Martha, Jac a Sianco (ffilm)

Ffilm Gymraeg o 2008 yn seiliedig ar nofel Caryl Lewis ydy Martha, Jac a Sianco. Addaswyd y nofel yn sgript gan Caryl Lewis hefyd a chafodd arweiniad gan y sgriptiwr Meic Povey.[1] Darlledwyd y ffilm am y tro cyntaf ar ddydd Nadolig, 2009.[2] Mae'r ffilm yn serennu Sharon Morgan fel Martha, Ifan Huw Dafydd fel Jac, Geraint Lewis fel Sianco. Cyfarwyddwyd y ffilm dwy awr o hyd gan Paul Jones a chafodd ei chynhyrchu gan Lona Llewelyn Davies gwmni Teledu Apollo sy'n rhan o gwmni Boomerang.[3] Ysgrifennwyd y sgôr gan John Hardy a Hugh Fowler.

Martha, Jac a Sianco
Cyfarwyddwr Paul Jones
Cynhyrchydd Lona Llewelyn Davies
Ysgrifennwr Y nofel:
Caryl Lewis
Sgript:
Caryl Lewis
Serennu Sharon Morgan
Ifan Huw Dafydd
Geraint Lewis
Dylunio
Cwmni cynhyrchu Teledu Apollo
Dyddiad rhyddhau 25 Rhagfyr, 2009
Amser rhedeg 120 munud
Gwlad Cymru
Iaith Cymraeg

Ffilmiwyd rhannau helaeth o'r ffilm yn Cribor Fawr, Pont-Siân, Ceredigion.[4]

Adrodda'r ffilm hanes Martha a'i dau frawd, Jac a Sianco wrth i'r tri ohonynt geisio dod i delerau gyda newidiadau yn eu bywydau wedi marwolaeth eu mam. Triga'r tri ohonynt ar fferm deulu "Graig-Ddu" yng nghefn gwlad gorllewin Cymru.

Gwobrau

golygu

Yn 2009 enillodd y ffilm chwech gwobr BAFTA Cymru. Roedd y categorïau'n cynnwys yr Actor Gorau a'r Actores Orau (Ifan Huw Dafydd a Sharon Morgan), Cyfarwyddwr Ffotograffiaeth Gorau: Drama, Y Cynllunio Gorau, Y Coluro Gorau a’r Trac Sain Gerddorol Wreiddiol Orau.[5]

Yn yr Ŵyl Gyfryngau Celtaidd yn Newry, Gogledd Iwerddon yn 2010, enillodd y ffilm un o'r prif wobrau sef y wobr Spirit of the Festival.[6]. Rhoddir y wobr am ffilm a gyflwynir yn rhannol neu'n gyfangwbl mewn iaith Geltaidd.[7]

Yng Ngŵyl Ffilm Ryngwladol Moondance yn 2009, cipiodd y ffilm y Wobr Atlantis am y Ffilm Naratif Orau.[2][8]

Dolenni allanol

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. A talented, hot and magnificent seven. Wales Online. 04-01-2008. Adalwyd ar 26-04-2010
  2. 2.0 2.1 Gwefan John Hardy Music Archifwyd 2014-06-05 yn y Peiriant Wayback 26-04-2010
  3. Dyfodol darlledu gwasanaeth cyhoeddus Newyddion Aber. Gwefan Prifysgol Aberystwyth. 25-04-2008. Adalwyd 26-04-2010
  4. IMDb Adalwyd ar 26-04-2010
  5. Martha, Jac a Sianco yn serennu yn seremoni BAFTA Cymru 2008 Gwefan S4C. Adalwyd ar 26-04-2010
  6. Martha, Jac a Sianco yn ennill gwobr ‘Ysbryd yr Ŵyl’ yn Newry Gwefan S4C. Adalwyd 26-04-2010
  7. Martha, Jac a Sianco wins ‘Spirit of the Festival’ in Newry Archifwyd 2011-07-20 yn y Peiriant Wayback Gwefan Welsh Icons. 23-04-2010. Adalwyd ar 26-04-2010
  8. 2009 Festival Winners Archifwyd 2010-07-25 yn y Peiriant Wayback Moondance Film Festival. Adalwyd 26-04-2010