Gemau Olympaidd yr Haf 1912
Cynhaliwyd Gemau Olympaidd 1912, a adnabyddir yn swyddogol fel Gemau'r Olympiad V, yn Stockholm, Sweden yn 1912. Bwriadwyd cynnal y gemau hyn yn Rhufain yn wreiddiol. Daeth cystadleuwyr i'r gemau o pob un o'r pum cyfandir am y tro cyntaf, a caiff hyn ei symboleiddio yn y cylchoedd Olympaidd. Cynhaliwyd y cytadlaethau athletau i gyd o fewn cyfnod cymharol fyr o fis am y tro cyntaf ers 1896, o ddiwedd mis mehefin tan ganol Gorffennaf. Dyma'r tro cyntaf i fedalau aur gael eu cyflwyno; mae medalau cyfoes fel arfer yn arian gyda gorchudd o aur. Stockholms Olympiastadion oedd y brif arena.
![]() | |
Data cyffredinol | |
---|---|
Enghraifft o'r canlynol | Gemau Olympaidd yr Haf ![]() |
Dyddiad | 1912 ![]() |
Dechreuwyd | 5 Mai 1912 ![]() |
Daeth i ben | 27 Gorffennaf 1912 ![]() |
Rhagflaenwyd gan | Gemau Olympaidd yr Haf 1908 ![]() |
Olynwyd gan | Gemau Olympaidd yr Haf 1916 ![]() |
Lleoliad | Stockholm Olympic Stadium, Stockholm ![]() |
Gwefan | https://www.olympic.org/stockholm-1912 ![]() |
![]() |
ChwaraeonGolygu
Cystadlwyd 16 o chwaraeon yng Ngemau 1912.
Cystadleuwyr CymreigGolygu
Roedd Irene Steer yn Gymraes gyntaf i ennill medal aur Olympaidd, fel aelod o'r dîm ras gyfnewid nofio 4x100m Prydain Fawr.[1]
Cenhedloedd a gyfranogoddGolygu
Roedd athletwyr yn cynyrchioli 28 Pwyllgor Cenedlaethol Olympaidd.
Cyfanswm MedalauGolygu
Dyma'r 10 cenedl a enillodd y cyfanswm uchaf o fedalau.
Safle | Cenedl | Aur | Arian | Efydd | Cyfanswm |
---|---|---|---|---|---|
1 | Unol Daleithiau America | 25 | 19 | 19 | 63 |
2 | Sweden | 24 | 24 | 17 | 65 |
3 | Prydain Fawr | 10 | 15 | 16 | 41 |
4 | Y Ffindir | 9 | 8 | 9 | 26 |
5 | Ffrainc | 7 | 4 | 3 | 14 |
6 | Yr Almaen | 5 | 13 | 7 | 25 |
7 | De Affrica | 4 | 2 | 0 | 6 |
8 | Norwy | 4 | 1 | 4 | 9 |
9 | Canada | 3 | 2 | 3 | 8 |
Hwngari | 3 | 2 | 3 | 8 |
CyfeiriadauGolygu
- ↑ "Cadw Sêr Cymru yn y Cof // Remembering Wales' Biggest Sports Stars". BBC Cymru Fyw. 21 Awst 2014. Cyrchwyd 12 Awst 2021.