Friedrich Engels
Athronydd Almaenig a sosialydd oedd Friedrich Engels (28 Tachwedd 1820 – 5 Awst 1895). Cyd-ysgrifennodd Y Maniffesto Comiwnyddol (1848) gyda Karl Marx.
Friedrich Engels | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd |
28 Tachwedd 1820 ![]() Barmen ![]() |
Bu farw |
5 Awst 1895 ![]() Achos: canser breuannol ![]() Llundain ![]() |
Dinasyddiaeth |
Yr Almaen ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth |
economegydd, gwyddonydd cymdeithasol, damcaniaethwr gwleidyddol, athronydd, ysgrifennwr, chwyldroadwr, cymdeithasegydd, ffeminist, newyddiadurwr ![]() |
Adnabyddus am |
Y Maniffesto Comiwnyddol, The German Ideology, Socialism: Utopian and Scientific ![]() |
Prif ddylanwad |
Heraclitos, Ludwig Feuerbach, The Essence of Christianity, Karl Marx ![]() |
Plaid Wleidyddol |
Communist League ![]() |
Tad |
Friedrich Engels ![]() |
Partner |
Mary Burns ![]() |
Llofnod | |
![]() |
Ganwyd yn Barmen, talaith y Rhein, ym Mhrwsia. Cychwynnodd ar yrfa fusnes yn Bremen, ac yn ei amser hamdden fe fagodd ddiddordeb yng ngweithiau'r "Almaenwyr Ifainc" (gan gynnwys Ludwig Börne, Karl Gutzkow, a Heinrich Heine) ac, yn ddiweddarach, yr "Hegeliaid Ifainc" (megis Bruno Bauer a Max Stirner). Trodd Engels yn anffyddiwr ac yn chwyldroadwr yn athroniaeth y dilechdid Hegelaidd, a chyhoeddodd erthyglau dan yr enw Friedrich Oswald. Gwasanaethodd am un flwyddyn mewn catrawd fagnelau ym Merlin, ac yno fe fynychodd ddarlithoedd yn y brifysgol.
Gadawodd y fyddin ym 1842. Bu'n cwrdd â Moses Hess, a chafodd Engels ei berswadio ganddo i droi'n gomiwnydd a symud i Loegr. Treuliodd ei ddyddiau ym Manceinion yn y swyddfa fusnes, a'i nosweithiau yn y llyfrgell yn ymchwilio i'r amodau economaidd a gwleidyddol yn Lloegr. Cyfranodd erthyglau i gylchgronau yn Lloegr ac ar y cyfandir, gan gynnwys y Deutsch-Französische Jahrbücher dan olygyddiaeth Karl Marx ym Mharis. Cafodd berthynas glos â'r Wyddeles Mary Burns, er na phriodasant. Yn sgil ei marwolaeth ym 1863, cafodd berthynas â'i chwaer Lizzy Burns, a phriodasant ym 1878 ychydig oriau cyn ei marwolaeth hi.
Dychwelodd Engels i Bremen a chyhoeddodd ei lyfr Die Lage der arbeitenden Klasse in England (1845). Cafodd gyfarfodydd â Marx ym Mharis, Brwsel, ac yn Lloegr. Roedd Engels yn un o sefydlwyr y Gynghrair Gomiwnyddol yn Llundain ym 1847.
Wedi marwolaeth Marx ym 1883, Engels a gyflawnodd y gwaith o olygu a chyhoeddi'r ail gyfrol a'r drydedd gyfrol o Das Kapital (1885, 1894). Bu farw Engels o ganser yn 74 oed.