Wcreineg
Iaith Slafonaidd Ddwyreiniol yw'r Wcreineg. Hon yw iaith swyddogol Wcráin a phrif iaith yr Wcreiniaid. Siaredir hefyd gan gymunedau Wcreinaidd yng Nghasachstan, Moldofa, Gwlad Pwyl, Rwmania, Lithwania, a Slofacia. Fe'i ysgrifennir gan ddefnyddio'r wyddor Gyrilig. Mae rhywfaint o gyd-ddealltwriaeth rhwng yr Wcreineg a'r Felarwseg a'r Rwseg, ac ohonyn nhw y tarddodd yn y 12fed a'r 13g. Fel y Felarwseg, mae ynddi lawer o eirfa a fenthyciwyd o'r Bwyleg.[4]
Enghraifft o'r canlynol | iaith naturiol, iaith fyw |
---|---|
Math | Slafeg dwyreiniol |
Rhagflaenwyd gan | Rwtheneg |
Rhagflaenydd | Rwtheneg, Hen Rwtheneg |
Enw brodorol | українська мова |
Nifer y siaradwyr | |
cod ISO 639-1 | uk |
cod ISO 639-2 | ukr |
cod ISO 639-3 | ukr |
Gwladwriaeth | Wcráin, Rwsia, Gwlad Pwyl, Canada, Casachstan, Belarws, Rwmania, Slofacia, Serbia, Unol Daleithiau America, Hwngari, Tsiecia, Moldofa |
Rhanbarth | Dwyrain Ewrop, Canolbarth Ewrop |
System ysgrifennu | Yr wyddor Gyrilig |
Corff rheoleiddio | Academi Genedlaethol Gwyddorau Wcráin, Institiwt yr Iaith Wcreineg, Sefydliad Ieithyddiaeth Potebnia, Commissioner for the Protection of the State Language |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Gramadeg
golyguMae'r Wcreineg yn iaith asiadol (fusional), enwol-gwrthrychol (nominative-accusative), ac mae'n defnyddio arddodiaid i gyfleu cyfeiriad a natur symud (satellite framed). Mae'r iaith yn gwahaniaethu rhwng 'ti' a 'chi', ac mae'n gallu gollwng y goddrych (null-subject). Trefn arferol y frawddeg yw Goddrych-Berf-Gwrthrych (SVO)[5]. Mae trefnau eraill yn gyffredin oherwydd y rhyddid y mae system ffurfdroi'r iaith yn ei ganiatáu.
Mae gan enwau un o 3 chenedl: gwrywaidd, benwyaidd, diryw; maen nhw'n ffurfdroi yn ôl:
- 7 cyflwr: enwol, gwrthrychol, genidol, derbyniol, offerynnol, lleoliadol, cyfarchol;
- 2 rhif: unigol, lluosog.
Mae ansoddeiriau'n cytuno gydag enwau yn ôl cenedl, cyflwr a rhif.
Ceir 4 amser i'r ferf yn Wcreineg:
- presennol (теперішній): читає;
- gorffennol (минулий): читав;
- dyfodol syml (простий майбутній): читатиме;
- dyfodol cwmpasog (складний майбутній): буде читати.
Wszystkie czasowniki mają dwa aspekty – dokonany (доконаний) і niedokonany (недоконаний).
Mae'r amser gorberffaith wedi'i golli yn yr Wcreineg modern, fel yn Pwyleg, yn y bôn nid yw'n cael ei ddefnyddio. Erbyn hyn, mae o'n cael ei ystyried yn hynafol. Ar lafar, prin y'i defnyddir o gwbl; dim ond mewn arddull lenyddol y gall ymddangos.
Tafodieithoedd
golyguMae'n bosib gwahaniaethu dau grŵp o dafodieithoedd Wcreineg – gogleddol a deheuol. O fewn y grŵp deheuol ceir dau is-grŵp, gorllewinol a dwyreiniol (gweler y llun)[6]:
- Gogleddol – Y brif wahaniaeth o gymharu â'r tafodieithoedd deheuol yw datblygiad y synau Proto-Slafeg *e, *o mewn sillafau caeedig, a'r Proto-Slafeg *ě (ymha bynnag safle). Yn nhafodieithoedd y de maent yn troi'r cyfan yn i (ikavism fel y'i gelwir), ond yn y tafodieithoedd gogleddol mewn sillafau di-acen maent naill ai'n aros yr un mor llydan e, o neu'n gulach y, u. Yn ogystal, yn y tafodieithoedd hyn mewn sillafau acennog, nid yw'r sain yn trawsffurfio'n a fel yn y de, ac fe geir deuseiniaid amrywiol (er enghraifft u̯o, u̯e ac ati.) neu lafariad rheolaidd, ond yn fwy yn ôl (e.e. 'u', 'y').
- dwyreiniol - Wedi'i nodweddu gan ynganiad mwy blaen o y (tebyg i Bwyleg), dad-felareiddio l (hefyd yn debyg i Bwyleg) a'r ynganiad o ky, hy , xy gyda chytsain galed.
- gorllewinol – O'i gymharu â'r grŵp dwyreiniol, mae'n fwy heterogenaidd. Fe'i nodweddir gan 'y' sy'n diflannu neu'n is, 'ł' mwy felar (tebyg i Rwsieg) ac ynganiad meddal o 'ḱi', 'x́i' (ond 'hy' fel arfer).
Cyfeiriadau
golygu- ↑ https://ethnologue.com/language/ukr/. Ethnolog. dyddiad cyrchiad: 30 Ionawr 2024.
- ↑ (yn en) Ethnologue (25, 19 ed.), Dallas: SIL International, ISSN 1946-9675, OCLC 43349556, Wikidata Q14790, https://www.ethnologue.com/, adalwyd 23 Ebrill 2022
- ↑ (yn en) Ethnologue (25, 19 ed.), Dallas: SIL International, ISSN 1946-9675, OCLC 43349556, Wikidata Q14790, https://www.ethnologue.com/
- ↑ (Saesneg) Ukrainian language. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 24 Gorffennaf 2014.
- ↑ "Stechishin-1958". Wals.info. Cyrchwyd 2012-05-22.
- ↑ Kuraszkiewicz, Władysław (1963). Zarys dialektologii wschodniosłowiańskiej z wyborem tekstów gwarowych. Warszawa: Państwowe Wydawnictwo Naukowe. tt. 67–74.