Roedd Machgielis "Max" Euwe (Iseldireg: [ˈøːʋə] ; [1] 20 Mai 1901 – 26 Tachwedd 1981) yn chwaraewr gwyddbwyll o'r Iseldiroedd. Roedd hefyd yn fathemategydd, yn awdur ac yn gweinyddu clybiau a chystadlaethau gwyddbwyll. Ef oedd y pumed chwaraewr i ddod yn Bencampwr Gwyddbwyll y Byd, o 1935 i 1937. Gwasanaethodd fel Llywydd FIDE, Ffederasiwn Gwyddbwyll y Byd, o 1970 i 1978.

Max Euwe
GanwydMachgielis Euwe Edit this on Wikidata
20 Mai 1901 Edit this on Wikidata
Amsterdam Edit this on Wikidata
Bu farw26 Tachwedd 1981 Edit this on Wikidata
Amsterdam Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBrenhiniaeth yr Iseldiroedd Edit this on Wikidata
Addysgdoethuriaeth Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Amsterdam Edit this on Wikidata
ymgynghorydd y doethor
  • Roland Weitzenböck
  • Hendrik de Vries Edit this on Wikidata
Galwedigaethchwaraewr gwyddbwyll, mathemategydd, chess official, ysgrifennwr, gwyddonydd cyfrifiadurol, athro cadeiriol, academydd Edit this on Wikidata
Swyddcadeirydd, pencampwr gwyddbwyll y byd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Prifysgol Erasmus, Rotterdam
  • Prifysgol Tilburg
  • Prifysgol Tilburg Edit this on Wikidata
PriodCarolina Elisabeth Bergman Edit this on Wikidata
PlantCaroline Euwe Edit this on Wikidata
Gwobr/aupencampwr gwyddbwyll y byd Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Gwlad chwaraeonYr Iseldiroedd Edit this on Wikidata

Blynyddoedd cynnar, addysg a gyrfa broffesiynol golygu

Ganwyd Euwe yn y Watergraafsmmer, yn Amsterdam. Astudiodd fathemateg ym Mhrifysgol Amsterdam o dan yr athro L.E.J. Brouwer, ac enillodd ei ddoethuriaeth ym 1926 o dan yr athro Roland Weitzenbock. Bu'n dysgu mathemateg, yn gyntaf yn Rotterdam, ac yn ddiweddarach mewn Lyceum i ferched yn Amsterdam. Ar ôl yr Ail Ryfel Byd, dechreuodd Euwe ymddiddori mewn rhaglennu cyfrifiadurol a chafodd ei benodi'n athro yn y pwnc hwn ym mhrifysgolion Rotterdam a Tilburg, gan ymddeol o Brifysgol Tilburg ym 1971. Cyhoeddodd ddadansoddiad mathemategol o gêm gwyddbwyll o safbwynt sythweledol ('intuitionistic'), lle dangosodd, gan ddefnyddio'r dilyniant Thue Morse, nad oedd y rheolau swyddogol ar y pryd (ym 1929) yn eithrio'r posibilrwydd o gemau diddiwedd.[2]

Gyrfa gwyddbwyll gynnar golygu

Chwaraeodd Euwe yn ei dwrnamaint cyntaf yn 10 oed, ac ennill pob gêm. Enillodd bob Pencampwriaeth Gwyddbwyll yr Iseldiroedd y cymerodd rhan ynddi o 1921 hyd 1952, ac enillodd y teitl eto ym 1955; mae ei 12 teitl yn dal i fod yn record. Yr unig enillwyr eraill yn ystod y cyfnod hwn oedd Salo Landau ym 1936, pan nad oedd Euwe, pencampwr y byd ar y pryd, yn cystadlu; a Jan Hein Donner ym 1954.[3] Daeth yn bencampwr gwyddbwyll amatur y byd yn 1928, yn Yr Hâg, gan sgorio 12/15.[4]

Priododd Euwe ym 1926, ac ar ôl dechrau teulu, dim ond yn ystod gwyliau ysgol y gallai chwarae gwyddbwyll cystadleuol, ac roedd ei gyfleoedd am gystadleuaeth gwyddbwyll ryngwladol lefel uchaf yn gyfyngedig. Ond perfformiodd yn dda yn yr ychydig dwrnameintiau a'r gornestau lle gallai chwarae, o'r 1920au cynnar i ganol y 1930au. Collodd gêm hyfforddi i Alexander Alekhine yn yr Iseldiroedd ym mis Rhagfyr 1926 / Ionawr 1927, gan orffen gyda 4½/10 (+2−3=5).[5] Chwaraewyd y gêm i helpu Euwe baratoi ar gyfer chwarae José Raúl Capablanca, pencampwr y byd ar y pryd.[6] Collodd Euwe yr ornest gyntaf a'r ail ornest rhagbrofol pencampwriaeth FIDE i Efim Bogoljubow, a gynhaliwyd yn yr Iseldiroedd ym 1928, a 1928‒29, gan sgorio 4½/10; (+2−3=5) yn yr ornest gyntaf, a (+1) −2=7) yn yr ail).[7] [8] Collodd ornest yn erbyn Capablanca yn Amsterdam ym 1931 gan sgorio 4/10 (+0−2=8). Trechodd Spielmann yn Amsterdam ym 1932, 3-1, a chwaraewyd i helpu Euwe baratoi ar gyfer ei gêm nesaf gyda Salo Flohr.

Ym 1932, gorffennodd gornest rhwng Euwe a Flohr yn gyfartal 8–8, [6]

Yn Zurich ym 1934, gorffennodd Euwe yn gyfartal ail gyda Flohr, y tu ôl i Alekhine, ond fe gurodd Alekhine yn eu gêm unigol..[9] 

Pencampwr y Byd golygu

 
Euwe (yn eistedd), 1935

Ym 1933, heriodd Max Euwe Alekhine i gêm am y bencampwriaeth.[10] Derbyniodd Alekhine yr her ar gyfer Hydref 1935. Yn gynharach y flwyddyn honno, gofynnodd y newyddiadurwr chwaraeon radio o'r Iseldiroedd, Han Hollander, i Capablanca am ei farn ar y gêm oedd i ddod. Mewn ffilm archifol lle mae Capablanca ac Euwe ill dau yn siarad, mae Capablanca yn ateb: "Mae gêm Dr. Alekhine yn 20% hanner-twyll. Mae gêm Dr. Euwe yn glir ac yn syml. Mae gêm Dr. Euwe— sydd ddim mor gryf â gêm Alekhine mewn rhai ffyrdd—yn fwy cytbwys.” Yna mae Euwe yn rhoi ei asesiad yn Iseldireg, gan esbonio bod ei deimladau yn amrywio rhwng optimistiaeth a phesimistiaeth, ond yn ystod y deng mlynedd blaenorol, roedd y sgôr rhwng y ddau yn gyfartal, sef 7-7. [11]

Ar y 15ed o Ragfyr, 1935, ar ôl chwarae 30 gêm mewn 13 o ddinasoedd gwahanol o amgylch yr Iseldiroedd dros gyfnod o 80 niwrnod, trechodd Euwe Alekine 15.5 - 14.5, gan ddod yn bumed Pencampwr Gwyddbwyll y Byd. Er i Alekhine fynd tair gêm ar y blaen yn gyflym, llwyddodd Euwe i ddod yn ôl ag ennill yn y pen draw.[12] Rhoddodd ei deitl hwb enfawr i wyddbwyll yn yr Iseldiroedd. Hon oedd pencampwriaeth y byd cyntaf lle cafodd y chwaraewyr eilyddion i'w helpu gyda'r dadansoddi yn ystod gohiriadau.[13]

Ystyriwyd buddugoliaeth Euwe yn sioc mawr - dywedir fod Euwe ei hun yn credu bod curo Alekhine yn annhebygol[14] - fe briodolir y canlyniad weithiau i alcoholiaeth Alekhine.[15] Ond roedd Salo Flohr, a helpodd Euwe yn ystod y gêm, yn meddwl bod gor-hyder Alekhine yn fwy o broblem nag alcohol; Dywedodd Alekhine ei hun y byddai'n ennill yn hawdd.[14][10] Yn ddiweddarach dadansoddodd cyn Bencampwyr y Byd, Vasily Smyslov, Boris Spassky, Anatoly Karpov, a Garry Kasparov yr ornest gan ddod i'r casgliad bod Euwe yn haeddu ennill a bod safon y chwarae yn deilwng o bencampwriaeth y byd.[14] Mae cyn Bencampwr y Byd Vladimir Kamsky wedi dweud bod Euwe wedi ennill yn haeddiannol ac na chafodd y canlyniad ei effeithio gan yfed Alekhine cyn nac yn ystod y gêm.[16]

 
Flohr (chwith) ac Euwe, 1969

Roedd perfformiad Euwe yn nhwrnamaint gwych Nottingham ym 1936 (cyfartal drydydd, hanner pwynt y tu ôl i Botvinnik a Capablanca, a hanner pwynt o flaen Alekhine) yn nodi ei fod yn bencampwr teilwng, hyd yn oed os nad oedd mor amlwg gryf â'r pencampwyr cynharach. Ysgrifennodd Reuben Fine, “Yn y ddwy flynedd cyn yr ail ornest, cynyddodd cryfder Euwe. Er na fwynhaodd erioed y goruchafiaeth a oedd gan ei ragflaenwyr dros eu cystadleuwyr, nid oedd neb gwell nag ef yn y cyfnod hwn."

Collodd Euwe y teitl yn ôl i Alekhine ym 1937, mewn gornest a chwaraewyd eto yn yr Iseldiroedd, efo'r sgôr unochrog braidd, o 15½–9½. Roedd Alekhine wedi rhoi’r gorau i alcohol a thybaco i baratoi ar gyfer y gêm ail-gyfle, er iddo ail ddechrau yfed yn ddiweddarach. Chwaraeodd fel y chwaraeodd rhwng 1927-34, pan oedd yn dominyddio'i wrthwynebwyr.. Roedd yn ornest go iawn i ddechrau, ond tuag at y diwedd collodd Euwe bedair o’r pum gêm olaf. Priodolodd Fine, a oedd yn eilydd i Euwe, y cwymp i densiwn nerfus, a waethygwyd o bosibl gan ymdrechion Euwe i edrych yn ddigynnwrf.

Mae'r ddwy ornest am bencampwriaeth y byd yn erbyn Alekhine yn cynrychioli uchafbwynt gyrfa Euwe. Yn y diwedd, chwaraesont 86 o gemau cystadleuol, gydag Alekhine yn gorffen yn fuddugol; +28 - 20 = 38. Daeth llawer o fuddugoliaethau Alekhine yn y dyddiau cynnar; yr oedd yn naw mlynedd yn hyn, ac 'roedd ganddo fwy o brofiad yn ystod y cyfnod hynny. Roedd yr ail ornest hefyd yn unochrog o blaid Alekhine.

Gyrfa gwyddbwyll ddiweddarach golygu

Gorffennodd Euwe yn gyfartal bedwerydd gydag Alekhine a Reshevsky yn nhwrnamaint AVRO ym 1938 yn yr Iseldiroedd. Roedd yn cynnwys wyth o chwaraewr gorau’r byd ac yn ymgais i benderfynu pwy ddylai herio Alekhine ar gyfer pencampwriaeth y byd. Roedd Euwe yn bwysig iawn yn y trefniadau i'r digwyddiad hefyd.[10]

Chwaraeodd ornest yn erbyn Paul Keres yn yr Iseldiroedd ym 1939–40, gan golli 6½–7½.

Ar ôl marwolaeth Alekhine ym 1946, ystyriau rhai fod gan Euwe hawl foesol i bencampwriaeth y byd, yn seiliedig o leiaf yn rhannol am iddo orffen yn ail yn Nhwrnamaint gwych Groningen ym 1946, y tu ôl i Mikhail Botvinnik. Ond cytunodd Euwe i gymryd rhan mewn twrnamaint pum chwaraewr i ddewis pencampwr newydd, Pencampwriaeth Gwyddbwyll y Byd 1948. [10] Ym 1950, rhoddodd FIDE y teitl Uwchfeistr Rhyngwladol iddo ar eu rhestr agoriadol. Cymerodd ran yn nhwrnamaint rhyngwladol Gijon yn 1951, [17] gan ennill o flaen Pilnik a Rossolimo gyda sgôr o (+7 =2).

Twrnamaint mawr olaf Euwe oedd Twrnamaint yr Ymgeiswyr yn Zurich, 1953, lle gorffennodd yn olaf ond un. Roedd yn yr hanner uchaf hanner ffordd ond wedi blino a syrthio'n ôl yn yr ail hanner.

Chwaraeodd Euwe i'r Iseldiroedd mewn saith Olympiad Gwyddbwyll rhwng 1927 a 1962, sef am 35 mlynedd, bob tro ar bwrdd un. Cafodd 10½/15 yn Llundain 1927, 9½/13 yn Stockholm 1937 (a medal efydd), 8/12 yn Dubrovnik 1950, 7½/13 yn Amsterdam 1954, 8½/11 ym Munich 1958 (a medal arian yn 57 oed), 6½/16 yn Leipzig 1960, ac yn olaf 4/7 yn Varna1962. Ei gyfanswm oedd 54½/87 sef 62.6 y cant.

Ym 1957, chwaraeodd Euwe yn erbyn Bobby Fischer, pedair-ar-ddeg oed ar y pryd, gan ennill un gêm ac un yn gyfartal. Ei sgôr dros ei oes yn erbyn Fischer oedd un fuddugoliaeth, un golled, ac un gêm gyfartal.

Enillodd Euwe gyfanswm o 102 o wobrau cyntaf mewn twrnameintiau yn ystod ei yrfa, llawer ohonynt yn lleol.

Penodwyd ef yn athro cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Tilburg ym 1964.

Llywydd FIDE golygu

 
Euwe a'i wraig yn dathlu 40 mlynedd eu priodas ar 3 Awst 1966, gydai'u hwyrion a'u hwyresau.
 
Euwe a'i wraig yn cwrdd â Karpov ym 1976

O 1970 (yn 69 oed) tan 1978, bu Euwe yn llywydd FIDE. Fel llywydd, fe wnaeth fel arfer yr hyn yr oedd yn ei ystyried yn foesol gywir yn hytrach na'r hyn a oedd yn fuddiol yn wleidyddol. Ar sawl achlysur daeth hyn ag ef i wrthdaro â Ffederasiwn Gwyddbwyll yr Undeb Sofietaidd, a oedd yn credu bod ganddynt yr hawl i bennu materion oherwydd eu bod yn cyfrannu cyfran fawr iawn o gyllideb FIDE ac am fod chwaraewyr Sofietaidd yn tra-arglwyddiaethu – i bob pwrpas, roeddent yn trin gwyddbwyll fel estyniad o'r Rhyfel Oer. Roedd y gwrthdaro hyn yn cynnwys: [14]

  • Y digwyddiadau rhagarweiniol cyn i Bobby Fischer chwarae ym Mhencampwriaeth Gwyddbwyll y Byd ym 1972 yn erbyn Boris Spassky, lle daeth Fischer y pencampwr cyntaf ers yr Ail Ryfel Byd nad oedd o'r Undeb Sofietaidd. Roedd Euwe’n credu ei bod yn bwysig i i enw da’r gêm fod Fischer yn cael y cyfle i herio am y teitl cyn gynted â phosibl, a dehonglodd y rheolau’n hyblyg iawn i alluogi Fischer i chwarae yn Nhwrnamaint Rhyngzonal ym 1970, lle enillodd gyda sgôr uchel iawn.
  • Gwrthgiliad Gennadi Sosonko ym 1972. Mynnodd y Sofietiaid y dylai Sosonko gael ei eithrio o wyddbwyll cystadleuol, o deledu neu unrhyw ddigwyddiad arall a allai fod yn dystiolaeth iddo ffoi. Pan wrthododd Euwe, gwrthododd chwaraewyr Sofietaidd chwarae yn Nhwrnamaint Wijk aan Zee ym 1974 am fod Sosonko yn cael cystadlu.
  • Ym 1976, ceisiodd ymgeisydd pencampwriaeth y byd Viktor Korchnoi am loches wleidyddol yn yr Iseldiroedd. Mewn trafodaeth ychydig ddyddiau ynghynt, dywedodd Euwe wrth Korchnoi: “... wrth gwrs byddwch yn cadw eich holl hawliau ..." ac fe wrthwynebodd ymdrechion y Sofietiaid i atal Korchnoi rhag herio Anatoly Karpov ym 1978.
  • Yn ddiweddarach, ym 1976, cefnogodd Euwe benderfyniad FIDE i gynnal Olymiad Gwyddbwyll 1976 yn Israel, nad oedd yr Undeb Sofietaidd wedi'i cydnabod fel gwlad, [18] er bod y Sofietiaid wedi ennill Olympiad 1964 a oedd hefyd wedi'i gynnal yn Israel. Ar ôl hyn dechreuodd Pwyllgor Canolog Plaid Gomiwnyddol yr Undeb Sofietaidd gynllwynio i ddiorseddu Euwe fel llywydd FIDE.

Collodd Euwe rai o'i frwydrau yn erbyn y Sofietiaid. Yn ôl Sosonko, ym 1973, mynnodd y Sofietiaid y dylai Bent Larsen a Robert Hubner, y ddau gystadleuydd cryfaf nad oeddent yn Sofietaidd (gyda Fischer bellach yn bencampwr), chwarae yn nhwrnamaint Rhwngzonal Leningrad yn hytrach na'r un gwannach yn Petropolis. Cafodd Larsen a Hübner eu dileu o'r gystadleuaeth ar gyfer Pencampwriaeth y Byd oherwydd i Korchnoi a Karpov gipio'r ddau le cyntaf yn Leningrad.[14]

Mae rhai sylwebwyr hefyd wedi gofyn a allai Euwe wedi gwneud mwy i atal Fischer rhag fforffedu ei deitl byd ym 1975.[14]

Dylid nodi hefyd, ym 1976 Rohini Khadikar oedd y fenyw gyntaf i gystadlu ym Mhencampwriaeth Dynion India. Achosodd hi'n cystadlu mewn cystadleuaeth i ddynion gynnwrf mawr, ac ar ôl apêl lwyddiannus i’r Uchel Lys fe ddyfarnodd Euwe na allai merched gael eu gwahardd o bencampwriaethau cenedlaethol na rhyngwladol.

Er gwaethaf cynnwrf y cyfnod, mae’r rhan fwyaf o asesiadau o berfformiad Euwe fel llywydd FIDE yn gadarnhaol[14]

  • Dywedodd Spassky, a oedd wedi enwebu Euwe ar gyfer y swydd: "Yn sicr ni ddylai fod wedi gwahardd Fischer, a dylai fod wedi bod ychydig yn llymach gyda'r Sofietiaid ... rydych chi'n cael digon o broblemau cymhleth. Ond Euwe, wrth gwrs, oedd y dyn iawn i'r swydd.”
  • Dywedodd Karpov fod Euwe yn Llywydd FIDE da iawn, er iddo gyflawni un camgymeriad difrifol iawn, sef ymestyn aelodaeth FIDE yn gyflym i lawer o wledydd bach y trydydd byd. “Ond ni allai ef na minnau fod wedi rhagweld beth fyddai hyn yn arwain ato. ... Arweiniodd hyn nid yn unig at chwyddiant teitl yr uwchfeistr, ond hefyd at y gwactod arweinyddiaeth ym myd gwyddbwyll."
  • Roedd Garry Kasparov yn gryfach: "... yn anffodus, ni allai ragweld y peryglon sy'n llifo o FIDE bron o dan oruchafiaeth Sofietaidd."
  • Roedd Korchnoi yn ystyried Euwe fel y llywydd anrhydeddus olaf a gafodd FIDE.
  • Dywedodd Yuri Averbakh a oedd yn swyddog gwyddbwyll Sofietaidd yn ogystal ag yn Uwcheistr: "... ceisiai bob amser ddeall y safbwynt gwrthwynebol ... Roedd ymddygiad o'r fath yn wahanol iawn i ymddygiad arweinwyr y ddirprwyaeth Sofietaidd ... Max Euwe, heb amheuaeth, oedd yr Arlywydd gorau a gafodd FIDE erioed."

Bu farw ym 1981, yn 80 oed, o drawiad ar y galon. Yn uchel ei barch ledled y byd gwyddbwyll am ei gyfraniadau niferus, roedd wedi teithio'n helaeth tra'n Llywydd, ac wedi ehangu'r sefydliad.

Asesiad o wyddbwyll Euwe golygu

Roedd Euwe yn nodedig am ei ddull rhesymegol ac am ei wybodaeth o'r agoriadau, lle gwnaeth gyfraniadau mawr i ddamcaniaeth gwyddbwyll. Yn baradocsaidd, roedd ei ddwy ornest bencampwriaethol ag Alekhine yn arddangosiadau o ffyrnigrwydd tactegol gan y ddwy ochr. Ond efallai fod sylwadau Kmoch ac Alekhine (isod) yn egluro hyn: roedd Euwe "yn troedio'n hyderus i rai amrywiadau hynod gymhleth" os oedd yn meddwl bod rhesymeg o'i ochr; ac yr oedd yn hynod o dda am gyfrifo yr amrywiadau hyn. Ar y llaw arall, "yn aml nid oedd ganddo y stamina i ddod allan o safleoedd gwael".

Honnir bod Alekhine yn fwy gonest yn ei erthyglau Rwsieg nag yn y rhai a ysgrifennodd yn Saesneg, Ffrangeg neu Almaeneg. Yn ei erthyglau Rwsieg, disgrifiodd Euwe yn aml fel un yn ddiffygiol o ran gwreiddioldeb a'r caledwch meddwl sy'n ofynnol gan bencampwr byd. Roedd Sosonko o'r farn bod gwyleidd-dra Euwe yn anfantais mewn gwyddbwyll o'r radd flaenaf (er bod Euwe yn gwybod yn iawn faint oedd yn gryfach na uwchfeistri "cyffredin").[14]

Dywed Vladimir Kramnik hefyd fod Euwe wedi rhagweld pwyslais Botvinnik ar baratoi technegol, [16] a bod Euwe fel arfer mewn cyflwr da yn gorfforol oherwydd ei fod yn hoff o chwaraeon.

Llyfrau gwyddbwyll gan Euwe golygu

Ysgrifennodd Euwe dros 70 o lyfrau gwyddbwyll, llawer mwy nag unrhyw Bencampwr Byd arall; rhai o'r rhai mwyaf adnabyddus yw The Road to Chess Mastery, Barn a Chynllunio mewn Gwyddbwyll, Yr Ymagwedd Rhesymegol at Wyddbwyll, a Strategaeth a Thactegau mewn Gwyddbwyll. [4] [10] Defnyddiodd y cyn uwchfeistr Sosonko lyfr Euwe a Den Hertog 1927 Practische Schaaklessen fel gwerslyfr wrth ddysgu yn y Leningrad House of Pioneers, ac mae’n ei ystyried yn “un o’r llyfrau gwyddbwyll gorau erioed”.[14] Ysgrifennwyd Fischer World Champion, Hanes gornest Pencampwriaeth y Byd 1972, a gyd-awdurwyd gan Euwe a Jan Timman, ym 1972 ond ni chyhoeddwyd yn Saesneg tan 2002.[19] Cyhoeddwyd llyfr Euwe From My Games, 1920–1937 yn wreiddiol ym 1939 gan Harcourt, Brace and Company, a chafodd ei ailgyhoeddi gan Dover yn 1975 (ISBN 0-486-23111-9 ). Ysgrifennodd i blant hefyd. Y flwyddyn yr enillodd bencampwriaeth y byd Gwyddbwyll ysgrifennodd lyfr o'r enw: (Iseldireg) Oom Jan leert zijn neefje schaken. (  )

Llyfryddiaeth golygu

  • Strategaeth a Thactegau mewn Gwyddbwyll. 1937. McKay.
  • Fy Ngemau Gorau 1920–1937 Syt godais i ddod yn Bencampwr y Byd. 2003 [1939]. Hardinge Simpole.
  • Cwrdd â'r Meistri: Portreadau o'r Mawrion gan Bencampwr y Byd. 2004 [1940]. Hardinge Simpole.
  • Gêm/Twrnamaint Yr Hâg/Moscow 1948 ar gyfer Pencampwriaeth Gwyddbwyll y Byd. 2013 [1948]. Mentrau Russell.
  • Barnu a Chynllunio mewn Gwyddbwyll. 1998 [1954]. Batsford.
  • Yr Agwedd Rhesymegol at Wyddbwyll. 1982 [1958]. Dover.
  • Meistr Gwyddbwyll vs. Amatur Gwyddbwyll. gyda Walter Meiden. 1994 [1963]. Dover.
  • Mae'r Llyfr Middlegame 1 Nodweddion Statig. gyda H. Kramer. 1994 [1964]. Cyh Hays.
  • Y Llyfr Middlegame 2 Nodwedd Ddeinamig a Goddrychol. gyda H. Kramer. 1994 [1964]. Cyh.Hays.
  • Y Ffordd i Feistrolaeth Gwyddbwyll. gyda Walter Meiden. 1966. David McKay.
  • Datblygiad Arddull Gwyddbwyll. gyda John Nunn. 1997 [1968]. Mentrau Gwyddbwyll Rhyngwladol.
  • Fischer Pencampwr y Byd gyda Jan Timman. 2009 [1972]. Newydd Mewn Gwyddbwyll.
  • Euwe vs. Gêm Alehine 1935. 1973. Crynhoad Gwyddbwyll.
  • Canllaw i Derfyniadau Gwyddbwyll. gyda David Hooper. 1976. Dover.
  • Bobby Fischer Y Gorau Un? 1979 [1976]. Sterling.
  • Meistr Gwyddbwyll vs. Meistr Gwyddbwyll gyda Walter Meiden. 1977. McKay

Etifeddiaeth golygu

 
Max Euweplein – Amsterdam

Yn Amsterdam, mae Max Euwe Plein (sgwâr) (ger y Leidseplein) gyda set gwyddbwyll a cherflun mawr, lle mae'r 'Max Euwe Stichting' mewn hen garchardy. Ceir yno Amgueddfa Max Euwe a chasgliad mawr o lyfrau gwyddbwyll,

Cyfeiriadau golygu

  1. Video with Euwe's pronunciation (0:23)
  2. Euwe, M. (1929). "Mengentheoretische Betrachtungen über das Schachspiel". Proc. Konin. Akad. Wetenschappen. 32 (5). Amsterdam. tt. 633–642..
  3. "Schaakkampioenen van Nederland". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-01-29.
  4. 4.0 4.1 Mcfadden, Robert D. (November 28, 1981). "Max Euwe, ex-chess champion, led the game's World Federation". The New York Times. Cyrchwyd May 12, 2010. Euwe's obituary
  5. "Alekhine–Euwe Training Match (1926)". Chessgames. Cyrchwyd 2016-12-16.
  6. 6.0 6.1 "12 Euwe Matches". Max Euwe Center. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-11-14. Cyrchwyd 2023-05-10.
  7. "Bogoljubov–Euwe: First FIDE Championship (1928)". Chessgames.com.
  8. "Bogoljubov–Euwe: Second FIDE Championship (1928)". Chessgames.com.
  9. "Zurich (1934)". Chessgames.com.
  10. 10.0 10.1 10.2 10.3 10.4 Münninghoff, Alexander (2001). Max Euwe: The Biography. New in Chess. t. 101. ISBN 9056910795.
  11. "Max Euwe And Capablanca(The Chess Machine) !RARE FOOTAGE!". Uploaded to Youtube by user FWCC1. Original publisher unclear, though other (unreachable) source suggests a Dutch public broadcasting agency.
  12. "Alekhine vs Euwe 1935". Chessgames.com.
  13. Winter, Edward. "5214. Ernst Klein (C.N. 5202)". Chess Notes.
  14. 14.0 14.1 14.2 14.3 14.4 14.5 14.6 14.7 14.8 Sosonko, Gennadi (2001). "Remembering Max Euwe Part 1" (PDF). ChessCafe.com (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 25 Chwefror 2009.
  15. Donner, J. H. (2006). The King: Chess Pieces. New in Chess. t. 91. ISBN 90-5691-171-6.
  16. 16.0 16.1 Barsky, Vladimir (2004-07-30). "Vladimir Kramnik: From Steinitz to Kasparov". e3e5.com. Cyrchwyd 2020-01-15.
  17. Mendez, Pedro; Mendez, Luis (2019). The Gijon International Chess Tournaments. McFarland & Company. tt. 133–145. ISBN 978-1-4766-7659-3.
  18. the USSR severed the diplomatic relations with Israel after the 1967 Six Day War.
  19. Euwe, Max; Timman, Jan (2002). Fischer World Champion!. New In Chess. ISBN 978-9056910952.