Mercè Rodoreda
Awdures Gatalaneg fwyaf adnabyddus yr 20g oedd Mercè Rodoreda (10 Hydref 1908 – 13 Ebrill 1983).
Mercè Rodoreda | |
---|---|
Ganwyd | Mercè Rodoreda i Gurguí 10 Hydref 1908 Barcelona |
Bu farw | 13 Ebrill 1983 Girona |
Man preswyl | Barcelona, Roissy-en-Brie, Limoges, Bordeaux, Paris, Genefa, Romanyà de la Selva |
Dinasyddiaeth | Sbaen |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, nofelydd, bardd, Esperantydd, awdur storiau byrion |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | The Time of the Doves, Mirall trencat, Aloma, Sóc una dona honrada?, Del que hom no pot fugirc, Un dia en la vida d'un home, Crim, Vint-i-dos contes, El carrer de les Camèlies, Jardí vora el mar, Mi Cristina y otros cuentos, Semblava de seda i altres contes, Tots els contes, Viatges i flors, War so much war, Death in Spring, Isabel i Maria |
Arddull | barddoniaeth |
Prif ddylanwad | Pere Gurguí, Delfí Dalmau i Gener |
Tad | Andreu Rodoreda i Sallent |
Mam | Montserrat Gurguí i Guàrdia |
Priod | Joan Gurguí |
Partner | Armand Obiols |
Plant | Jordi Gurguí i Rodoreda |
Gwobr/au | Premi d'Honor de les Lletres Catalanes, Gold Letter, Gwobr Serra d'Or Critics, Joan Crexells award, Mestre en Gai Saber, Flor Natural, Flor Natural, Premi Joan Santamaria, Gwobr Mercè Rodoreda, Premi Sant Jordi de novel·la, City of Barcelona Award, Gwobr Serra d'Or Critics, Gwobr Serra d'Or Critics, Gwobr Serra d'Or Critics, Gwobr Serra d'Or Critics, Premi de la Crítica de narrativa catalana, gwobr Ramon-Llull |
Gwefan | http://www.mercerodoreda.cat/ |
llofnod | |
Bywgraffiad
golyguGanwyd Mercè Rodoreda yn Sant Gervasi (Barcelona).[1] Cafodd ei magu mewn cartref cyfforddus a thrigai mewn cymdogaeth dawel. Cafodd ei thaid ddylanwad amlwg yn natblygiad ei phersonoliaeth, am ei fod yntai'n ddyn deallus ac addysgodd ei ŵyres i garu llenyddiaeth a garddio. Bu ei farwolaeth ef, pan oedd Mercè yn ddeuddeg oed, yn ergyd drom iddi.
Yn 1928 priododd hi ei hewythr, Joan Gurguí (a oedd yn 14 mlynedd yn hŷn na hi) a chawsant eu hunig fab, Jordi Gurguí. Yn y cyfnod hwn, dewisodd Mercè Rodoreda lenyddiaeth fel ffordd o osgoi realiti, gan ddechrau gyrfa fawr a aeth o nerth i nerth. Yn 1938, cyhoeddwyd Aloma (y nofel a ystyriai'r awdures fel ei gwaith aeddfed cyntaf go iawn).
Bu farw yn Girona, ychydig ar ôl iddi dderbyn y Premi d'Honor de les Lletres Catalanes. Nid oes cyfieithiadau o'u gwaith i'r Gymraeg.