Miguel Hidalgo y Costilla
Offeiriad Catholig a chwyldroadwr a chenedlaetholwr o Fecsico oedd Miguel Hidalgo y Costilla (8 Mai 1753 – 30 Gorffennaf 1811) a sbardunodd Rhyfel Annibyniaeth Mecsico (1810–21) yn erbyn Ymerodraeth Sbaen, ac o'r herwydd fe'i gelwir yn "Dad y Genedl".
Miguel Hidalgo y Costilla | |
---|---|
Portread olew o'r Pencadfridog Miguel Hidalgo y Costilla gan Joaquín Ramírez (1865). | |
Ganwyd | 8 Mai 1753 |
Bu farw | 30 Gorffennaf 1811 o anaf balistig Chihuahua City |
Alma mater | |
Galwedigaeth | offeiriad |
Cyflogwr | |
llofnod | |
Ganed ef yn Pénjamo yng Ngalisia Newydd, un o is-deyrnasoedd Sbaen Newydd, a leolir heddiw yn nhalaith Guanajuato yng nghanolbarth Mecsico. Astudiodd yn ysgol yr Iesuwyr ac enillodd radd baglor mewn diwinyddiaeth ac athroniaeth o Goleg San Nicolás yn Valladolid (bellach Morelia) ym 1773. Fe'i ordeiniwyd yn offeiriad yn yr Eglwys Gatholig ym 1778, a threuliodd y chwarter can mlynedd nesaf yn addysgu ac yn gweinyddu yn y coleg, ac yn gwasanaethu mewn ambell plwyf. Wedi marwolaeth ei frawd hŷn ym 1803, aeth i weinidogaethu yn Dolores, hen blwyf ei frawd, ac yno daeth yn wleidyddol weithgar, gan ymgyrchu dros wella amodau byw y werin. Ymddiddorai mewn dulliau amaethyddol newydd, gan annog y bobl i dyfu olewydd a grawnwin, a siaradodd yn gyhoeddus am ryddfreinio'r tlodion, gan ennyn felly drwgdybiaeth yr awdurdodau trefedigaethol.
Yn sgil goresgyniad Sbaen gan luoedd Napoleon ym 1808 ac ymddiorseddu'r Brenin Fernando VII, ffurfiwyd nifer o gymdeithasau cyfrinachol ym Mecsico â oedd yn anfodlon â'r drefn newydd, rhai ohonynt o blaid adfer Fernando i'r orsedd ac eraill yn ffafrio annibyniaeth yn gyfan gwbl oddi ar Sbaen. Ymunodd Hidalgo â chymdeithas gudd yn San Miguel, ger Dolores, a gynllwyniodd dros ddymchwel y llywodraeth drefedigaethol. Wedi i'r cynllun gael ei ddatgelu i'r Sbaenwyr, a nifer o'i gyd-aelodau eu harestio, penderfynodd Hidalgo cychwyn y chwyldro ar liwt ei hun, gan ganu cloch yr eglwys ar 16 Medi 1810 a galw ei blwyfolion i flaen y gad yn y frwydr dros annibyniaeth, cydraddoldeb hil, a chyfiawnder y tir. Gelwir ei anerchiad enwog, a daniodd y rhyfel annibyniaeth, yn "Gri Dolores" (Grito de Dolores), a dethlir Diwrnod Annibyniaeth Mecsico ar 16 Medi.[1]
Ymunodd rhyw 90,000 o frodorion, mestisos, a gwerinwyr tlawd â byddin Hidalgo, a fe orymdeithiodd dan faner Morwyn Guadalupe tuag at Ddinas Mecsico. Cipiodd Guanajuato a sawl dinas arall cyn cyrraedd Dinas Mecsico, ond oedodd Hidalgo, a chollodd ei gyfle i orchfygu'r brifddinas. Dychwelodd nifer o'i ddilynwyr i'w cartrefi, a chwalwyd ei fyddin ym Mrwydr Pont Calderón, ar gyrion Guadalajara, ar 17 Ionawr 1811. Ffoes Hidalgo i'r gogledd, gan obeithio i gael lloches yn yr Unol Daleithiau, ond cafodd ei ddal, ei ysgymuno, a'i ddienyddio gan griw saethu.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Miguel Hidalgo y Costilla. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 8 Hydref 2023.