Matthias, Ymerawdwr Glân Rhufeinig
Uchelwr o Dŷ Hapsbwrg oedd Matthias (24 Chwefror 1557 – 20 Mawrth 1619) a fu'n Ymerawdwr Glân Rhufeinig o 1612 i 1619, yn Frenin Bohemia o 1611 i 1617, yn Archddug Awstria o 1608 i 1619, ac yn Frenin Hwngari a Chroatia o 1608 i 1618.[1]
Matthias, Ymerawdwr Glân Rhufeinig | |
---|---|
Ganwyd | 24 Chwefror 1557 Fienna |
Bu farw | 20 Mawrth 1619 Fienna |
Dinasyddiaeth | yr Ymerodraeth Lân Rufeinig |
Galwedigaeth | casglwr, gwleidydd |
Swydd | Ymerawdwr Glân Rhufeinig, brenin Hwngari |
Priod | Anna of Tyrol |
Llinach | Habsburg |
Gwobr/au | Marchog Urdd y Cnu Aur, Urdd y Cnu Aur |
Ganed yn Fienna i Maximilian (mab hynaf Ferdinand I, Ymerawdwr Glân Rhufeinig) a'i wraig Maria. Daeth Maximilian yn Ymerawdwr Glân Rhufeinig ym 1564. Bu farw Maximilian ym 1576, a fe'i olynwyd gan frawd hŷn Matthias, Rudolf II. Aeth Matthias i'r Iseldiroedd Sbaenaidd ym 1577 i olynu Johann o Awstria yn llywodraethwr dros y taleithiau hynny. Nid oedd yn disgleirio wrth lywodraethu, a methodd i drefnu cyfaddawd rhwng lluoedd Catholig Sbaen a'r Protestaniaid dan Wiliam o Oren cyn iddo ddychwelyd i Awstria ym 1581.[2]
Fe'i penodwyd yn Llywodraethwr Awstria ym 1593 gan yr Ymerawdwr Rudolf, ac yn y swydd honno bu'n cefnogi y Gwrth-Ddiwygiad ac yn gostegu sawl gwrthryfel gan werinwyr Protestannaidd yn y cyfnod 1595–97. Bu'r ymgyrch hon yn newid mawr i bolisi Maximilian o gymodi rhwng yr Eglwys Gatholig a'r enwadau Protestannaidd. Bu Matthias hefyd yn rheoli lluoedd yr ymerodraeth yn erbyn yr Otomaniaid yn ystod y Rhyfel Tyrcaidd Hir ym 1594–95 ac ym 1598–1601. Ym 1606 cytunwyd ar Heddwch Zsitvatorok rhwng Matthias a'r Swltan Ahmed I, a llwyddodd Matthias hefyd i heddychu gwrthryfel yn Hwngari drwy ganiatáu rhyddid crefyddol a rhywfaint o ymreolaeth. Wrth i Rudolf ddioddef yn fwyfwy o iselder ysbryd ac esgeuluso'i ddyletswyddau gwladol, ac yn sgil marwolaeth ei frawd Ernest ym 1595, rhuthrodd y Hapsbwrgiaid eraill i gytuno ar olyniaeth y frenhinllin. Ym 1606 cydnabuont Matthias yn bennaeth ar Dŷ Hapsbwrg ac yn etifedd i'r goron. Am chwe mlynedd, hyd at farwolaeth yr ymerawdwr ym 1612, bu brwydr dros rym rhwng y ddau frawd. Ym 1608 ymgynghreiriodd ystadau Hwngari, Awstria, a Morafia â Matthias yn erbyn Rudolf, a choronwyd Matthias yn Frenin Hwngari ac yn Frenin Croatia, ac ym 1611 yn Frenin Bohemia.[2]
Esgynnodd Matthias i orsedd yr Ymerodraeth Lân Rufeinig yn sgil marwolaeth Rudolf ym 1612. Roedd ei deyrnasiad yn gyfnod digyffro ar y cyfan, ac enciliodd yr ymerawdwr o fywyd cyhoeddus yn niwedd ei oes gan roi grym yn nwylo'i brif gynghorwr, Melchior Klesl. Methiant a fu'r ymdrechion i gymodi'r Catholigion a'r Protestaniaid yn y cynulliad ymerodrol. Tyfodd gwrthwynebiad yn erbyn Matthias ymhlith y Protestaniaid, a sbardunwyd y Rhyfel Deng Mlynedd ar Hugain (1618–48) gan wrthryfel ym Mohemia. Bu farw Matthias yn Fienna yn 62 oed a fe'i olynwyd yn Ymerawdwr Glân Rhufeinig gan ei gefnder Ferdinand II.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Carl Eduard Vehse (1986). Memoirs of the Court of Austria (yn Saesneg). G. Barrie. t. 261.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 (Saesneg) Matthias (Holy Roman emperor). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 12 Ebrill 2020.
Rhagflaenydd: Rudolf II |
Ymerawdwr Glân Rhufeinig 1612 – 1619 |
Olynydd: Ferdinand II |