Rapallo
Tref arfordirol a chymuned (comune) yn ardal fetropolitanaidd Genova yn rhanbarth Liguria, yr Eidal, yw Rapallo. Mae ganddi boblogaeth o 29,711. Mae diffiniad confesiynol o'i hardal drefol[1] yn ymestyn dros ei holl gwlff, gan gynnwys y bwrdeistrefi cyfagos Santa Margherita Ligure a Portofino i'r gorllewin a Zoagli i'r dwyrain. Mae'r ystyr ehangach hon yn cynnwys poblogaeth o 43,000, ac felly dyma'r ardal drefol ddegfed fwyaf yn Liguria.
Math | cymuned |
---|---|
Prifddinas | Rapallo |
Poblogaeth | 29,103 |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Dinas Fetropolitan Genova |
Gwlad | Yr Eidal |
Arwynebedd | 33.61 km² |
Uwch y môr | 9 metr |
Yn ffinio gyda | Avegno, Camogli, Cicagna, Recco, San Colombano Certenoli, Santa Margherita Ligure, Tribogna, Zoagli, Coreglia Ligure |
Cyfesurynnau | 44.35°N 9.23°E |
Cod post | 16035 |
Dyma'r fwrdeistref chweched fwyaf yn Liguria yn ôl nifer ei thrigolion, ar ôl Genova, La Spezia, Savona, Sanremo, ac Imperia.
Yn draddodiadol, dau enw lleol sydd ar drigolion Rapallo: y rapallini (rapallin yn Ligwreg) ydy brodorion y dref, a'r rapallesi ydy'r rhai sydd wedi symud i fyw yno. Defnyddir yr enw tafodieithol ruentini, sydd yn fwy cyffredin yn Tigullio a dinas Genova, i gyfeirio at y clwb pêl-droed hanesyddol Rapallo Ruentes.
Mae'r dref yn enwog am fod yn safle i ddau gytundeb heddwch pwysig yn y cyfnod ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, un rhwng Teyrnas yr Eidal a Theyrnas Iwgoslafia yn 1920[2] a'r llall rhwng Gweriniaeth Weimar a'r Undeb Sofietaidd yn 1922.[2]
Y dref hon a roddai ei henw i'r term rapallizzazione, sy'n cyfeirio at drefoli gwyllt a digynllun, yn enwedig yr hyn a ddigwyddodd yn ardaloedd twristaidd yr Eidal yn y 1960au a'r 1970au.[3]