Arlunydd, cerflunydd, dylunydd graffig a gwneuthurwr ffilm o Gaerdydd ydy Mark James (ganed tua 1969). Ym Mai 2017 cyhoeddodd blat i ddathlu'r diwrnod y bu bron i Nigel Farage gael damwain angheuol: ‘Commemorating the Anniversary of the day Nigel Farage nearly died’.[1] Dywedodd nad dymuniad i Farage farw oedd hyn, ond astudiaeth o sut all pethau wedi troi allan, pe na bai Farage wedi byw. Yn 2017 hefyd cynlluniodd furlun ar gyfer Clwb Ifor Bach.

Mae wedi gweithio mewn llawer o gyfryngau o'i stiwdio yng Nghaerdydd a gyda artistiaid a chantorion cerdd fel: Super Furry Animals, Gilles Peterson, Karl Hyde, Cian Ciaran, Euros Childs, The Charlatans, Joe Goddard a Florence. Ef oedd cynllunydd stiwdios Island Records ac Universal Music. Y gwaith a ddaeth ag e i'r amlwg am y tro cyntaf oedd ‘Chinpira’, a hynny yn 2004, sef astudiaeth o hwligan pêl-droed - cerflun bychan 6 modfedd a achosodd i'r FA a'r wasg Brydeinig fod yn gandryll o feirniadol.

Yna, yn 2007 rhyddhaodd Marc James 171 argraffiad cyfyngedig o'r enw ‘Another Soldier’, a beirniadwyd y gwaith hwn yn hallt hefyd - gan fod ei neges yn amlwg yn wrth-ryfel. Cyhoeddwyd 171 gan mai dyma'r nifer o filwyr Prydeinig a laddwyd yn Rhyfel Irac. Dewisiwyd ei degan-wrapiwr CardBoy Cartridges gan MoMA yn Efrog Newydd yn eu harddangosfa Color Chart, ac arddangoswyd hwn o gwmpas y byd: Llundain, Paris, Tokyo, Oslo ac mewn amryw o gyhoeddiadau. Enw ei gwmni yw 'Mark James_Works'.[2]

Ffilm golygu

Yn 2012 cyhoeddodd ffilm arbrofol, ‘This Dull Ache’, gyda cherddoriaeth a sgwennwyd yn arbennig ar ei chyfer gan Cherrystones, a chafodd ei sgrinio fel rhan o ddathliadau Adidas yng Ngemau Olympaidd 2012 yn Llundain. Cynhyrchwyd y gwaith gan Marc a Academy Films, ar y cyd. Cyhoeddwyd y gwaith hefyd gyda chlawr 10” a llyfryn 20 tudalen, gyda gwaith celf a grewyd ar gyfer y film. Unwaith eto cyfyngodd y nifer, y tro hwn cyhoeddwyd 100.

Galeri golygu

Yn 2013 agorodd galeri yn ei dref enedigol, Caerdydd, gyda pheth nawdd gan Gyngor y Celfyddydau. Yn ei gyflwyniad ‘Sorry It’s Not For You’, dewisiodd nifer o eitemau o archifdy i gyd-fynd a gwaith newydd ar gyfer yr arddangosfa: celf a cherddoriaeth law yn llaw.[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. ysgrif gan David Owens yn walesonline.co.uk; Mai 2017. “This isn’t about wishing anyone dead. It’s about how different things would have been in this country – and Europe – right now if things had turned out differently on that first Thursday of May in 2010.
  2. artandsoleblog.com Archifwyd 2017-06-20 yn y Peiriant Wayback.; Art & Sole; Gorffennaf 2011.
  3. markjamesworks.com; Archifwyd 2017-05-04 yn y Peiriant Wayback. hanes y galeri, ac arddangosfa subject to change; 'markjamesworks.com.

Dolennau allanol golygu