Max Horkheimer
Athronydd Marcsaidd a chymdeithasegydd o'r Almaen oedd Max Horkheimer (14 Chwefror 1895 – 7 Gorffennaf 1973) sydd yn nodedig am arwain Ysgol Frankfurt ac am ddatblygu damcaniaeth feirniadol.
Max Horkheimer | |
---|---|
Ganwyd | 14 Chwefror 1895 Stuttgart, Zuffenhausen |
Bu farw | 7 Gorffennaf 1973 Nürnberg |
Dinasyddiaeth | yr Almaen, Unol Daleithiau America |
Alma mater |
|
ymgynghorydd y doethor | |
Galwedigaeth | athronydd, addysgwr, cymdeithasegydd, academydd, beirniad llenyddol |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Gesammelte Schriften, Dialektik der Aufklärung, Eclipse of Reason |
Mudiad | Ysgol Frankfurt |
Tad | Moritz Horkheimer |
Gwobr/au | Dinasyddiaeth anrhydedd Frankfurt am Main, Plac Goethe Dinas Frankfurt am Main, Goethe-Plakette des Landes Hessen, Q1021210 |
Bywyd cynnar ac addysg (1895–1922)
golyguGaned Max Horkheimer ar 14 Chwefror 1895 i deulu Iddewig yn Zuffenhausen, un o ardaloedd dinas Stuttgart, Teyrnas Württemberg, Ymerodraeth yr Almaen. Dyn busnes oedd ei dad, Mortiz Horkheimer, a oedd yn berchen ar sawl ffatri tecstilau yn Zuffenhausen. Gadawodd Max yr ysgol ym 1910 i weithio ym musnes y teulu, a fe'i penodwyd yn rheolwr ieuaf.[1]
Dechreuodd Max astudio ym Mhrifysgol München ym 1919 cyn iddo drosglwyddo i Brifysgol Frankfurt am Main ar ôl un tymor academaidd. Astudiodd seicoleg ac athroniaeth ym Mhrifysgol Frankfurt, a threuliodd hefyd flwyddyn yn astudio dan Edmund Husserl ym Mhrifysgol Freiburg.[1] Derbyniodd ei ddoethuriaeth o Brifysgol Frankfurt ym 1922.[2]
Gyrfa academaidd gynnar (1922–33)
golyguCychwynnodd Horkheimer ar ei yrfa academaidd yn isddarlithydd i'w diwtor, Hans Cornelius.[1] Penodwyd yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Frankfurt ym 1926, a threuliodd bedair blynedd yn y swydd honno cyn ei ddyrchafu'n athro athroniaeth gymdeithasol. Ymaelododd â'r Institut für Sozialforschung (IfS; Athrofa Ymchwil Cymdeithasol), a sefydlwyd mewn cysylltiad â'r brifysgol ym 1923 gan y Marcsydd Felix Weil. Ym 1930 penodwyd Horkheimer yn gyfarwyddwr yr IfS, a dan ei arweiniad atynnai'r athrofa nifer o gwyddonwyr cymdeithasol, athronwyr, a damcaniaethwyr gwleidyddol o nod, yn eu plith Theodor W. Adorno, Erich Fromm, Leo Löwenthal, Herbert Marcuse, a Franz Neumann. Bu Horkheimer hefyd yn olygydd y cyfnodolyn academaidd Zeitschrift für Sozialforschung a gyhoeddwyd gan yr IfS o 1932 i 1941. Rhoddwyd yr enw Ysgol Frankfurt ar y mudiad deallusol a arloeswyd gan Horkheimer a'i griw, a oedd yn ceisio cyfuno athroniaeth ac hanesyddiaeth Farcsaidd â gwyddorau cymdeithas, yn enwedig economeg, hanes, cymdeithaseg, athroniaeth gymdeithasol, a seicdreiddiad.[2]
Ym 1926 priododd Horkheimer â Rose Riekher, a oedd yn ysgrifenyddes i'w dad Moritz. Buont yn briod nes iddi farw ym 1969.[1]
Cyfnod alltud yn yr Unol Daleithiau (1933–49)
golyguWedi i Adolf Hitler gipio grym ym 1933, ffoes Horkheimer a sawl aelod arall o'r IfS, nifer ohonynt yn Iddewon, rhag erledigaeth yn yr Almaen Natsïaidd. Ymfudodd Horkheimer i Unol Daleithiau America ac ymsefydlodd yn Efrog Newydd. Yno, ailsefydlodd yr IfS ym Mhrifysgol Columbia a dechreuodd ailgyhoeddi'r Zeitschrift für Sozialforschung. Ysgrifennodd Horkheimer sawl traethawd ar gyfer y Zeitschrift yn datblygu ei syniadaeth ynglŷn â damcaniaeth feirniadol.[2]
Bu'n rhaid rhoi'r gorau i weithgareddau'r IfS ym 1941 o ganlyniad i drafferthion ariannol. Symudodd Horkheimer i Los Angeles ac yno fe gydweithiodd ag Adorno i gyflawni'r astudiaeth ddylanwadol Dialektik der Aufklärung (1947), sydd yn ymdrin â thwf Natsïaeth a Staliniaeth a'u perthynas â'r Oleuedigaeth. Cyhoeddodd Horkheimer waith tebyg yn Saesneg, Eclipse of Reason (1947).[2]
Diwedd ei oes (1949–73)
golyguDychwelodd Horkheimer i Orllewin yr Almaen ym 1949. Ailsefydlodd yr IfS ym Mhrifysgol Frankfurt ym 1950, a gwasanaethodd yn gyfarwyddwr unwaith eto nes 1958. Gwasanaethodd hefyd yn rheithor Prifysgol Frankfurt. Mae ei ysgrifeniadau yng nghyfnod diweddar ei yrfa yn ymwneud ag athroniaeth Arthur Schopenhauer ac athroniaeth crefydd.[2] Symudodd i bentref Montagnola yn y Swistir ym 1958.[1] Bu farw Max Horkheimer ar 7 Gorffennaf 1973 yn Nürnberg yn 78 oed.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 (Saesneg) J. C. Berendzen, "Max Horkheimer" yn Stanford Encyclopedia of Philosophy (Prifysgol Stanford, 2017). Adalwyd ar 23 Ebrill 2020.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 2.5 (Saesneg) Max Horkheimer. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 23 Ebrill 2020.