Maria o Awstria, Ymerodres Lân Rufeinig

brenhines cyflawn (1528-1603)

Ymerodres Gydweddog i Maximilian II, Ymerawdwr Glân Rhufeinig oedd yr Archdduges Maria o Awstria (21 Mehefin 152826 Chwefror 1603). Gwasanaethodd Maria fel rhaglaw tra oedd ei thad, yr Ymerawdwr Siarl V, yn absennol o Sbaen rhwng 1548 a 1551, ac eto, rhwng 1558 a 1561 tra oedd ei brawd Felipe II, brenin Sbaen yn absennol.

Maria o Awstria, Ymerodres Lân Rufeinig
Ganwyd21 Mehefin 1528 Edit this on Wikidata
Madrid Edit this on Wikidata
Bu farw26 Chwefror 1603 Edit this on Wikidata
Convent of Las Descalzas Reales Edit this on Wikidata
DinasyddiaethSbaen Edit this on Wikidata
Galwedigaethbrenhines cyflawn Edit this on Wikidata
SwyddHoly Roman Empress Edit this on Wikidata
TadSiarl V Edit this on Wikidata
MamIsabel o Bortiwgal Edit this on Wikidata
PriodMaximilian II, Ymerawdwr Glân Rhufeinig Edit this on Wikidata
PlantAnna o Awstria, Rudolf II, Ymerawdwr Glân Rhufeinig, Ernst van Oostenrijk, Elisabeth of Austria, Matthias, Maximilian III, Archduke of Austria, Albert VII, Archduke of Austria, Archduke Wenceslaus of Austria, Archduchess Margaretha of Austria, Ferdinand von Habsburg, Friedrich von Habsburg, Marie von Habsburg, Karl von Habsburg, Eleonore Erzherzogin von Österreich, Marie von Habsburg Edit this on Wikidata
PerthnasauMaximilian II, Ymerawdwr Glân Rhufeinig Edit this on Wikidata
LlinachHabsburg Edit this on Wikidata

Ganwyd Maria ym Madrid yn ferch i Siarl V, Ymerawdwr Rhufeinig Sanctaidd a Brenin Sbaen, ac Isabella o Bortiwgal. Fe’i magwyd yn Toledo a Valladolid yn bennaf gyda’i brawd Felipe a chwaer Joanna.

Ym 1548, yn 20 oed, priododd ei chefnder yr Archddug Maximilian.[1][2] Rhoddodd hi 16 o blant iddo yn ystod 28 mlynedd o briodas. Roedd hi a Maximilian yn Rhaglywiaid Sbaen tra roedd ei thad yn delio â materion gwleidyddol yn yr Almaen o 1548 i 1551. Ar ôl i'w thad ddychwelyd i Madrid fe symudon nhw i fyw yn llys tad Maximilian, Ferdinand I, yn Fienna. Ar ôl i Ferdinand farw ym 1564, daeth Maximilian yn Ymerawdwr. Er bod ei gŵr yn oddefgar ynghylch materion crefyddol, roedd Maria yn Babydd brwd. Bu farw Maximilian ym 1576, ond parhaodd Maria i fyw yn y llys ymerodrol yn Fienna tan 1582, pan ddychwelodd i Madrid, lle bu’n byw hyd at ei marwolaeth ym 1603.

Cyfeiriadau golygu

  1. Kamen, Henry (1998). Philip of Spain (yn Saesneg). Yale University Press. t. 35. ISBN 978-0-300-07800-8.
  2. Anne Ake (2001). Austria (yn Saesneg). Lucent Books. t. 25. ISBN 978-1-56006-758-0.