAU FFRENGIG AR Y FANTELL GARPIOG
(Dyma drosiad o'r esboniad isod yn y Ffrangeg)
Bathodd Geoffroy ym 1762 ddau enw Ffrangeg ar y FANTELL GARPIOG, sef “Le Gamma”, sy’n gwneud synnwyr wrth gymharu’r llythyren sydd yn gorwedd ar ei chefn â g (gamma Γ mewn groeg). Yr enw arall yw “Robert-le-Diable” (Robat y Diafol) oherwydd ymyl fratiog ei adennydd (ymadrodd Ffrangeg: découpe à la diable) yn ogystal â’r cymysgedd o liwiau (ymadrodd Ffrangeg: couleur de diable enrhumé, sef lliw diafol annwydog), lliwiau du, “tannaidd”, melyngoch. Mae’r enw ei hun yn tarddu o un nofelau mwyaf poblogaidd y cyfnod rhwng y 17C a’r 19C o'r enw “Buchedd dychrynllyd a rhyfeddol Robat y Diafol” (La terrible et merveilleuse vie de Robert le Diable), yn ôl chwedl o’r 13C.

Les noms vernaculaires créés par Geoffroy en 1762 sont "Le Gamma", justifié si on décrypte la lettre alaire comme un G (gamma en grec), et "Le Robert-le-Diable", en raison de la découpe "à la diable" du bord échancré des ailes, et de la "couleur de diable enrhumé", bariolée de fauve, de noir et de feu. Le nom lui-même est tiré d'un des romans les plus populaires du XVIIe au XIXe, La terrible et merveilleuse vie de Robert le Diable, d'après une légende du XIIIe siècle.

Prif fwyd yr oedolyn ydy ysgall (Cirsium a Carduus), a mwyar duon: (Rubus fruticosus), Iorwg (Hedera helix) a Centaurea a'r yswydden (Ligustrum vulgare).

Isrywogaethau

golygu
  • P. c. imperfecta (Blachier, 1908) Gogledd Affrica
  • P. c. extensa (Leech, [1892]) Canol a Gorllewin Tsieina
  • P. c. kultukensis Kleinschmidt, 1929 Transbaikalia
  • P. c. hamigera (Butler, 1877) Ussuri
  • P. c. koreana Bryk, 1946 Korea
  • P. c. sachalinensis Matsumura, 1915 Sakhalin
  • P. c. asakurai (Nakahara, 1920) Taiwan
  • P. c. agnicula (Moore, 1872) Nepal [6]

Cyffredinol

golygu

Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnwys mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.

Wedi deor o'i ŵy mae'r fantell garpiog yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.

Gweler hefyd

golygu
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau

golygu
  1.  Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
  2. Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.
  3. UK Safari
  4. 4.0 4.1 Comma page at UK Butterflies site
  5. "Gwefan Butterfly Conservation". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-10-22. Cyrchwyd 2012-10-03.
  6. Funet.fi; adalwyd 3 Hydref 2012