Max Adler
Athronydd Marcsaidd, cymdeithasegydd a gwleidydd o Awstria oedd Max Adler (15 Ionawr 1873 – 28 Mehefin 1937) sydd yn nodedig am ei gyfraniadau at ysgol Awstro-Farcsiaeth.
Max Adler | |
---|---|
Ganwyd | 15 Ionawr 1873 Fienna |
Bu farw | 28 Mehefin 1937 Fienna |
Dinasyddiaeth | Awstria, Cisleithania |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, athronydd, cymdeithasegydd, athro cadeiriol, gwyddonydd gwleidyddol, academydd |
Swydd | Member of the Landtag of Lower Austria, Substitute Member of the Constitutional Court of Austria |
Cyflogwr | |
Plaid Wleidyddol | Plaid Ddemocrataidd, Sosialaidd Awstria |
Bywgraffiad
golyguGaned yn Fienna, Awstria-Hwngari, ac astudiodd gyfreitheg ym Mhrifysgol Fienna. Gweithiodd yn gyfreithiwr ac yn ei amser rhydd fe fu'n athronyddu, yn ymchwilio i gymdeithaseg, ac yn gwleidydda. Cychwynnwyd ar fyfyrgylch gweithwyr yn 1903 gan Adler, Karl Renner, a Rudolf Hilferding, a sefydlwyd y cyfnodolyn Marx-Studien (1904–23) gan Adler ac Hilferding. Cyfrannodd Adler yn aml at Der Klassenkampf, cylchgrawn Plaid Ddemocrataidd Gymdeithasol yr Almaen. Gwasanaethodd Adler yn Senedd Awstria o 1920 i 1923, yn aelod o gangen adain-chwith Plaid Ddemocrataidd Gymdeithasol Awstria (SPÖ). Fe'i penodwyd yn athro cymdeithaseg ym Mhrifysgol Fienna yn 1920, a daliodd y swydd honno nes ei farwolaeth. Bu farw yn Fienna yn 64 oed.[1]
Syniadaeth
golyguYn ei syniadaeth Farcsaidd mae Adler yn cyfuno delfrydiaeth athronyddol â realaeth economaidd-gymdeithasol, gyda chymorth ei astudiaethau cymdeithasegol, er mwyn dehongli Marcsiaeth yn nhermau penderfyniaeth a dadlau dros adolygu strategaeth wleidyddol y mudiad sosialaidd. Dadleuodd Adler bod y fwrdeisiaeth yn meddu ar unbennaeth dan gochl democratiaeth seneddol, ac ymgyrchodd dros sefydlu unbennaeth y proletariat drwy ddulliau cyfreithlon a di-drais, os bosib. Yn ei lyfr Politische oder soziale Demokratie (1926) mae'n rhybuddio bod angen i'r dosbarth gweithiol uno fel bod y mudiad sosialaidd yn barod i gymryd yr awenau pryd fyddai gwrthdaro'r dosbarthiadau ar ei eithaf. Rhodd ei gefnogaeth i fudiad cynghorau'r gweithwyr fel strategaeth o ennill chwyldro comiwnyddol heddychlon. Beirniadodd y Bolsieficiaid am sefydlu unbennaeth y blaid yn sgil Chwyldro Rwsia yn hytrach na throsglwyddo grym gwleidyddol i'r dosbarth gweithiol cyfan. O ran ei gyfraniadau at ddamcaniaeth Farcsaidd, defnyddiodd Adler syniadau neo-Kantaidd a phositifaidd ac adeiladodd ar seiliau epistemolegol Marcsiaeth fel damcaniaeth gymdeithasegol.
Llyfryddiaeth
golygu- Kausalitaet und Teleologie im Streite um die Wissenschaft (Fienna: Wien Brand, 1904).
- Marx als Denker: zum 25. Todesjahre von Karl Marx (Berlin: Buchhandlung Vorwärts, 1908).
- Marxistische Probleme: Beiträge zur Theorie der materialistischen Geschichtsauffassung und Dialektik (Stuttgart: J. H. W. Dietz Nachfolger, 1913).
- Wegweiser: Studien zur Geistegeschichte des Sozialismus (Stuttgart: J. H. W. Dietz Nachfolger, 1914).
- Die Staatsauffassung des Marxismus: ein Beitrag zur Unterscheidung von soziologischer und juristischer Methode (Fienna: Verlag der Wiener Volksbuchhandlung, 1922).
- Das Soziologische in Kants Erkenntniskritik: ein Beitrag zur Auseinandersetzung zwischen Naturalismus und Kritizismus (Fienna: Verlag der Wiener Volksbuchhandlung, 1924).
- Neue Menschen (Berlin: E. Laube, 1924).
- Kant und der Marxismus: gesammelte Aufsätze zur Erkenntniskritik und Theorie des Sozialen (Berlin: E. Laub, 1925).
- Politische oder soziale Demokratie: ein Beitrag zur sozialistischen Erziehung (Berlin: E. Laub, 1926).
- Lehrbuch der materialistischen Geschichtsauffassung (Berlin: E. Laub, 1932).
- Das Rätsel der Gesellschaft : zur Erkenntnis-kritischen Grundlegung der Sozialwissenschaft (Fienna: Saturn-Verlag, 1936).
Cyfeiriadau
golygu- ↑ David Walker a Daniel Gray, Historical Dictionary of Marxism (Lanham, Maryland: The Scarecrow Press, 2007), t. 1.