Merthyron Abergele

Bu farw Merthyron Abergele ar fore seremoni arwisgo Tywysog Cymru yng Nghaernarfon ar 1 Gorffennaf 1969. Lladdwyd, Alwyn Jones (1947–1969) a George Taylor (1932–1969), a honnwyd eu bod yn gysylltiedig â Mudiad Amddiffyn Cymru. Mae'n debyg eu bod ar fin gosod bom ger un o adeiladau'r llywodraeth yn Abergele neu'r trên brenhinol ar ei ffordd i Gaernarfon ar gyfer yr arwisgiad, ond ffrwydrodd y bom yn gynamserol. Honnwyd mai hwy oedd y Cymry cyntaf i farw dros Gymru ers Gwrthryfel Glyn Dŵr.[1]

Cyfarfod Coffa Merthyron Abergele tua 1990; Alwyn ap Huw (siwt a thei) a John Jenkins (yn dal torch ar y dde)

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. ABERGELE, Merthyron [1][dolen farw] adalwyd 29 Mawrth 2016
   Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.