Marius Jonker

dyfarnwr rygbi'r undeb, De Affrica

Dyfarnwr rygbi'r undeb o Dde Affrica yw Marius Jonker (ganed 19 Mehefin 1968 yn Kimberley, Noord-Kaap - talaith Penrhyn y Gogledd, De Affrica). Roedd yn un o brif ddyfarnwyr rygbi'r undeb De Affrica gan ddyfarnu yng Nghwpan Rygbi'r Byd 2007 yn Ffrainc. Mae'n perfformio'n rheolaidd yng ngemau cystadleuaeth i daleithiau a thimau lleol De Affrica, y Currie Cup a chystadleuaeth ryngwladol y Super Rugby.

Marius Jonker
Ganwyd19 Mehefin 1968 Edit this on Wikidata
Kimberley Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner De Affrica De Affrica
Galwedigaethswyddog gêm rygbi'r undeb Edit this on Wikidata
Chwaraeon

Mae Jonker eisoes wedi gwasanaethu ar lawer o gemau rhyngwladol, gan gynnwys profion canol blwyddyn a chyfres Five-Nations yr IRR Pacific. Gwnaeth Jonker, ynghyd â Wayne Barnes o Loegr a Nigel Owens o Gymru, ei debout Cwpan y Byd yng Nghwpan Rygbi'r Byd 2007 yn Ffrainc.

Dechreuodd Jonker chwarae rygbi yn yr ysgol. Ar ôl graddio o ysgol uwchradd, Hoerskool Gert Maritz yn Pietermaritzburg, ymunodd â Heddlu De Affrica a chwarae rygbi fel maswr ar gyfer Heddlu Pietermaritzburg. Enillodd ddiplomâu hefyd mewn Adnoddau Dynol a Chysylltiadau Llafur.[1] Ym mis Medi 1994, symudodd i Richards Bay i ddechrau gweithio gyda Bell Equipment, a chwarae rygbi ar gyfer North Coast Rhinos o Empangeni yn Zululand. Yna chwaraeodd dros Richards Bay, lle'r oedd yn gapten ar y XV cyntaf ac yn gapten y clwb.

Dechreuodd ei yrfa dyfarnu yn ôl siawns yn 2000 pan fethodd y dyfarnwr ddod i gêm leol ym Mae Richards a chymerodd Jonker ei le.[2]

Ymddeolodd fel dyfarnwr ar ddiwedd tymor 2014, gyda gêm ryngwladol rhwng Namibia a'r Almaen yn ei gêm olaf.[3]

Personol

golygu

Mae'n briod â Belinda, a chanddynt dau blentyn, Rynhardt a Brenda.[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 "'Reluctant referee' makes the big league". Kwana. 27 January 2006. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 December 2007. Cyrchwyd 25 February 2009.
  2. "Rugby rules". zululand.co.za. 2007. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 October 2011. Cyrchwyd 25 February 2009. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  3. "Marius Jonker calls it a day". Sport24. 30 Oktober 2014. Cyrchwyd 30 Hydref 2014. Check date values in: |date= (help)

Dolenni allanol

golygu