Materoliaeth hanesyddol
Athroniaeth hanes neu ddull hanesyddiaeth Farcsaidd yw materoliaeth hanesyddol sydd yn seiliedig ar fateroliaeth ddilechdidol. Fel methodoleg faterolaidd mae'n cymryd yn ganiataol bod datblygiadau mewn hanes yn dibynnu ar y byd materol, sef amodau economaidd a thechnolegol, yn hytrach na delfrydau. Mae'n dal taw'r dilechdid ydy'r ddeddf sylfaenol sydd yn gyrru hynt cymdeithas, a dehonglir hanes fel proses ddilechdidol ar ffurf brwydrau rhwng y dosbarthiadau. Yn ôl y dull Marcsaidd, rhennir hanes dynol yn gyfnodau a nodweddir gan yr amodau a thechnegau economaidd sydd yn pennu natur y gymdeithas ac yn creu'r dosbarth sydd yn gwrthwynebu ac yn trawsnewid y drefn wleidyddol. Mynnir bod syniadau yn ymddangos o ganlyniad i brosesau materolaidd yn unig, hynny yw yn gynnyrch amodau'r byd materol neu yn ymateb iddynt, ac felly ni ellir cael mudiadau ac ideolegau chwyldroadol heb yr amodau cywir i'w meithrin.
Datblygwyd materoliaeth hanesyddol gan Karl Marx (1818–83) a Friedrich Engels (1820–95) yn eu gwaith Die deutsche Ideologie (ysgrifennwyd 1845–46, cyhoeddwyd 1932). Cyflwynir crynodeb o'r ddamcaniaeth hon yn rhagair Marx i'w waith Zur Kritik der politischen Ökonomie (1859).