Seiclwr proffesiynol o wledydd Prydain ydy Matt Brammeier (ganwyd Matthew Martin Brammeier 7 Mehefin, 1985 yn Lerpwl). Mae'n reidio dros dîm proffesiynol UCI, sef Aqua Blue Sport.[1]

Matt Brammeier
Gwybodaeth bersonol
Enw llawnMatthew Martin Brammeier
LlysenwMatt
Dyddiad geni (1985-06-07) 7 Mehefin 1985 (38 oed)
Manylion timau
DisgyblaethFfordd a Thrac
RôlReidiwr
Tîm(au) Proffesiynol
2006
2007–
DFL-Cyclingnews-Litespeed
Profel Ziegler Continental Team
Golygwyd ddiwethaf ar
22 Medi 2007

Dewiswyd ef i gystadlu ym Mhencampwriaethau Trac y Byd yn 2003 a chynyrchiolodd Gymru yng Ngemau'r Gymanwlad yn 2006; yn y Ras Scratch (20 km), Ras Bwyntiau (40 km), Ras Ffordd (166.95 km) a'r Treial Amser (40 km).[2] Reidiodd dros dîm DFL-Cyclingnews-Litespeed yn 2006 cyn arwyddo cytundeb gyda thîm Profel Ziegler Continental Team ar gyfer tymor rasio 2007, mae Nikki Harris hefyd yn rhannol berchen ar y tîm yma.

Yn Nhachwedd 2007, fe gafodd ddamwain pan drawyd ef gan Lori Cymysgu Sment. Torrwyd ei ddwy goes.[3]

Yn 2009 newidiodd ei ddinasyddiaeth er mwyn cystadlu ar ran Gweriniaeth Iwerddon.

Canlyniadau golygu

Trac golygu

2003
1af Pursuit Tîm, Cwpan y Cenhedloedd
3ydd Pencampwriaeth Cenedlaethol Iau, Pursuit 3km
3ydd Ras Scratch, Cwpan y Cenhedloedd
9fed Pencampwriaeth Pursuit Tîm y Byd, Moscow
2004
1af Ras Ddiafol Grand Prix Caeredin
1af Ras Amatur 6 diwrnod Dortmund
2il Ras Bwyntiau 'Revolution' 4
2il Pursuit Tîm, Pencampwriaethau Trac Cenedlaethol
3ydd Ras Amatur 6 diwrnod Amsterdam
3ydd Pencampwriaeth Madison Cenedlaethol
5ed Cwpan y Byd Moscow Pursuit Tîm
6ed Pencampwriaeth Madison Ewrop
6ed Pencampwriaeth Pursuit Tîm Ewrop
6ed Pencampwriaethau Cyfres y Diafol Ewrop
8fed Pencampwriaethau Cyfres Ras Bwyntiau Ewrop
2005
2il, Cwpan y Byd Sydney Pursuit Tîm
3ydd, Ras Amatur 3 diwrnod Stuttgart

Ffordd golygu

2003
1af Ras Ffordd Odan 23 Chase Classic
1af Pencampwriaeth Cenedlaethol Iau, Rasio Ffordd
1af   Pencampwriaeth Cenedlaethol Treial Amser, Prydain
1af Ras Ffordd Goffa Rod Ellis
1af Ras Ffordd Goffa Alan Jewl
1af Ras Ffordd Dyffryn Weaver
2il Ras Ffordd Bath (Cyfres Cenedlaethol)
2il Taith Iau y Copaon (Saesneg: Junior Tour of the Peaks)
2il Darley Moor Stage Race: 2nd Stage 1 Prologue, 1st Stage 3 ITT
4ydd Route De L`avenier (Ras ar raddfa UCI 1.8)
2004
1af Ras Ffordd Frank Morgan
2il Pencampwriaeth Cenedlaethol Criterium, Horwich
3ydd Ras Ffordd Seacroft
2005
1s Ras Ffordd Goffa John Parkinson
2007
  Pencampwriaeth Cenedlaethol Treial Amser, Odan 23, Prydain

Cyfeiriadau golygu

  1. "2018 rider roster and first races confirmed". Nodyn:Ct. Aqua Blue Sport Limited. 1 Ionawr 2018. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-01-05. Cyrchwyd 5 Ionawr 2018.
  2. "Gwefan Swyddogol Gemau'r Gymanwlad". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2002-08-10. Cyrchwyd 2007-09-23.
  3. Matt Brammeier Knocked off by Cement Mixer Archifwyd 2007-12-30 yn y Peiriant Wayback. British Cycling 26 Tachwedd 2007
  • [1] Canlyniadau ar britishcycling.org.uk