Marina Popovich
Awdur o Rwsia oedd Marina Lavrentievna Popovich (20 Gorffennaf 1931 - 30 Tachwedd 2017) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel awyrenwr, peilot-prawf a pheiriannydd. Roedd yn gyrnol yn awyrlu Rwsia, ac yn 1964 hi oedd y ferch gyntaf o Rwsia i hedfan drwy'r mur sain.
Marina Popovich | |
---|---|
Ganwyd | 20 Gorffennaf 1931 Velizhsky District |
Bu farw | 30 Tachwedd 2017 Krasnodar |
Dinasyddiaeth | Rwsia |
Addysg | Doethuriaeth Nauk mewn Peirianneg |
Alma mater | |
Galwedigaeth | hedfanwr, llenor, peilot prawf, peiriannydd |
Plaid Wleidyddol | Plaid Gomiwnyddol yr Undeb Sofietaidd |
Priod | Pavel Popovich |
Gwobr/au | Urdd Baner Coch y Llafur, Urdd y Bathodyn Anrhydedd, Meistr Anrhydeddus Chwaraeon, CCCP, Medal Jiwbili "I Goffáu 100fed Pen-blwydd Geni Vladimir Ilyich Lenin" (10 gair / words), Medal Jiwbilî "50 Mlynedd o Luoedd Arfog yr Undeb Sofietaidd", Medal Jiwbilî "60 Mlynedd o Luoedd Arfog yr Undeb Sofietaidd", Medal Jiwbilî "70 Mlynedd o Luoedd Arfog yr Undeb Sofietaidd", Medal"Am Wasanaeth Arbennig", Medal Jiwbili "20 Mlynedd ers Buddugoliaeth Rhyfel Gwladgarol 1941–1945", Medal Llafur y Cynfilwyr, Medal "I gofio 850fed Pen-blwydd Moscaw, Medal"Yn Coffáu 1500 mlynedd Pen-blwydd Kiev", Cymhwyster dosbarth milwrol y peilot, Medal "For Impeccable Service", 3rd class, Medal "For Impeccable Service", 2nd class |
Ganed Marina Lavrentievna Vasiliyeva yn Rhanbarth Velizhsky (Rwsieg: Ве́лижский райо́н) ffin gorllewinol eithaf Rwsia, a bu farw yn Krasnodar, ychydig i'r de o'i man geni. Cafodd gladdedigaeth wladwriaethol yn y 'Mynwent Coffa, Milwrol, Ffederal' ym Moscfa. Mae'n awdur ar naw llyfr a gelwyd seren yng nghytser Cancer ar ei hôl.[1]
Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Hedfan Sifil y Wladwriaeth, St Petersburg. Priododd Pavel Popovich. Roedd yn gymarol wleidyddol ei natur, ac yn ystod ei hoes bu'n aelod o Blaid Gomiwnyddol yr Undeb Sofietaidd.
Oherwydd ei gwaith ar y MiG, sef math arbennig o awyren cyflym, a elwir yn fighter jet, gelwid hi yn "Madame MiG".[2] Torrodd dros gant record yn y byd hedfan, gyda 40 math gwahanol o awyren.[2][3]
Magwraeth
golyguGanwyd Marina Vasilieva ym 1931 yn Ardal Velizhsky o Smolensk Oblast, ond symudodd gyda'i theulu i Novosibirsk, bron yng nghanol Rwsia, yn ystod yr Ail Ryfel Byd.[4]
Dechreuodd ddysgu hedfan fel plentyn ond, yn dilyn y rhyfel, gwaharddodd yr Undeb Sofietaidd fenywod rhag gwasanaethu fel peilotiaid milwrol. Yn 16 oed, gan gyflwyno ei hun fel 22 oed, ysgrifennodd at y cadlywydd Sofietaidd Kliment Voroshilov yn gofyn iddo ei derbyn i ysgol hedfan. Ymyrrodd Voroshilov ar ei rhan a chafodd ei derbyn i Technosum Hedfan Novosibirsk lle graddiodd yn 1951.[5]
Gwaith
golyguAr y dechrau, gweithiodd fel peiriannydd, ac yna'n ddiweddarach fel hyfforddwr hedfan. Yn 1962, aeth i mewn i'r grŵp cyntaf o fenywod a fyddai'n hyfforddi i ddod yn gosmonotau (gofodwyr) yn y rhaglen ofod Sofietaidd. Ar ôl dau fis o hyfforddiant, cafodd ei gwrthod o'r rhaglen.[4] Cafodd ei gŵr, Pavel Popovich, ei dderbyn i'r rhaglen, gan ddod yn wythfed person yn y gofod ar fwrdd Vostok 4 yn 1962.
Daeth yn beilot llawn yn y Llu Awyr Sofietaidd yn 1963, ac yn 1964 fe'i derbyniwyd fel peilot-prawf milwrol. Yn ddiweddarach y flwyddyn honno, torrodd y mur sain mewn MiG 21. Aeth i mewn i'r fyddin 'wrth-gefn' ym 1978 ac yna ymunodd â Biwro Cynllunio Antonov (Wcraineg: Державне підприємство "Антонов") fel peilot-prawf. Yno gosododd ddeg record hedfan ar awyren o'r enw'r "Antonov An-22". Ymddeolodd ym 1984.
Anrhydeddau
golygu- Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Urdd Baner Coch y Llafur, Urdd y Bathodyn Anrhydedd, Meistr Anrhydeddus Chwaraeon, CCCP, Medal Jiwbili "I Goffáu 100fed Pen-blwydd Geni Vladimir Ilyich Lenin" (10 gair / words), Medal Jiwbilî "50 Mlynedd o Luoedd Arfog yr Undeb Sofietaidd", Medal Jiwbilî "60 Mlynedd o Luoedd Arfog yr Undeb Sofietaidd", Medal Jiwbilî "70 Mlynedd o Luoedd Arfog yr Undeb Sofietaidd", Medal"Am Wasanaeth Arbennig", Medal Jiwbili "20 Mlynedd ers Buddugoliaeth Rhyfel Gwladgarol 1941–1945", Medal Llafur y Cynfilwyr, Medal "I gofio 850fed Pen-blwydd Moscaw, Medal"Yn Coffáu 1500 mlynedd Pen-blwydd Kiev", Cymhwyster dosbarth milwrol y peilot, Medal "For Impeccable Service", 3rd class, Medal "For Impeccable Service", 2nd class .
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Попович Марина Лаврентьевна". admin-smolensk.ru. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-04-10. Cyrchwyd 2011-01-01.
- ↑ 2.0 2.1 "Биография летчика-испытателя Марины Попович" (yn Russian). TASS. 2017-11-30.CS1 maint: unrecognized language (link)
- ↑ Russian Cosmonaut Marina Popovich discloses UFOs. - ExopoliticsTV interview with Alfred Lambremont Webre.
- ↑ 4.0 4.1 "Marina Popovich, Record-Breaking Soviet Test Pilot, Is Dead". New York Times. 2017-12-09.
- ↑ "Legendary female Soviet pilot and UFO hunter, Marina 'Madam MIG' Popovich, dies at 86". RT. 2017-11-30.