Matt Richards
Nofiwr o Loegr a gystadlodd dros Gymru yw Matthew "Matt" Richards (ganwyd 17 Rhagfyr 2002).
Matt Richards | |
---|---|
Ganwyd | 17 Rhagfyr 2002 Caerwrangon |
Dinasyddiaeth | Cymru Lloegr |
Galwedigaeth | nofiwr |
Priod | Emily Large |
Gwobr/au | MBE |
Gwefan | https://www.mattrichardsswim.co.uk/ |
Chwaraeon | |
Tîm/au | New York Breakers |
Gwlad chwaraeon | y Deyrnas Unedig |
Cafodd ei eni yn Droitwich Spa, Gorllewin Canolbarth Lloegr,[1] i Gymro, Simon Richards, a mam Seisnig.
Nofiodd drydydd cymal y ras aur dull rhydd 4 x 200 metr dros Brydain Fawr yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2020, y tîm cyntaf ym Mhrydain i ennill y digwyddiad er 1908. Yn flaenorol, roedd wedi ennill dwy fedal arian mewn rasys cyfnewid dull tîm ym Mhencampwriaethau Ewrop.[2]
Enillodd Richards medal aur fel aelod o'r tîm y dynion yn y ras gyfnewid 4x200m dull rhydd yng Nghemau Olympaidd 2020.[3] Roedd Richards a Calum Jarvis y nofwyr newydd o Gymru i ennill medalau aur Olympaidd ers Irene Steer ym 1912.[4]
Ar ôl ennill 100 metr a'r 200 metr dull rhydd ym Mhencampwriaethau Nofio GB, dewiswyd Richards ar gyfer Gemau Olympaidd yr Haf 2024.[5] Yn Ngemau Olympaidd a gynhaliwyd ym Mharis, Richards oedd y seithfed rhagbrofol cyflymaf ar gyfer rownd derfynol 200 m dull rhydd. Yn y rownd derfynol, cafodd ei guro i'r ail safle o 0.02 yn unig o eiliad gan David Popovici.[6]
Yn yr un Gemau Olympaidd, nofiodd Richards yn y 4 × 200 m dull rhydd dynion eto, lle enillodd fedal aur arall.[7]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Droitwich-born Matthew Richards helps Team GB to relay final". Worcester News (yn Saesneg). 27 Gorffennaf 2021. Cyrchwyd 30 Gorffennaf 2024.
- ↑ "Three British medals on opening day of swimming at European Championships". Swimming.org (yn Saesneg). Cyrchwyd 21 Mai 2021.
- ↑ "Medalau aur cyntaf i Gymry yn Tokyo". BBC Cymru Fyw. 28 Gorffennaf 2021. Cyrchwyd 4 Awst 2021.
- ↑ Nicola Bryan (28 Gorffennaf 2021). "Tokyo Olympics: How Matt Richards went from garden pool to gold". BBC (yn Saesneg). Cyrchwyd 12 Awst 2021.
- ↑ "Speedo Aquatics GB Swimming Championships 2024". Swimming.org (yn Saesneg). Cyrchwyd 9 Ebrill 2024.
- ↑ "Richards wins silver with GB team-mate Scott fourth". BBC Sports (yn Saesneg). 29 Gorffennaf 2024.
- ↑ "GB retain relay title to win first swimming gold". BBC Sport (yn Saesneg). 30 Gorffennaf 2024. Cyrchwyd 30 Gorffennaf 2024.