John Barnard Jenkins
Arweinydd Mudiad Amddiffyn Cymru yn ail hanner y 1960au oedd John Barnard Jenkins (11 Mawrth 1933 – 17 Rhagfyr 2020).[1]
John Barnard Jenkins | |
---|---|
Ganwyd | 11 Mawrth 1933 Caerdydd |
Bu farw | 17 Rhagfyr 2020 Ysbyty Maelor Wrecsam |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, milwr |
Ganed ef yng Nghaerdydd, i rieni di-Gymraeg. Ymunodd a'r fyddin yn 1952, a daeth yn swyddog yn y Corfflu Deintyddol Brenhinol.
Ffurfiwyd Mudiad Amddiffyn Cymru yn wreiddiol gan Owain Williams, John Albert Jones ac Emyr Llywelyn Jones fel ymateb i'r cynllun o adeiladu argae ar draws Afon Tryweryn i greu cronfa ddŵr Llyn Celyn i ddarparu dŵr i ddinas Lerpwl. Roedd hyn yn golygu boddi pentref Capel Celyn. Ar 10 Chwefror 1963, ffrwydrwyd bom ar y safle waith gan dri gŵr; yn ddiweddarach cafwyd Emyr Llywelyn Jones yn euog o hyn a'i ddedfrydu i flwyddyn o garchar. Y diwrnod y dedfrydwyd ef, ffrwydrodd bom ger peilon trydan ger Gellilydan; carcharwyd Owain Williams a John Albert Jones am hyn yn ddiweddarach.
Wedi carcharu'r tri sefydlydd, daeth John Jenkins yn arweinydd y mudiad. Credir mai MAC oedd yn gyfrifol am ffrwydro bom ar safle argae Llyn Clywedog yn 1966. Yn 1967 ffrwydrwyd bom ger pibell oedd yn cario dŵr o Lyn Llanwddyn, ac yn ddiweddarach y flwyddyn honno ffrwydrodd bom y tu allan i'r Deml Heddwch yng Nghaerdydd, gerllaw man oedd i'w defnyddio ar gyfer cynhadledd i drefnu Arwisgiad 1969.
Yn 1968, dinistriwyd swyddfa dreth incwm yng Nghaerdydd gan fom, yna adeilad y Swyddfa Gymreig yn yr un ddinas a phibell ddŵr yn Helsby. Yn Ebrill 1969, ffrwydrwyd bom mewn swyddfa dreth incwm yn ninas Caer. Ar 30 Mehefin 1969, y noson cyn yr Arwisgiad, lladdwyd dau aelod o MAC, Alwyn Jones a George Taylor, yn Abergele pan ffrwydrodd bom yn gynamserol.
Ar 2 Tachwedd 1969 cymerwyd Jenkins, a milwr arall o'r enw Frederick Alders, i'r ddalfa ar gyhudduiad o achosi ffrwydradau. Yn Ebrill 1970 cafwyd ef yn euog ar wyth cyhuddiad a'i ddedfrydu i ddeng mlynedd o garchar. Cyhoeddwyd casgliad o'r llythyron a ysgrifennodd pan yng ngharchar. Wedi ei ryddhau, cafodd swydd fel trefnydd cymdeithasol gyda mudiad gwrthdlodi ym Merthyr Tudful. Roedd yn dad i ddau o fechgyn. Ysgarodd â'i wraig Thelma ym 1972, tra'r oedd yn y carchar, ac fe benododd Eileen a Trefor Beasley i ofalu am ei blant yn y cyfnod yma.
Bu'n gweithio fel cwnselydd am nifer o flynyddoedd. Bu'n byw mewn cartref gofal o 2017 hyd ei farwolaeth yn Rhagfyr 2020.
Llyfryddiaeth
golygu- Roy Clews, To Dream of Freedom (Y Lolfa, 1980)
- John Jenkins, Prison Letters, gol. Rhodri Williams (Y Lolfa, 1981)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ John Barnard Jenkins wedi marw yn 87 oed , BBC Cymru Fyw, 18 Rhagfyr 2020.