Mary Lloyd
Cerflunydd o Gymru oedd Mary Charlotte Lloyd (23 Ionawr 1819 – 13 Hydref 1896) a astudiodd gyda John Gibson yn Rhufain a bu'n byw am ddegawdau gyda'r ffeminist Frances Power Cobbe.
Mary Lloyd | |
---|---|
Ganwyd | 23 Ionawr 1819 Corwen |
Bu farw | 13 Hydref 1896 Hengwrt |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | cerflunydd |
Partner | Frances Power Cobbe |
Bywgraffiad
golyguGanwyd Mary Lloyd ym Mhlas Rhagad, rhwng Corwen a Glyndyfrdwy, Sir Feirionnydd yr wythfed o ddau ar bymtheg o blant, a'r cyntaf o chwech o ferched, i Edward Lloyd, Plas Rhagad a'i wraig Frances Maddocks.[1] Roedd ei thad yn sgweier sylweddol dros diroedd mewn llawer o siroedd yn y gogledd, yn berchen ar 4,300 erw o dir. Etifeddodd Mary arian gan ei modryb Margaret, yn ogystal â rhoddion gan Eleanor Charlotte Butler a Sarah Ponsonby, Merched Llangollen. Bu farw ei ddau riant ym 1858.
Astudiodd Mary a gweithiodd gyda'r artist Ffrengig Rosa Bonheur.[2] Ym 1853 roedd yn gweithio yn stiwdio'r cerflunydd Cymreig John Gibson yn Rhufain, a gyda'r cerflunydd Americanaidd Harriet Hosmer.[1]
Cyfarfu Mary â Frances Power Cobbe yn ystod gaeaf 1861-2, yn Rhufain. Rhyngweithiodd Mary a Frances â merched o'r un anian yn yr Eidal yn y cyfnod, ill dau'n yn byw bywyd anghydffurfiol, gyda rhagolygon ffeministaidd. Ym 1863, ymgartrefodd y ddau yn Llundain.
Ym 1858, etifeddodd Lloyd gyfran yn ystâd yr Hengwrt, Llanelltyd. Roedd hyn yn caniatáu i Lloyd gyfeirio ati'i hun fel perchennog tir wrth arwyddo deisebau yn cefnogi pleidlais i fenywod, a rhoddodd hefyd rai hawliau gwleidyddol lleol iddi, fel y gallu i benodi ficer [1]. Ymneilltuodd hi a Frances Power Cobbe i'r Hengwrt o Lundain ym mis Ebrill 1884.
Perthynas â Frances Power Cobbe
golyguRoedd Mary a Frances yn gwpl, ac yn cael eu cydnabod felly gan eu holl ffrindiau. Byddai llythyrau yn cael eu cyfeirio at “chi a Miss Lloyd” a chyfrannodd Frances at ei hysgrifennu ei hun gyda ein tŷ, ein gardd ni a therminoleg gyd berthynas tebyg. Bu Frances yn ysgrifennu at ei ffrind, Mary Somerville, yn cyfeirio at Mary fel fy ngwraig.
Marwolaeth
golyguBu farw Mary ym 1896 o anhwylder y galon. Ysgrifennodd ei ffrind, yr awdur Blanche Atkinson, Newidiodd tristwch marwolaeth Miss Lloyd holl agwedd bodolaeth Miss Cobbe. Roedd llawenydd bywyd wedi mynd. Bu gymaint o gyfeillgarwch rhyngddynt, na welir yn aml - perffaith mewn cariad, cydymdeimlad a chyd-ddealltwriaeth. [3] Claddwyd Mary mewn bedd a rhannwyd wedyn a'i chariad Frances Power Cobbe, ym Mynwent Eglwys Sant Illtyd, Llanelltyd.[4]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 Mitchell, Sally (2004). Frances Power Cobbe: Victorian Feminist, Journalist, Reformer. University of Virginia Press.
- ↑ Cherry, Deborah (2000). Beyond the Frame: Feminism and Visual Culture, Britain 1850 -1900. Routledge.
- ↑ Shopland, Norena 'Frances and Mary' from Forbidden Lives: LGBT stories from Wales Seren Books (2017)
- ↑ Find a Grave Memorial – Mary Lloyd adalwyd 17 Mehefin 2018