Mary Annes Payne
Nofelydd o Ynys Môn yw Mary Annes Payne. Bu'n dysgu Saesneg i ffoaduriaid y Cychod o Fietnam yn yr Alban ac ym Mhowys, cyn dychwelyd i Fôn, lle treuliodd gyfnod fel athrawes anghenion arbennig. Wedi rhoi'r gorau i ddysgu, mae hi nawr yn awdur.
Ei nofel gyntaf oedd Hogyn Syrcas, ac enillodd ei hail lyfr, sef Rhodd Mam, Y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir y Fflint a'r Cyffiniau 2007.[1]
Llyfryddiaeth
golygu- Hogyn Syrcas (Gwasg Gomer, Mawrth 2003)
- Rhodd Mam (Gwasg Gomer, Awst 2007)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Payne, Mary Annes". Rhestr Awduron Cymru. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-04-11. Cyrchwyd 30 Mai 2016.