Llanelltud

pentref a chymuned yng Ngwynedd
(Ailgyfeiriad o Llanelltyd)

Pentref bychan, plwyf eglwysig a chymuned yng Ngwynedd yw Llanelltud ("Cymorth – Sain" ynganiad ) [1] (hefyd Llanelltyd). Saif ger y briffordd A470, ychydig i'r gogledd o dref Dolgellau ac ar lan ogleddol Afon Mawddach. Ceir gweddillion Abaty Cymer ychydig i'r dwyrain, abaty Sistersaidd a sefydlwyd yn 1199.

Llanelltud
Mathcymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.7576°N 3.9051°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000075 Edit this on Wikidata
Cod OSSH714194 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/auLiz Saville Roberts (Plaid Cymru)
Map

Mae'r eglwys bresennol, a gysegrir i Sant Illtud, yn adeilad diweddar, yn dyddio o 1900, ond mae'r fynwent gron yn awgrymu fod y safle yn un hynafol.

Heblaw pentrefi Llanelltud a'r Bont-ddu, mae'r gymuned yn cynnwys copa Diffwys, y copa uchaf yn y Rhinogau, a Mwynfeydd aur Clogau. Roedd poblogaeth y gymuned yn 495 yn 2001. Yma hefyd roedd Hengwrt, plasdy Robert Vaughan (c.1592 - 1667), y casglwr llawysgrifau.

Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[2][3][4]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanelltud (pob oed) (514)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanelltud) (287)
  
57.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanelltud) (292)
  
56.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llanelltud) (89)
  
38%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau golygu

  1. Geraint Bowen (gol.), Atlas Meirionnydd (Y Bala, 1972).
  2. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  3. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  4. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.