John Gibson (cerflunydd)
Cerflunydd Fictorianaidd o Gymru oedd John Gibson (bed. 19 Mehefin 1790; marw 27 Ionawr 1866), a anwyd yn Nhŷ Capel Forddlas, Llansanffraid Glan Conwy ac a magwyd yn y Gyffin, ger Conwy. Astudiodd yn Rhufain gyda'r meistr Antonio Canova.[1][2] Ymhlith ei waith mwyaf nodedig y mae Robert Peel a welir yn Abaty Westminster, cerflun o William Huskisson yn St George's Square ac un o'r Frenhines Victoria yn Mhalas Westminster.
John Gibson | |
---|---|
Ganwyd | 19 Mehefin 1790 Conwy |
Bu farw | 27 Ionawr 1866 Rhufain |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | arlunydd, cerflunydd |
Penderfynnodd y teulu symud i America, pan oedd yn 9 oed; wedi cyrraedd Lerpwl, fodd bynnag, penderfynnwyd bwrw angor yn y dref honno.[3] Yno, prentisiodd gyda chwmni dodrefn cyn symud i ddysgu sut i greu cerfluniau allan o farmor, gyda'r Meistri Francis. Daeth i gysylltiad a rhai o geflunwyr mawr ei gyfnod wedi iddo symud i Lundain yn 1817. Bu'r hanesydd William Roscoe yn noddwr iddo am flynyddoedd; priododd ŵyres Roscoe â Henry Sandbach, o Hafodunos, Abergele, a bu hi a Gibson yn ffrindiau oes.
Ym Hydref 1817 symudodd i Rufain i weithio yng ngweithdy y cerflunydd Eidalaidd enwog Antonio Canova, efallai'r cerflunydd neo-glasurol mwya. Roedd ei gerfluniau i gyd yn yr arddull Glasurol, a cheisiodd Gibson atgyfodi'r arfer o beintio cerfluniau marmor gyda lliwiau llachar fel y gwnaeth y Groegiaid hynafol. Ef oedd hoff gerflunydd y Frenhines Victoria. Mae 10 o'i gerfluniau i'w gweld yn Academi Frenhinol y Celfyddydau yn Llundain a phump yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd.
Bu Gibson yn byw am gyfnod hir fel oedolyn yn Rhufain gyda’i bartner, yr arlunydd o Gymro, Penry Williams. Roedd ei waith enwocaf 'The Tinted Venus' wedi achosi dadlau pan gafodd ei arddangos gyntaf. Gellir ei weld yn awr yn Oriel Gelf Walker yn Lerpwl.
Oriel
golygu-
The Tinted Venus
-
The Tinted Venus
-
Aurora
-
Y Duw Mawrth gyda Ciwpid
-
Love Cherishing the Soul.. yn Walker Art Gallery, Lerpwl.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Irwin, David, "Antonio Canova, marchese d'Ischia | Italian sculptor", Britannica.com, cyrchwyd 1 Ebrill 2017
- ↑ "Canòva, Antonio nell'Enciclopedia Treccani", Treccani.it, cyrchwyd 1 Ebrill 2017
- ↑ Ellis, M., (1953). GIBSON, JOHN (1790-1866), R.A., cerflunydd. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 13 Meh 2022, o https://bywgraffiadur.cymru/article/c-GIBS-JOH-1790; adalwyd 13 Mehefin 2022