Marchlyn Mawr

llyn cronfa ddŵr, Gwynedd, Cymru

Cronfa ddŵr yng Ngwynedd yw Marchlyn Mawr neu Llyn Marchlyn Mawr. Saif ar lethrau Elidir Fawr, ac mae'n cael ei ddefnyddio fel rhan o'r system gynhyrchu trydan yng Ngorsaf Bŵer Dinorwig. Mae'r orsaf bwer yma yn defnyddio trydan ar adegau pan nad oes cymaint o alw amdano i bwmpio dŵr o Llyn Peris islaw i fyny i'r Marchlyn Mawr. Pan fo mwy o alw am drydan, mae'r dwr yn cael ei ollwng yn ôl i lawr i gynhyrchu trydan. Oherwydd hyn mae lefel y llyn yn amrywio yn fawr. Mae Afon Marchlyn Mawr, sy'n llifo o'r llyn, yn ymuno ag Afon Ogwen ger Bethesda.

Marchlyn Mawr
Mathcronfa ddŵr, llyn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.13708°N 4.06891°W Edit this on Wikidata
Rheolir ganFirst Hydro Company Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddEryri Edit this on Wikidata
Map