Mesur Gwneud Iawn am Gamweddau'r GIG (Cymru) 2008

Mesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Y mesur deddfwriaethol cyntaf a basiwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru gyda'i bwerau deddfwriaethol newydd yn sgîl Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yw Mesur Gwneud Iawn am Gamweddau'r GIG (Cymru) 2008 (Saesneg: NHS Redress (Wales) Measure 2008), neu yn fyr Deddf Gwneud Iawn am Gamweddau.[1] Fe'i basiwyd gan y Cynulliad ar 6 Mai 2008 a daeth i rym ar 9 Gorffennaf 2008 pan derbyniodd sêl bendith y Frenhines. Mae disgwyl i delerau'r mesur dod i rym yn ymarferol yn 2009.[1]

Prif amcan y mesur yw i ddiwygio cyfraith camwedd y Gwasanaeth Iechyd Genedlaethol yng Nghymru trwy symleiddio'r broses iawndal a hwyluso'r drefn gwyno. Dywedodd Gweinidog Iechyd Cymru, Edwina Hart, bydd y mesur yn "cydlynu'r system yn well" ac yn galluogi "delio â phobl yn iawn ac yn deg".[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2  Mesur iechyd: Creu hanes. BBC Cymru'r Byd (9 Gorffennaf, 2008). Adalwyd ar 26 Hydref, 2008.

Dolenni allanol

golygu
Testun y mesur