Ffalabalam
Rhaglen deledu Cymraeg i blant oedd Ffalabalam. Cychwynodd y gyfres ym 1980 a daeth i ben yn 1989, gyda dros 1,000 o benodau wedi eu darlledu.[1] Cynhyrchwyr y rhaglen oedd HTV Cymru ac fe'i ddangoswyd ar HTV Wales yng Nghymru cyn symud i S4C yn 1982.[2]
Ffalabalam | |
---|---|
Genre | Rhaglen i blant |
Gwlad/gwladwriaeth | Cymru |
Iaith/ieithoedd | Cymraeg |
Darllediad | |
Sianel wreiddiol | HTV Cymru a S4C |
Darllediad gwreiddiol | 3 Mawrth 1980 – 29 Rhagfyr 1989 |
Roedd teitlau'r rhaglen wedi ei greu o luniau gan blant wedi ei animeiddio, a plant yn canu enw'r rhaglen. Pentref Ffalabalam oedd lleoliad y gyfres gyda adeiladau bychan wedi eu gosod mewn stiwdio. Roedd sawl tedi, doli ac anifail tegan yn byw yn y pentref yn cynnwys Dilys Draenog, Tedi Pinc, Sara, Nain, Meical y Mwnci, Owain Oen, Ken Kangarw, Bwni Binc, Lleucu'r Llwynog, Arth Frown, Huwcyn, Penri'r Pengwyn. Byddai'r ddau gyflwynydd yn crwydro'r pentre ac adrodd y stori drwy leisio meddyliau y cymeriadau a chanu caneuon.
Cyflwynwyr
golygu(rhestr anghyflawn)
- Huw Ceredig[1]
- Glenda Clwyd
- Elfed Dafis[3]
- Bethan Davies[1]
- Kevin Davies[4]
- Hywel Emrys[5]
- Martyn Geraint[6]
- Geraint Griffiths[4]
- Elliw Haf
- Ioan Hefin
- Gwyneth Hopkins
- Siw Hughes[7]
- Dora Jones
- Elin Haydn Jones
- Caryl Parry Jones[4]
- Olwen Medi
- Sioned Mair
- Rhian Morgan
- Cefin Roberts
- Gareth Roberts
- Nia Roberts
- Sian Rivers
- Mair Rowlands[3]
- Ceri Tudno[4]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 'Dyma 1980' ar wefan Cofio. BBC Cymru.
- ↑ "Catalog LlGC". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-01-26. Cyrchwyd 2015-12-09.
- ↑ 3.0 3.1 Mewn Llun: Rhaglenni S4C dros y 30 mlynedd diwethaf. BBC Cymru (31 Hydref 2012).
- ↑ 4.0 4.1 4.2 4.3 Karen Price (22 Rhagfyr 2009). Ffalabalam’s trip down memory lane. WalesOnline.(Saesneg)
- ↑ Gwefan Equity[dolen farw](Saesneg)
- ↑ Welsh language panto Draw Dros Y Don heads to Ystradgynlais Miners Welfare. South Wales Evening Post (7 Tachwedd 2013).(Saesneg)
- ↑ Cofio, Siw Hughes; Adalwyd 2015-12-09
Dolenni allanol
golygu- Pennod o Ffalabalam ar YouTube