Mary Jane Evans
Roedd Mary Jane Evans (3 Chwefror 1888 - 25 Chwefror 1922) yn athrawes, yn bregethwr ac yn actores Gymraeg, sy'n fwyaf adnabyddus am ei datganiadau unigol a'i monologau dramatig.[1][2][3][4]
Mary Jane Evans | |
---|---|
Ganwyd | 3 Chwefror 1888 Cwm Tawe |
Bu farw | 25 Chwefror 1922 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | dramodydd |
Y cartef a'r teulu
golyguGanwyd Mary Jane Francis mewn tŷ yn Reed Row, Godre'r-graig, Cwm Tawe, yn ferch i Charles Francis, arweinydd seindorf Ystalyfera, a'i wraig Mary Ann (ganwyd Hutchings). Roedd y tad yn ymddiddori mewn offerynnau cerdd fel ei dad yntau a darddai o Ystalyfera o ardal Caerllion yng Ngwent. Roedd Thomas Hutchings, tad Mary Ann, hefyd yn gerddor. Wedi crwydro cryn dipyn, ymsefydlodd Thomas Hutchings yn Ystalyfera a gweithio yn y gwaith alcan lleol. Roedd ei wraig hefyd, ar ochr ei mam, o deulu cerddorol, teulu Anthony o Gwm Aman.
Pan oedd Mary Jane tua 5 oed symudodd y teulu i dyddyn rhieni'r fam yng Nhwm Tawe Villa, gan gadw ychydig o wartheg a gwerthu llaeth. Byddai Mary'n cario dwy ystên o laeth i'r cwsmeriaid ar ei ffordd i ysgol Pant-teg, gan fod ei thad erbyn hyn yn gweithio yng ngwaith alcan Ynysmeudwy. Dyna paham y mabwysiadodd y llysenw "Llaethferch" yn nes ymlaen.[5] Fe'i denwyd, ar y dechrau, at ganu lleisiol o dan hyfforddiant William Asaph Williams, ond trodd at ddarllen ac at lenyddiaeth, a dechreuodd gystadlu ar adrodd a chymryd rhan yng nghyfarfodydd "pen chwarter" ysgolion Sul cylch Pant-teg.
Adrodd a choleg
golyguYn ystod Diwygiad 1904–1905 derbyniwyd hi'n aelod o eglwys Pant-teg cyn mynd ati, gydag eraill, i sefydlu eglwys arall yng Ngodre'r-graig yn 1905. Cafodd hyfforddiant mewn adrodd gan David Thomas Jones ar awgrym ei gweinidog Ben Davies. Bu'n adrodd mewn cyfarfodydd llenyddol a chystadlu mewn eisteddfodau ac enillodd lawer o gadeiriau a chwpanau'r wobrau. Yn Ebrill 1909 aeth i Ysgol yr Hen Goleg yng Nghaerfyrddin o dan Joseph Harry, a gwerthwyd y gwartheg i dalu am ei hyfforddiant. [6]
Cychwynodd bregethu yng nghapeli Godre'r-graig ar 8 Gorffennaf 1909 gan gynnwys nifer o adroddiadau yn ei phregeth. Yn 1912 eisteddodd arholiad mewn areithio ac enillodd radd A.E.V.C.M. yn y 'Victoria College of Music'. Dysgodd yn ysgol Tro'rglien, Cwm-twrch, ac aeth am ddau dymor i'r Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain; dychwelodd adref yn dychwelyd yno yn Ionawr 1916, oherwydd diffyg rian i'w chynnal.
Trodd at y ddrama a ffurfiodd gwmni drama yn Ynysmeudwy gan weithio gyda Gunstone Jones a Gwernydd Morgan, ar ddramau megis Gruffydd o'r Glyn, ond roedd cystadlu ar adrodd yn bwysicach ganddi. Yna dechreuodd gynnal cyfarfodydd adrodd dramatig ar ei phen ei hun, neu gydag unawdydd er mwyn iddi gael seibiant a newid i'r gynulleidfa. Daeth galw eithriadol am y cyfarfodydd hyn o bob rhan o Gymru a rhannau o Loegr o 1918 hyd 1922.
Priodi
golyguPriododd, heb yn wybod i'w rhieni, 5 Mawrth 1919, â William David Evans, athro yn ysgol elfennol y Maerdy, a ryddhawyd o'r fyddin yn dioddef oddi wrth effeithiau nwy gwenwynig yn Ieper. Bu ef yn llwyddiannus fel canwr penillion gyda'r delyn gan fod yn fuddugol yn yr Eisteddfod Genedlaethol a bu'n arweinydd Côr Undebol y Maerdy.
Cyfeiriadau
golyguDaw llawer o'r erthygl o'r Bywiadur Cymreig (LlGC) a sgwennwyd gan Evan David Jones, (1903 - 1987), Aberystwyth, ac a gyhoeddwyd yn 1997. Gweler: Y Bywgraffiadur Cymreig (arlein)
- ↑ Evan David Jones. "Evans, (née Francis), Mary Jane ('Llaethferch'; 1888-1922), elocutionist". Dictionary of Welsh Biography. Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Cyrchwyd 5 Awst 2019.
- ↑ Dyddiad geni: Y Bywgraffiadur Cymreig (yn Saesneg a Cymraeg). 1 Gorffennaf 1997. ISBN 978-0-900439-86-5. OL 11343067M. Wikidata Q5273977.
- ↑ Dyddiad marw: https://biography.wales/article/s3-EVAN-JAN-1888. Y Bywgraffiadur Cymreig. dyddiad cyrchiad: 9 Ionawr 2019.
- ↑ Man geni: Y Bywgraffiadur Cymreig (yn Saesneg a Cymraeg). 1 Gorffennaf 1997. ISBN 978-0-900439-86-5. OL 11343067M. Wikidata Q5273977.
- ↑ Russell Davies (15 Mehefin 2015). People, Places and Passions: A Social History of Wales and the Welsh 18701948. University of Wales Press. t. 247. ISBN 978-1-78316-239-0.
- ↑ Galwedigaeth: https://biography.wales/article/s3-EVAN-JAN-1888. Y Bywgraffiadur Cymreig. dyddiad cyrchiad: 9 Ionawr 2019.