Marvin Hagler
Paffiwr o'r Unol Daleithiau oedd Marvelous Marvin Hagler (ganed Marvin Nathaniel Hagler; 23 Mai 1954 – 13 Mawrth 2021) a fu'n bencampwr pwysau canol y byd o 1980 i 1987.
Marvin Hagler | |
---|---|
Marvin Hagler yn ymweld â'r Tŷ Gwyn ym 1986 | |
Ganwyd | 23 Mai 1954 Newark |
Bu farw | 13 Mawrth 2021 Bartlett |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | paffiwr, actor |
Taldra | 177 centimetr |
Gwefan | http://www.marvelousmarvin.com |
Chwaraeon |
Ganed Marvin Nathaniel Hagler yn Newark, New Jersey, i deulu Affricanaidd-Americanaidd. Wedi i'w dad, Robert Sims, adael y teulu, cafodd Marvin, ei frawd Robbie, a'u pedair chwaer eu magu gan eu mam Ida Mae Hagler. Yn sgil difrod i'w cartref yn nherfysgoedd hiliol 1967, symudodd y teulu i Brockton, Massachusetts, ac yno dechreuodd Marvin a Robbie baffio. Enillodd Marvin bencampwriaeth amaturaidd yr Unol Daleithiau ym 1973, a throdd yn broffesiynol yn ddiweddarach y flwyddyn honno. Yn sgil buddugoliaethau yn erbyn y Sais Kevin Finnegan a "Bad" Bennie Briscoe o Philadelphia, cafodd Hagler gontract â Bob Arum, un o'r prif drefnwyr gornestau paffio yn Las Vegas.[1]
Ni fu enillydd yn ei gais cyntaf am deitl y byd, yn erbyn Vito Antuofermo, ym 1979. Enillodd Hagler deitl pwysau canol y byd ym 1980 drwy guro'r Llundeiniwr Alan Minter yn Arena Wembley, ac amddiffynnodd y teitl yn llwyddiannus 12 waith, gan gynnwys yn erbyn Roberto Durán, John Mugabi, a Tony Sibson. Newidiodd ei enw yn swyddogol i Marvelous Marvin Hagler ym 1982, er mwyn gorfodi cyflwynwyr y ring i ddefnyddio'i lysenw. Ei fuddugoliaeth enwocaf, mae'n debyg, oedd yn erbyn Thomas Hearns yn Caesars Palace, Las Vegas, ym 1985, gornest a gafodd ei alw'n syml yn "The Fight". Daeth ei res o lwyddiannau i ben yn erbyn Sugar Ray Leonard ym 1987 yn Caesars Palace, mewn gornest a benderfynwyd gan y beirniaid wedi 15 rownd. Gwrthodai Hagler dderbyn y dyfarniad, ac ymddeolodd o'r ring baffio.[1]
Cafodd Hagler bump o blant gyda'i wraig gyntaf, Bertha. Symudodd i'r Eidal yn sgil ei golled i Sugar Ray Leonard, ac yno actiodd mewn ffilmiau llawn cyffro. Ailbriododd, â'r Eidales Kay Guarrera, yn 2000. Bu farw Marvin Hagler yn 66 oed yn Bartlett, New Hampshire.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) John Rawling, "Marvin Hagler obituary", The Guardian (14 Mawrth 2021). Adalwyd ar 29 Mawrth 2021.
- ↑ (Saesneg) Richard Goldstein, "Marvelous Marvin Hagler, Middleweight Champion of the 1980s, Dies at 66", The New York Times (13 Mawrth 2021). Adalwyd ar 29 Mawrth 2021.