Menna Gwyn

actores a aned yn 1941

Darlledwraig o Gymraes oedd Menna Gwyn (23 Gorffennaf 19416 Ebrill 2006) a oedd yn llais cyfarwydd ar BBC Radio Cymru.

Menna Gwyn
Ganwyd23 Gorffennaf 1941 Edit this on Wikidata
Bu farw6 Ebrill 2006 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethcyhoeddwyr, actor, cynhyrchydd radio Edit this on Wikidata
Cyflogwr
PriodAled Gwyn Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar ac addysg golygu

Bu'n astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth rhwng 1959 a 1962. Penodwyd ei gŵr Aled yn weinidog ar Eglwys Henllan Amgoed, Sir Gaerfyrddin yn Medi 1966 a daeth Menna yn rhan o fywyd cymdeithasol yr ardal.

Bu'n athrawes yn Ysgol Pantycaws am rai blynyddoedd, cyn cael plant. Cychwynnodd Cangen Hendygwyn o Ferched y Wawr yn 1970 a sefydlodd Cylch Meithrin yn ei chartref, tua 1972. Roedd hefyd yn cymryd dosbarthiadau nos i Ddysgwyr, yn Ysgol Griffith Jones.[1]

Gyrfa golygu

Bu'n actores yn y 1970au pan ddaeth yn aelod o gast gwreiddiol Pobol y Cwm gan chwarae Nyrs Jenni rhwng 1974 a 1975.

Wedi hynny daeth yn gyhoeddwr gyda Radio Cymru gan gysylltu rhaglenni a darllen bwletinau newyddion. Roedd yn adnabyddus am ei llais cyfoethog a ddisgrifiwyd fel 'melfedaidd' gan Aled Glynne Davies.[2] Bu'n cyflwyno rhaglenni fel Gwynfyd a Menna a'r Clasuron. Cafodd Menna ei phenodi'n Uwch Gyhoeddwr Radio Cymru ac roedd yn gyfrifol am arwain tîm o gyflwynwyr a chynnig hyfforddiant. Cynhyrchodd raglenni fel Beti a’i Phobol a Wythnos i'w Chofio hefyd.

Ar deledu bu'n cyflwyno ar y rhaglen deledu nosweithiol Heddiw.[3]

Bywyd personol golygu

Roedd yn briod a'r Prifardd Aled Gwyn a chafodd ddau o blant, Non a Rolant.

Bu farw yn 64 mlwydd oed ar ôl salwch hir.

Cyfeiriadau golygu

  1.  Cofio Menna. BBC Cymru (Ebrill 2006).
  2.  TEYRNGEDAU I MENNA GWYN. Y Dinesydd (Mai 2006). Adalwyd ar 1 Medi 2020.
  3. Menna Gwyn yn marw , BBC Cymru, 6 Ebrill 2006. Cyrchwyd ar 1 Medi 2020.

Dolenni allanol golygu