Rhwydwaith rheilffordd danddaear yn ninas Moscfa, Rwsia, yw Metro Moscfa (Rwseg: Московское метро). Mae'r rhwydwaith, sy'n ail yn y byd o ran nifer ei theithwyr, yn cysylltu bron bob rhan o'r brifddinas. Wedi ei agor yn 1935, mae'n adnabyddus am gynllun marweddog nifer o'i orsafoedd trena, sy'n cynnwys enghreifftiau ardderchog o gelf realaidd sosialaidd.

Metro Moscfa
Mathtrafnidiaeth gyflym awtomataidd Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlVladimir Lenin Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol15 Mai 1935 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1935 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynoltrafnidiaeth gyhoeddus ym Moscfa Edit this on Wikidata
SirMoscfa Edit this on Wikidata
GwladBaner Rwsia Rwsia
Cyfesurynnau55.64°N 37.62°E Edit this on Wikidata
Hyd360 cilometr Edit this on Wikidata
Nifer y teithwyr2,442,400,000 ±50000, 2,560,700,000 Edit this on Wikidata
Rheolir ganМосковский метрополитен Edit this on Wikidata
Map

Mae gan Metro Moscow gyfanswm o 298.2 km (181.6 milltir) o lwybrau, 12 llinell a 180 gorsaf; ar ddiwrnod normal mae'n cludo 7 miliwn o deithwyr. Mae'n cael ei redeg fel menter wladol gan gwmni Moskovsky metropoliten (Московский метрополитен).

Dechreuwyd ar y gwaith adeiladu ym Mehefin 1931 ac agorwyd y llinellau cyntaf yn 1935. Bu cynlluniau i gael rheilffordd danddaear ym Moscow ers y 19g, ond bu rhaid eu gohirio oherwydd y sefyllfa gwladol. Bwriad Stalin wrth ei greu oedd cael ffenestr siop i'r byd gael gweld rhagoriaethau'r system Sofietaidd, gyda'r gorsafoedd gorwych yn fath o balasau i'r werin bobl eu mwynhau.

Leiniau'r Metro Golygu

Enw Rhif
a lliw
Enw Cyrilig Agorwyd Ychwanegiad
diweddaraf
Hyd Gorsafoedd
Sokolnicheskaya 1 Сокольническая 1935 1990 26.1 km 19
Zamoskvoretskaya 2 Замоскворецкая 1938 2012 39.9 km 21
Arbatsko-Pokrovskaya 3 Арбатско-Покровская 1938 2012 45.1 km 22
Filyovskaya 4 Филёвская 1958 1 2006 14.9 km 13
Koltsevaya 5 Кольцевая 1950 1954 19.4 km 12
Kaluzhsko-Rizhskaya 6 Калужско-Рижская 1958 1990 37.6 km 24
Tagansko-Krasnopresnenskaya 7 Таганско-Краснопресненская 1966 2013 40.5 km 21
Kalininskaya 8 Калининская 1979 2014 19.7 km 10
Serpukhovsko-Timiryazevskaya 9 Серпуховско-Тимирязевская 1983 2002 41.2 km 25
Lyublinskaya 10 Люблинская 1995 2011 28.0 km 17
Kakhovskaya 11 Каховская 1995 2 1969 3.4 km 3
Butovskaya 12 Бутовская 2003 2014 10.0 km 7
Cyfanswm: 325.4 km 194

Gweler hefyd Golygu

Dolenni allanol Golygu