Agor y brif ddewislen

Kimberley, De Affrica

dinas yn Noord-Kaap, De Affrica

Mae Kimberley yn ddinas yn Ne Affrica sydd wedi'i lleoli tua 1,230 metr uwchlaw lefel y môr yn nhalaith y Noord-Kaap, yng nghanol yr anialwch y Karoo Fawr. Kimberley yw prifddinas y dalaith, er ei bod yn eithaf ddwyreiniol y Noord-Kaap. Mae gan Kimberley 220,000 o drigolion ac mae'n rhan o fwrdeistref ôl-apartheid newydd Sol Plaatje.

Kimberley
Kimberley-001.jpg
Math tref Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1873 Edit this on Wikidata
Cylchfa amser UTC+2 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i Changsha Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Sol Plaatje Local Municipality Edit this on Wikidata
Gwlad Baner De Affrica De Affrica
Arwynebedd 90.4 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr 1,184 ±1 metr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gyda Warrenton Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 28.7386°S 24.7586°E Edit this on Wikidata
Cod post 8301, 8300 Edit this on Wikidata

Roedd Kimberley yn rhan o Griqualand West hanesyddol ond fe'i trosglwyddwyn hi i dalaith y Penrhyn o dan bwysau Prydeinig yn ail hanner yr 19g. Mae dinas Kimberley yn enwog am ei diwydiant deimwnt a'r fwynglawdd diemwnt enwog, Big Hole.

HanesGolygu

 
Kimberley, 1899
 
Cofeb y Rhyfel Byd Cyntaf yn Kimberley
 
"Red Cap Party" Fleetwood Rawstone ar y Colesberg Kopje

DeimwntiauGolygu

Darganfod deimwntiau yw sail llawer o lewyrch a thwf poblogaeth Kimberly mewn ardal, sydd fel arall, yn cynnwys tir sych a chrin. Yn 1867, yn Hopetown, 120 cilomedr i'r de o Kimberley, darganfuwyd diemwnt Eureka gan blentyn, gan achosi rhuthr diemwnt go iawn.

Yn 1866 darganfu Erasmus Jacobs diemwnt 21.25 carat ar lannau'r Afon Oren ger Hopetown. Digwyddodd ail ganfyddiad (sef diemwnt 83.50 carat yn yr achos hwn) ym 1871 ar lethrau bryn Colesberg Kopje. Arweiniodd y darganfyddidau hyn y ras diemwnt gyntaf, a ddenodd filoedd o lowyr i'r ardal. Diflannodd y bryn yn gyflym, gan droi i mewn i'r hyn a elwir yn y twll mawr (Big Hole). Cafodd y prif anheddiad a ffurfiwyd yn dilyn y mewnlifiad hwn o ymfudwyr, "New Rush", ei ailenwi'n Kimberley ar 5 Mehefin 1873, er anrhydedd i John Wodehouse, Iarll Kimberley, Ysgrifennydd Gwladol Prydain.

Roedd darganfod diemwntau yn ardal Kimberley yn un o'r ffactorau a gyfrannodd at gyfaddawdu'r cydbwysedd oedd eisoes yn ansicr rhwng y Prydeinwyr, a oedd yn rheoli Trefedigaeth y Penrhyn (y "Cape Colony"), a'r Boers o'r Orange Free State. Er gwaethaf y protestiadau gan y Boers, honnodd y Prydeinwyr ar unwaith mai eu hardal hwy oedd ardal y pwll, a ddaeth yn ganolfan Brydeinig gydag enw "Griqualand West".

Y cwmni mwyngloddio diemwnt mwyaf i'w neilltuo oedd De Beers o eiddo Cecil Rhodes. Daeth Kimberley yn gyflym yn ddinas fwyaf yr ardal, a Rhodes yn un o'r dynion cyfoethocaf yn y byd. Agorwyd nifer o gloddiadau: daeth y mwyaf, tua 170,000 m² o led a 240 metr o ddyfnder, â Rhodes 3 tunnell o ddiemwntau. Ar 2 Medi 1882 daeth Kimberley y ddinas gyntaf De Affrica i gael goleuadau trydan yn y strydoedd. Ysgolion Kimberley, a drosglwyddwyd yn ddiweddarach i Johannesburg, oedd y cnewyllyn cyntaf y byddai un o brif brifysgolion De Affrica yn ei ddatblygu, Prifysgol y Witwatersrand.

Daeth Rhodes yn Brif Weinidog y Cape Colony 1890.

Rhyfel Annibyniaeth y BoerGolygu

Ar 14 Hydref 1899, ar ddechrau Ail Ryfel y Boer, daliwyd Kimberley dan warchae gan luoedd y Boer am 124 diwrnod. Mewn ymgais i dorri'r gwarchae, dioddefodd lluoedd Prydain niwed helaeth; a ffodd y y gweinidogion ar 15 Chwefror 1900. Yn y cyfamser, roedd y Prydeinwyr wedi adeiladu un o'r gwersyll crynhoi yn Kimberley ar gyfer carcharu carcharorion Boer gan gynnwys yn ddrwgenwog, menywod a phlant.[1]

ApartheidGolygu

Cafodd gwrthwynebiad i apartheid yn Kimberley mor gynnar â chanol 1952 fel rhan o'r Ymgyrch Gwrthwynebu (Defiance Campaign). Lluniodd Dr Arthur Letele grŵp o wirfoddolwyr i herio'r cyfreithiau gwahanu trwy feddiannu meinciau 'Europeaid yn Unig’ yng Ngorsaf Reilffordd Kimberley - a arweiniodd at arestio a charcharu. Yn ddiweddarach yn y flwyddyn, roedd cafwyd Gwrthdystiad Mayibuye yn Kimberley, ar 8 Tachwedd 1952, yn ymwneud ag ansawdd gwael y cwrw yn y neuadd gwrw. Arweiniodd y ffracas at saethu ac angladd torfol dilynol ar 12 Tachwedd 1952 yn Mynwent West End Kimberley. Daliwyd yr 'arweinwyr' honedig yn y ddalfa: Dr Letele, Sam Phakedi, Pepys Madibane, Olehile Sehume, Alexander Nkoane, Daniel Chabalala a David Mpiwa.[2]

Ôl-ApartheidGolygu

Ffurfiwyd talaith newydd y Noord-Kapp yn 1994 wedi cwymp Apartheid. Cafwyd cyfnod o ail-enwi nifer o fannau yn yr ardal, fel bu ar draws De Affrica wrth ddad-Apartheideiddio. Sefydlwyd Llywodraeth Leol Sol Plaatje (Sol Plaatje Local Municipality) sy'n cwmpasu dinas Kimberley.

Yn ychwanegol at y ddinas mae anheddiad Platfontein a grëwyd pan enillodd cymuned !Xun a Khwe o Schmidtsdrift ac yn wreiddiol o Angola/Namibia y tir ym 1996. Roedd y rhan fwyaf o'r gymuned wedi symud i'r dreflan newydd erbyn diwedd 2003.

Nodweddion KimberleyGolygu

Ym 1913, sefydlwyd ysgol hedfan gyntaf De Affrica yn Kimberley; hyfforddwyd y rhai a ddaeth i fod yn beilotiaid cyntaf Awyrlu De Affrica yno. Yn Kimberley hefyd crëwyd marchnad stoc gyntaf De Affrica. Ym mis Mai 2000 cynhaliwyd cynhadledd yn Kimberley ar destun gwrthdaro niferus yn ymwneud â'r farchnad diemwnt. Enwebwyd Proses Kimberley ar ôl y cyfarfod hwn, sef menter sy'n anelu at reoli mewnforion ac allforion diemwntau garw o ardaloedd sydd mewn perygl o wrthdaro.

Mae'r Driekops Eiland ("ynys tri pegwn") yn safle archeolegol sydd wedi'i leoli yng ngwely Afon Riet, ger tref Plooysburg, ger Kimberley. Mae'n safle pwysig sy'n cynnwys petroglyffau, (neu creig-gerfiadau) sef ysgrathiadau a darluniadau cyn-hanes ar greigiau.

Daeth Kimberley yn dref brifysgol yn 2014 gydag agor Prifysgol Sol Plaatje, a enwyd ar ôl y deallusydd Sol Plaatje a gyfieithoedd peth o waith William Shakespeare i'w iaith frodorol, Tswana ac ymladdodd dros hawliau i'r bobl ddu frodorol ac i ddyrchafu ei famiaith.

HeddiwGolygu

Erbyn hyn, mae'r fwrdeistref yn cael ei dominyddu'n wleidyddol gan yr ANC, ond mae gwrthwynebiad y Democratic Alliance yn gymharol gryf yno hefyd, er ei bod wedi methu sawl gwaith i ennill y mwyafrif o bleidleisiau. Ym mis Rhagfyr 2004, maer y fwrdeistref yn Patrick Lenyibi (ANC).

Yn etholiadau trefol 2006, enillodd yr ANC 40 o'r 55 o seddau cyngor trefol, gan adael dim ond 10 i'r Gynghrair Ddemocrataidd a 2 i'r Democratiaid Annibynnol.

DemograffegGolygu

Cefndir Ethnig (Cyfrifiad 2011)[3]

  • 63.1% - Affricaniaid Du
  • 26.8% - Kleurlinge
  • 1.2% - Asiaid/Indiaid
  • 8.0% - Gwyn

Iaith Gyntaf (Cyfrifiad 2011)[3]

Henebion ac amgueddfeyddGolygu

Pentref yw'r amgueddfa hon mewn gwirionedd, atgynhyrchiad awyr agored ar 17 erw o Kimberley ar adeg y rhythr Diemwnt.

GwasanaethGolygu

Mae Kimberley Airport (Maes Awyr BJ Vorster gynt) 7 cilometr i'r de o ganol y ddinas.

DolenniGolygu

CyfeiriadauGolygu

  1. Sessional Papers By Great Britain Parliament. House of Commons. 1902.
  2. Anonymous (2011-03-16). "Mayibuye Uprising-black South Africans, slaves in the land of their birth, rose up to peacefully throw off their shackles". South African History Online. http://sahistory.org.za/pages/chronology/thisday/1952-11-08.htm.
  3. 3.0 3.1 Sum of the Main Places Roodepan, Galeshewe and Kimberley Cyfrifiad 2011.