Materoliaeth ddilechdidol

Cyfundrefn neu ddull athronyddol a ddatblygwyd gan Karl Marx (1818–83) a Friedrich Engels (1820–95) yn ail hanner y 19g yw materoliaeth ddilechdidol sydd yn seiliedig ar ddamcaniaeth Hegelaidd y dilechdid. Fel ffurf ar fateroliaeth, mae'n cymryd yn ganiataol bod byd materol a chanddo ddirwedd gwrthrychol sydd yn annibynnol ar y meddwl neu'r ysbryd, ac yn groes felly i ddelfrydiaeth. Mae'n gosod cynsail eang ar gyfer materoliaeth hanesyddol drwy ddal taw'r dilechdid ydy'r ddeddf sylfaenol gyffredin sydd yn pennu datblygiadau ym myd natur, cymdeithas, a'r meddwl.

Yn ôl athroniaeth G. W. F. Hegel (1770–1831), proses resymegol ydy hanes sydd yn dilyn hynt y triawd: y ddiriaeth, yr haniaeth, a'r diamod. Mabwysiadodd Marx ac Engels enwau Johann Gottlieb Fichte (1762–1814) ar y triawd: y gosodiad, y gwrthosodiad, a'r cyfosodiad, neu thesis, antithesis, a synthesis. Safbwyntiau croes i'w gilydd ydy'r gosodiad a'r gwrthosodiad a gaent eu cytgordio neu gyfuno yn stad y cyfosodiad. Er bod naws uwchnaturiol i ddilechdid Hegel, tynnai Marx ac Engels ar fwriannau metaffisegol Hegeliaeth wrth fynd i'r afael ag ystyriaethau ontolegol y safbwynt materolaidd, a hynny mewn ymgais i ateb cwestiynau epistemolegol. Mynasant bod syniadau yn ymddangos o ganlyniad i brosesau materolaidd yn unig, hynny yw yn gynnyrch amodau'r byd materol neu yn ymateb iddynt.

Lluniodd Engels seiliau'r athrawiaeth yn y gyfrol Anti-Dühring (1878) a'i ysgrifeniadau Dialektik der Natur (ysgrifennwyd 1873–83, cyhoeddwyd 1925). Datblygodd sawl ffurf ar fateroliaeth ddilechdidol, gan gynnwys Marcsiaeth–Leniniaeth a fabwysiadwyd yn ideoleg swyddogol yr Undeb Sofietaidd.

Darllen pellach golygu