Seiclwraig rasio oedd Megan Hughes (enw priod Megan Bäckstedt, ganwyd 5 Ionawr 1977[1]). Cynyrchiolodd Gymru yng Ngemau'r Gymanwlad yn Kuala Lumpur, Maleisia, yn 1998 yn y Ras Ffordd a'r Ras Bwyntiau lle gorffennodd yn 5ed.[2]

Megan Hughes
Gwybodaeth bersonol
Enw llawnMegan Hughes
Dyddiad geni (1977-01-05) 5 Ionawr 1977 (47 oed)
Manylion timau
DisgyblaethTrac a Ffordd
RôlReidiwr
Tîm(au) Amatur
Prif gampau
Pencapwr Cenedlaethol
Golygwyd ddiwethaf ar
12 Gorffennaf, 2007

Erbyn hyn mae'n briod i'r seiclwr proffesiynol o Sweden, Magnus Bäckstedt ac yn byw yn Llanharan ger Llanilltud Fawr, Bro Morgannwg.[3] Er iddi gael lle ar dîm WCPP (World Class Performance Plan) Prydain yn 2001 bu raid iddi ymddeol oherwydd anhawster byw ac ymarfer yn Ffrainc wedi iddi briodi.[4]

Canlyniadau golygu

1995
2il Pencapwriaeth Cenedlaethol Trac Merched, Treial Amser 500 metr
3ydd Pencampwriaethau Trac Iau y Byd, Sbrint
1996
1af Cam 6, Tour du Finistère, Ffrainc
2il Pencapwriaeth Cenedlaethol Trac Merched, Treial Amser 500 metr[5]
1998
1af   Pencapwriaeth Cenedlaethol Ras Ffordd Merched, Prydain
5ed Ras Bwyntiau, Gemau'r Gymanwlad
Rhagflaenydd:
Maria Lawrence
  Pencampwr Cenedlaethol Ras Ffordd Merched
1998
Olynydd:
Nicole Cooke

Cyfeiriadau golygu

  1. Proffil ar cyclingwebsite.net[dolen marw]
  2. "Gwefan swyddogol Gemau'r Gymanwlad". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2002-08-10. Cyrchwyd 2007-09-23.
  3. Cycling: Backstedt targets Tour stage Andy Howell, The Western Mail 1 Gorffennaf 2004
  4. Cyfweliad gyda Ken Matheson (WCPP) gan Larry Hickmont Archifwyd 2006-06-29 yn y Peiriant Wayback. 2 Ionawr 2001
  5. Everson retains her time trial title The (London) Independent 27 Mai 1996
   Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.