Max Beerbohm
Llenor a gwawdluniwr o Loegr oedd Syr Henry Maximilian "Max" Beerbohm (24 Awst 1872 – 20 Mai 1956).[1]
Max Beerbohm | |
---|---|
Ganwyd | Henry Maximilian Beerbohm 24 Awst 1872 Llundain |
Bu farw | 20 Mai 1956 Rapallo |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | cartwnydd dychanol, bardd, nofelydd, awdur ysgrifau, artist dyfrlliw, arlunydd, beirniad llenyddol, darlunydd, newyddiadurwr, digrifwr, drafftsmon, llenor, arlunydd |
Tad | Julius Beerbohm |
Mam | Eliza Draper |
Priod | Elisabeth Jungmann, Florence Kahn |
Gwobr/au | Marchog Faglor |
Magwraeth a theulu
golyguGanwyd Henry Maximilian Beerbohm yn Llundain, yr ieuangaf o naw plentyn i Julius Ewald Beerbohm, masnachwr o Lithwania. Roedd ganddo dri hanner brawd (Ernest, Herbert, a Julius) ac un hanner chwaer (Constance) o briodas gyntaf ei dad, a phedair chwaer hŷn (Agnes a Dora, a Marie a merch arall a fuont yn farw'n ifanc) o'i ail briodas.
Addysg a gyrfa gynnar
golyguMynychodd Max Ysgol Charterhouse, ysgol fonedd o fri yn Godalming, Surrey. Yno fe fagodd ei ddoniau drwy arlunio a gwawdio'i athrawon a'i gyd-ddisgyblion. Aeth i Goleg Merton, Rhydychen yn 1890, a threuliodd ei gyfnod yn y brifysgol yn cymdeithasu ac yn danfon ysgrifau a gwawdluniau i gylchgronau Llundeinig. Gadawodd Rhydychen yn 1894 heb ennill ei radd.[2]
Enwogrwydd
golyguYn ogystal â'i lên a'i gelf, enillodd Max enw iddo'i hun yn gynnar am fod yn ddandi ac yn ddyn ffraeth a ffasiynol. Yn 1898, daeth Beerbohm yn feirniad theatr y Saturday Review, gan olynu George Bernard Shaw yn y swydd honno. Ysgrifennodd mwy na 450 o adolygiadau ac ysgrifau beirniadol yn ei 12 mlynedd i'r Review.
Yn 1910 priododd Florence Kahn, actores Americanaidd, a symudant i Rapallo yn yr Eidal. Yno, ysgrifennodd ei unig nofel, Zuleika Dobson (1911). Dychwelodd Max a'i wraig i Loegr yn y cyfnod 1915–19. Cyhoeddodd gasgliad o straeon byrion, Seven Men, yn 1919.
Diwedd ei oes
golyguYn y 1920au, dechreuodd Beerbohm roi'r gorau i'w waith llenyddol. Cyhoeddwyd ei holl ryddiaith a'i wawdluniau mewn 10 cyfrol gan Heinemann rhwng 1922 a 1928. Dychwelodd i Loegr tua 1936, a chafodd ei urddo'n farchog yn 1939. Treuliodd Max a Florence yr Ail Ryfel Byd yn Lloegr. Dychwelodd at ysgrifennu pan gafodd ei wahodd gan y BBC i ddarlledu ar y radio. Roedd ei ysgrifau difyr yn boblogaidd, a chawsant eu casglu yn y gyfrol Mainly on the Air (1946). Bu farw Florence yn 1951, ac yn ddiweddarach bu Almaenes o'r enw Elisabeth Jungmann yn gofalu am Max. Priodasant ychydig o wythnosau cyn ei farwolaeth, yn Rapallo.[2] Cleddir ei ludw yn Eglwys Gadeiriol Sant Paul.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Sir Max Beerbohm. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 15 Ionawr 2019.
- ↑ 2.0 2.1 (Saesneg) "Max Beerbohm" yn yr Encyclopedia of World Biography (Gale, 2004). Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 15 Ionawr 2019.
Darllen pellach
golygu- Behrman, S. N. Portrait of Max: An Intimate Memoir of Sir Max Beerbohm (Random House, 1960).
- Cecil, David. Max: A Biography (1964).
- Hall, N. John, Max Beerbohm: A Kind of Life (New Haven, Connecticut: Yale University Press, 2002).