Mikhail Tal
Roedd Mikhail Nekhemyevich Tal (9 Tachwedd 1936 – 28 Mehefin 1992) yn chwaraewr gwyddbwyll Latfiaidd-Sofietaidd ac yn wythfed Pencampwr Gwyddbwyll y Byd. Mae'n cael ei ystyried yn athrylith ac fel un o'r chwaraewyr gwyddbwyll mwyaf dylanwadol a chreadigol. Chwaraeai Tal gydag arddull ymosodol beiddgar. Roedd ei chwarae'n adnabyddus yn anad dim am waith byrfyfyr ac anrhagweladwy. Dywedodd Vladislav Zubok amdano, "Roedd pob gêm iddo mor ddihafal ac amhrisiadwy â barddoniaeth".
Mikhail Tal | |
---|---|
Ganwyd | 9 Tachwedd 1936 Riga |
Bu farw | 27 Mehefin 1992, 28 Mehefin 1992 o methiant yr arennau Moscfa |
Dinasyddiaeth | Yr Undeb Sofietaidd, Latfia |
Alma mater | |
Galwedigaeth | chwaraewr gwyddbwyll, llenor, newyddiadurwr, arbenigwr gwyddbwyll |
Priod | Sally Tal |
Gwobr/au | pencampwr gwyddbwyll y byd, Urdd Cyfeillgarwch y Bobl, Urdd y Bathodyn Anrhydedd, Meistr Anrhydeddus Chwaraeon, CCCP |
Chwaraeon | |
Tîm/au | SK Zehlendorf, SG Porz |
Gwlad chwaraeon | Latfia, Yr Undeb Sofietaidd |
Ei lysenw oedd "Misha", ac enillodd y llysenw pellach "Y Dyn Hud a Lledrith o Riga." Mae'r llyfrau The Mammoth Book of the World's Greatest Chess Games a Modern Chess Brilliancies yn cynnwys mwy o gemau gan Tal nag unrhyw chwaraewr arall. Ef oedd yn dal y record am y rhediad diguro hiraf yn hanes gwyddbwyll cystadleuol gyda 95 gêm (46 buddugoliaeth a 49 gêm gyfartal) rhwng 23 Hydref 1973 a 16 Hydref 1974, tan rediad Ding Liren o 100 gêm (29 buddugoliaeth, 71 gêm gyfartal) rhwng 9 Awst 2017 a 11 Tachwedd 2018. Yn ogystal, roedd Tal yn awdur gwyddbwyll uchel ei barch.
Bu Tal farw ar 28 Mehefin 1992 ym Moscow, Rwsia. Mae Twrnamaint Gwyddbwyll Coffa Mikhail Tal wedi'i gynnal ym Moscow bob blwyddyn ers 2006.
Blynyddoedd cynnar
golyguGaned Tal yn Riga, Latfia (oedd yn wlad annibynnol ar y pryd), i deulu Iddewig. Yn ôl ei ffrind Gennadi Sosonko, roedd ei dad biolegol yn ffrind i'r teulu a adnabyddent fel "Ewythr Robert," fodd bynnag, gwadwyd hyn yn chwyrn gan drydedd wraig Tal, Angelina. Roedd Ewythr Robert wedi bod yn yrrwr tacsi ym Mharis yn y 1920au ac wedi colli ei deulu i gyd yn yr Ail Ryfel Byd. Roedd ei fam, Ida Grigoryevna yn hynaf o bedair chwaer, Ymwelodd Tal â'r Iseldiroedd yn aml i weld ei fodryb, Riva ac roedd un arall o'i fodrybedd wedi ymgartrefu yn yr Unol Daleithiau ond yn ymweld â Riga. Nodyn:Chess diagram smallYn blentyn, ymunodd Tal â chlwb gwyddbwyll Arloeswyr Ifanc Palas Riga. Ym 1949 chwaraeodd yn erbyn Ratmir Kholmov, (meistr ifanc a fu'n cystadlu'n yng nghystadleuaeth fawreddog Cofeb Chigorin yn 1947), mewn arddangosfa ar y pryd. Enillodd Tal ei gêm gyda cyfuniad llawn dychymyg ac yntau ond yn 13 oed.
Dechreuodd Alexander Kobents diwtora Tal ym 1949, ac fe wellodd gêm Tal yn gyflym, ac erbyn 1951 roedd wedi cymhwyso ar gyfer Pencampwriaeth Latfia. Ym Mhencampwriaeth Latfia 1952, gorffennodd Tal o flaen ei hyfforddwr, Kobents. Enillodd Tal bencampwriaeth Latfia am y tro cyntaf ym 1953, a dyfarnwyd y teitl Ymgeisydd Feistr iddo. Daeth yn Feistr Sofietaidd yn 1954 trwy drechu Vladimir Saigin mewn gêm rhagbrofol. Yr un flwyddyn cafodd ei fuddugoliaeth gyntaf dros uwchfeistr pan drechodd Yuri Averbakhn, ar amser ond mewn gêm gyfartal . Graddiodd mewn Llenyddiaeth ym Mhrifysgol Latfia, gan ysgrifennu traethawd ymchwil ar weithiau dychanol Ilf a Petrov, a bu'n athro ysgol yn Riga am gyfnod yn ei ugeiniau cynnar. Roedd yn aelod o Gymdeithas Chwaraeon Daugava, a chynrychiolodd Latfia mewn cystadlaethau tîm Sofietaidd mewnol.
Ym 1959 priododd Salli Landau, actores pedair-ar bymtheg oed yn Theatr Ieuenctid Riga; ond ysgarasant ym 1970. Yn 2003, cyhoeddodd Landau gofiant yn Rwsia i'w diweddar cyn-ŵr.
Pencampwr Sofietaidd
golyguGwnaeth Tal ei ymddangosiad arwyddocaol cyntaf ym Mhencampwriaeth Gwyddbwyll yr Undeb Sofietaidd ym 1956, pan orffennodd yn y 5ed-7fed safle gyda Lev Polugaevsky a Ratmir Kholmov, Galwodd Grigory Levenfish ef y "ffigwr mwyaf lliwgar y bencampwriaeth" ac yn "dalent wych" a ymdrechodd am "chwarae miniog a chymhleth". Fodd bynnag, cafodd ei feirniadu gan y cyfryngau am gymryd risgiau diangen..Wedi hyn aeth Tal i chwarae ar fwrdd tri ym mhencampwriaeth y myfyrwyr yn Sweden, gan sgorio 6 allan o 7.
Y flwyddyn ganlynol ef oedd y chwaraewr ieuengaf i ennill Pencampwriaeth yr Undeb Sofietaidd yn 20 oed. Nid oedd wedi chwarae mewn digon o dwrnameintiau rhyngwladol i gymhwyso ar gyfer y teitl Uwchfeistr, ond penderfynodd FIDE yn ei Gyngres ym 1957 i hepgor y cyfyngiadau arferol a rhoi'r teitl iddo oherwydd ei gamp o ennill y Bencampwriaeth Sofietaidd . Bryd hynny, roedd yr Undeb Sofietaidd yn tra-arglwyddiaethu gwyddbwyll y byd, ac roedd Tal wedi curo rhai o brif chwaraewyr y byd i ennill y twrnamaint.
Gwnaeth Tal dri ymddangosiad i'r Undeb Sofietaidd yn Olympiad y Myfyrwyr ym 1956-1958, gan ennill tair medal aur tîm a thair medal aur bwrdd. Enillodd bedair ar bymtheg o gemau, gydag wyth gêm gyfartal , a dim un colled, sef 85.2 y cant !
Enillodd Y Pencampwriaeth Sofietaidd eilwaith ym 1958 yn Riga, a chystadlodd ym Mhencampwriaeth Gwyddbwyll y Byd am y tro cyntaf. Enillodd dwrnamaint Interzonal ym 1958 yn Portoroz, ac yna cynorthwyodd yr Undeb Sofietaidd i ennill eu pedwaredd Olympiaid Gwyddbwyll yn olynol ym Munich.
Pencampwr y Byd
golyguEnillodd Tal dwrnamaint cryf iawn yn Zurich, 1959 . Yn dilyn yr Interzonal, aeth y chwaraewyr gorau ymlaen i Dwrnamaint yr Ymgeiswyr 1959, yn Iwgoslafia. Chwaraeodd Tal yn wych gan ennill gyda 20/28, o flaen Paul Keres, 18½, ac yna Tigran Petrosian, Vasily Smyslov, a Bobby Fischer un ar bymtheg oed, Svetozar Gligoric, Olafsson a Pal Benko. Priodolwyd buddugoliaeth Tal i'w oruchafiaeth dros hanner isaf y cystadleuwyr; tra'n sgorio dim ond un fuddugoliaeth a thair colled yn erbyn Keres, enillodd bob un o'r pedair gêm unigol yn erbyn Fischer, a chipiodd 3½ pwynt allan o 4 oddi wrth Gligorić, Olafsson, a Benko. Pan gyrhaeddodd Benko ar gyfer ei gêm gyda Tal, roedd yn gwisgo sbectol dywyll er mwyn osgoi Tal yn syllu arno. Mewn ymateb, ac fel jôc, gwisgodd Tal sbectol haul mawr a fenthycodd gan un o'r dorf.
Ym 1960, yn dair-ar hugain oed, trechodd Tal yr Uwchfeistr Mikhail Botvinnik mewn gêm am Bencampwriaeth y Byd, a gynhaliwyd ym Moscow, o 12½–8½ (chwe buddugoliaeth, dwy golled, a thair gêm gyfartal), gan ddod yn Bencampwr ieuengaf Y Byd ( record a dorrwyd yn ddiweddarach gan Garry Kasparov, a enillodd pan yn 22 ). Enillodd Botvinnik, nad oedd erioed wedi wynebu Tal cyn i'r gêm deitl ddechrau, ei deitl yn ôl ym 1961, (gallai cyn-bencampwr hawlio ail gyfle o fewn chwe mis o golli ei deitl ar y pryd hynny) a gynhaliwyd hefyd ym Moscow, o 13–8 (deg buddugoliaeth i bump, gyda chwe gêm gyfartal). Yn y cyfnod rhwng y gemau roedd Botvinnik wedi dadansoddi arddull Tal yn drylwyr, ac yna wedi troi’r rhan fwyaf o gemau’r gêm ddychwelyd yn rhyfeloedd araf o symudiadau neu gemau diweddglo, yn hytrach na’r melees tactegol cymhleth a oedd yn faes hela i Tal. Cyfrannodd problemau arennau cronig Tal at y golled, a cynghorodd ei feddygon yn Riga y dylai ohirio'r ornest am resymau meddygol. Honnodd Yuri Averbakh na fyddai Botvinnik wedi cytuno i ohirio oni bai fod Tal wedi'i ardystio'n anaddas gan feddygon Moscow, a bod Tal wedyn wedi penderfynu chwarae. Gwnaeth ei deyrnasiad byr ar ben y byd gwyddbwyll ef yn un o'r ddau "frenin gaeaf" fel y'u gelwir a dorrodd ar draws teyrnasiad hir Botvinnik o 1948 i 1963 (y llall oedd Smyslov, pencampwr y byd 1957-58).
Ar ôl colli'r Bencampwriaeth
golyguYn fuan ar ôl colli’r gêm ail-gyfle gyda Botvinnik, enillodd Tal uwch-dwrnamaint Bled ym 1961, un pwynt o flaen Fischer, (er iddo golli eu gêm unigol), gan sgorio 14½ o 19 (+11−1=7) gyda’r chwaraewyr o safon fel Tigran Petrosian, Keres, Gligorić, Efin Geller a Miguel Najdorf y tu ol iddynt.
Chwaraeodd Tal mewn cyfanswm o chwe Thwrnamaint Ymgeiswyr a chylchoedd gemau cymhwyso, ond ni enillodd yr hawl i chwarae am deitl y byd eilwaith. Ym 1962 yn Curacao, roedd ganddo broblemau iechyd difrifol, a cafodd llawdriniaeth fawr ychydig cyn y twrnamaint, a bu'n rhaid iddo dynnu'n ôl dri chwarter y ffordd drwodd, gan sgorio dim ond saith pwynt (+3−10=8). Daeth yn gydradd gyntaf yn Interzonal Amsterdam ym 1964 i symud ymlaen i'r gemau rhagbrofol. Yna ym 1965, collodd yn ei gêm olaf yn erbyn Boris Spassky, ar ôl trechu Lajos Portisch a Bent Latsen mewn gemau. Wedi'i eithrio o Interzonal 1967, collodd gêm gynderfynol yn erbyn Viktor Korchnoi ym 1968, ar ôl trechu Gligorić.
Achosodd ei iechyd gwael gwymp yn ei chwarae rhwng diwedd 1968 a diwedd 1969, ond daeth yn ôl yn gryf ar ôl cael tynnu aren. Enillodd yn Interzonal Riga ym 1979 heb golli gêm gyda sgôr o 14/17, ond y flwyddyn nesaf collodd gêm pedwar-olaf i Lev Polugaevsky, un o'r ychydig chwaraewyr sydd efo sgôr positif yn ei erbyn. Chwaraeodd hefyd yn Nhwrnamaint Ymgeiswyr Montpellier ym 1985, gornest o 16 gêm rhagbrofol, gan orffen yn gyfartal am y pedwerydd/pumed safle, a methu o drwch blewyn cael dyrchafiad ar ôl gêm ail gyfle gyda Jan Timman, a ddaliau'r fantais o'r gêm gyfartal yn y twrnamaint go iawn.
Rhwng Gorffennaf 1972 ac Ebrill 1973, chwaraeodd Tal y nifer uchaf erioed hyd hynny o 86 gêm yn olynol heb golled (47 buddugoliaeth a 39 gêm gyfartal). Rhwng 23 Hydref 1973 a 16 Hydref, 1974 chwaraeodd 95 gêm yn olynol heb golled (46 buddugoliaeth a 49 gêm gyfartal), gan chwalu ei record flaenorol. Dyma’r ddwy rediad diguro hiraf mewn gwyddbwyll cystadleuol am fwy na phedwar degawd, nes i Ding Liren dorri’r record yn 2018 gyda 100 o gemau, er gyda llawer llai o fuddugoliaethau na rhediadau Tal (29 buddugoliaeth, 71 gêm gyfartal).
Parhaodd Tal yn wrthwynebydd cryf wrth iddo fynd yn hŷn. Chwaraeodd Anatoly Karpov 22 o weithiau, 12 gwaith yn ystod teyrnasiad Karpov fel Pencampwr y Byd, gyda record o +0−1=19 mewn gemau clasurol a +1−2=19 i gyd.
Un o gampau mwyaf Tal yn ystod ei yrfa yn ddiweddarach oedd gorffen yn gydradd gyntaf â Karpov (eiliodd Tal ef mewn nifer o dwrnameintiau a phencampwriaethau'r byd) yn "Nhwrnamaint y Sêr" Montreal 1979, gyda sgôr ddiguro o (+6−0= 12), yr unig chwaraewr heb golli yn y gystadleuaeth, oedd hefyd yn cynnwys Spassky, Portisch, Vlastimil Hort, Robert Hubner, Ljubomir Ljubojevic, Lubomir Kavalek, Jan Timman a Larsen.
Chwaraeodd Tal mewn 21 o Bencampwriaethau Sofietaidd, gyda chwech buddugoliaeth (1957, 1958, 1967, 1972, 1974 a 1978). Enillodd Twrnamaint Gwyddbwyll Rhyngwladol Tallinn, Estonia, bum gwaith ym 1971, 1973, 1977, 1981, a 1983.
Cafodd Tal hefyd lwyddiannau mewn gwyddbwyll blitz. Ym 1970 daeth yn ail i Fischer a sgoriodd 19/22, mewn twrnamaint blitz yn Herceq Novi, Iwgoslafia, ar y blaen i Korchnoi, Petrosian a Smyslov. Yn 1988, yn 51 oed, enillodd ail Bencampwriaeth Blitz swyddogol y Byd (enillwyd y gyntaf gan Kasparov y flwyddyn flaenorol ym Mrwsel) yn Saint John, Nova Scotia, o flaen chwaraewyr fel Kasparov, pencampwr y byd ar y pryd, a'r cyn-bencampwr Anatoly Karpov. Yn y rownd derfynol, trechodd Rafael Vaganian 3½–½.
Ar 28 Mai 1992, yn nhwrnamaint blitz Moscow (gadawodd yr ysbyty i chwarae), trechodd Kasparov. Bu farw fis yn ddiweddarach.
Cystadlaethau tîm
golyguTra'n chwarae yn yr Olympiad roedd Mikhail Tal yn aelod o wyth tîm Sofietaidd, pob un ohonynt yn ennill medalau aur tîm (1958, 1960, 1962, 1966, 1972, 1974, 1980, a 1982), Enillodd 65, gyda 34 yn gyfartal, a colli 2 (81.2 y cant) ! Mae'r ganran hon yn ei wneud y chwaraewr gyda'r sgôr gorau ymhlith y rhai sy'n cymryd rhan mewn o leiaf pedwar Olympiad. Yn unigol, enillodd Tal saith medal bwrdd yr Olympiad, gan gynnwys pum aur (1958, 1962, 1966, 1972, 1974), a dwy arian (1960, 1982). [1]
Cynrychiolodd Tal yr Undeb Sofietaidd mewn chwe Phencampwriaeth Tîm Ewropeaidd (1957, 1961, 1970, 1973, 1977, a 1980), gan ennill medalau aur tîm bob tro, a thair medal aur bwrdd (1957, 1970, a 1977). Sgoriodd 14 buddugoliaeth, 20 gêm gyfartal, a thair colled, sef 64.9 y cant. Chwaraeodd Tal ar fwrdd naw i’r Undeb Sofietaidd yn y gêm gyntaf yn erbyn tîm Gweddill y Byd yn Belgrâd ym 1970, gan sgorio 2 allan o 4. Roedd ar fwrdd saith i’r Undeb Sofietaidd yn yr ail gêm yn erbyn tîm Gweddill y Byd yn Llundain 1984, gan sgorio 2 allan o 3. Enillodd yr Undeb Sofietaidd y ddwy gêm.
O 1950 (pan enillodd bencampwriaeth iau Latfia) i 1991, enillodd Tal, neu roedd yn gydradd gyntaf, mewn 68 twrnamaint (gweler y tabl isod). Yn ystod ei yrfa 41 mlynedd chwaraeodd tua 2,700 o gemau, gan ennill dros 65% ohonynt!
Problemau meddygol a marwolaeth
golyguYn naturiol artistig, ffraeth a byrbwyll, roedd gan Tal fywyd gwyllt o chwarae gwyddbwyll, yfed trwm ac ysmygu fel stemar. Dioddefodd ei iechyd oedd eisoes yn fregus o ganlyniad, a threuliodd llawer iawn o amser yn yr ysbyty, gan gynnwys llawdriniaeth i dynnu aren yn 1969. Bu hefyd yn gaeth am gyfnod byr i Morffin, ar ôl ei dderbyn gan ei feddyg oherwydd poen dwys. 'Roedd Tal yn yfed yn drwm cyn twrnameintiau; mewn twrnamaint yn yr Iseldiroedd, roedd Tal ag Uwchfeistr Sofietaidd arall yn gyfartal, a chanlyniad y gemau olaf y diwrnod dilynol fyddai'n pennu'r enillydd. Y noson cyn y gemau hyn, roedd y ddau'n yfed gyda'i gilydd tan bedwar y bore. Enillodd Tal ei gêm, ynghyd â'r twrnamaint.
Ar 28 Mehefin 1992, bu farw Tal mewn ysbyty ym Moscow, yn swyddogol o waedlif yn yr oesoffagws . Ond adroddodd ei ffrind a’i gyd Uwchfeistr Sofietaidd Genna Sosonko “fod ei organeb gyfan i bob pwrpas wedi peidio,”
Roedd gan Tal yr anffurfiad cynhenid o 'ectrodactyly' yn ei law dde (i'w weld yn y llun uchod). Er hyn, roedd yn chwaraewr piano medrus.
Arddull chwarae
golyguRoedd Tal wrth ei fodd â'r gêm gwyddbwyll ac yn meddwl mai "celf yw gwyddbwyll, yn fwyaf oll." Roedd yn chwarae nifer o gemau blitz yn erbyn chwaraewyr anhysbys neu gymharol wan dim ond er mwyn ei fwynhad o chwarae.
Yn cael ei adnabod fel "Y Dyn Hud a Lledrith o Riga", roedd Tal yn chwaraewr ymosodol beiddgar, a datblygodd arddull chwarae hynod bwerus a llawn dychymyg. Roedd ei agwedd dros y bwrdd yn bragmatig iawn—ac yn hynny o beth, mae’n un o etifeddion cyn-bencampwr y byd Emmanuel Lasker. Byddai'n aml iawn yn aberthu i chwilio am y cyfle i wneud bygythiadau y mae'n rhaid i'r gwrthwynebydd ymateb iddynt. Gydag aberthau greddfol o'r fath, creodd gymhlethdodau enfawr, ac roedd llawer o feistri yn ei chael hi'n amhosibl datrys yr holl broblemau a greodd wrth eistedd wrth y bwrdd, er i ddadansoddiad dyfnach ar ôl y gêm ddod o hyd i ddiffygion yn rhai o'i syniadau. Mae'r chweched gêm enwog ei gêm gyntaf ym mhencampwriaeth y byd gyda Botvinnik yn nodweddiadol yn hynny o beth: aberthodd Tal farchog heb fawr o iawndal ond enillodd pan fethodd Botvinnik â chanfod yr ymateb cywir. Roedd arddull chwarae Tal mor frawychus nes i James Eade restru Tal fel un o'r tri chwaraewr yr oedd eu cyfoedion ofn chwarae yn eu herbyn fwyaf (Capablanca a Fischer oedd y ddau arall). Fodd bynnag, tra'r oedd Capablanca a Fischer yn cael eu hofni oherwydd eu sgiliau technegol eithafol, roedd Tal yn cael ei ofni oherwydd y posibilrwydd o fod ar yr ochr anghywir i aberth disglair a ddeuai'n fyd-enwog cyn bo hir. Er bod aberthu Tal yn ddewiniol, llwyddodd rhai o chwaraewyr gorau’r cyfnod i’w gwrthbrofi, gan roddi iddo record negyddol yn erbyn rhai o brif chwaraewyr y cyfnod. Roedd y rhain yn cynnwys Spassky, Petrosian, Polugaevsky, Korchnoi, Keres, Smyslov, a Stein. (Mae gan Tal record gadarnhaol yn erbyn Fischer gyda’i bedair buddugoliaeth o dwrnamaint ymgeiswyr 1959, pan oedd Fischer yn 16 oed yn unig. Ni drechodd Fischer wedi hynny),
Er bod ei arddull chwarae ar y dechrau wedi'i wawdio gan gyn-bencampwr y byd, Vasily Smyslov, fel dim mwy na "thriciau", curodd Tal rai o chwaraewyr gorau'r byd gyda'i ymosodiadau gwefreiddiol. Roedd gwrthsefyll ymosodiad Tal yn gofyn am allu anghyffredin. Mae'n nodedig hefyd iddo fabwysiadu arddull fwy tawel a sefyllfaol yn ei flynyddoedd olaf; i lawer o gariadon gwyddbwyll, mae gemau gorau Tal yn cyfateb i'r cyfnod (oddeutu 1971 i 1979) pan lwyddodd i gyfuno cadernid gwyddbwyll clasurol â dychymyg ei ieuenctid.
O chwaraewyr gorau'r presennol, Alexei Shirov, a aned yn Latfia, sydd yn cael ei gymharu'n amlaf â Tal. Yn wir, astudiodd gyda Tal pan oedd yn ifanc. Mae llawer o feistri eraill o Latfia, er enghraifft Alexander Shabolov ac Alvis Vitolins, wedi chwarae yn yr un modd, gan beri i rai sôn am "Ysgol Gwyddbwyll Latfiaidd". Ychydig a gyfrannodd Tal at ddamcaniaeth agoriadol, er bod ganddo wybodaeth ddofn o'r rhan fwyaf o systemau, yr Agoriad Sisilaidd a'r Ruy Lopez yn arbennig. Fodd bynnag, mae yna ychydig o agoriadau wedi'u henwi ar ei ôl fel yr amrywiad Tal yn y Caro-Kann ac yn y Scheveningen Sicilaidd. Ond arweiniodd ei ddefnydd ymosodol o'r Benoni Fodern, yn enwedig yn ei flynyddoedd cynnar, at ailwerthuso'r amrywiad hwn yn llwyr. Mae amrywiad o'r Amddiffyniad Nizmo-Indiaidd yn dwyn ei enw.
Ysgrifennu
golyguRoedd Tal yn awdur gwyddbwyll toreithiog ac uchel ei barch, yn ysgrifennu nifer o lyfrau ac yn gwasanaethu fel golygydd y cylchgrawn gwyddbwyll o Latfia Šahs ("Gwyddbwyll") rhwng 1960 a 1970. Mae ei lyfrau yn enwog am y naratif manwl o'i feddylfryd yn ystod y gemau. Adolygodd Uwchfeistr America Andrew Soltis ei lyfr ar gêm pencampwriaeth y byd fel "yn syml, y llyfr gorau a ysgrifennwyd am gêm pencampwriaeth y byd gan gystadleuydd. Ddylai hynny ddim fod yn syndod oherwydd Tal oedd yr awdur gorau i ddod yn bencampwr byd." Ysgrifennodd Uwchfeistr Seland Newydd, Murray Chandler, yn y cyflwyniad i rifyn algebraidd a ailgyhoeddwyd ym 1997 o The Life and Games of Mikhail Tal fod y llyfr o bosibl y llyfr gwyddbwyll gorau a ysgrifennwyd erioed.
Twrnamaint a gornestau a enillodd (neu'n gyfartal gyntaf)
golygu1950-1965
golyguBlwyddyn | Twrnamaint / Pencampwriaeth | Cystadleuaeth gêm / tîm |
---|---|---|
1950 | Riga - pencampwriaeth Iau Latfia, 1af | |
1953 | Riga – 10fed pencampwriaeth Latfia, 1af (14½/19) | Leningrad, rownd derfynol Pencampwriaeth Tîm Sofietaidd, bwrdd 2, 1af–2il (4½/7) |
1954 | Gornest â Vladimir Saigin am deitl Meistr Sofietaidd (+4−2=8) | |
1955 | Riga – 23ain rownd gynderfynol Pencampwriaeth Sofietaidd, 1af (12½/18) | |
1956 | Uppsala -Pencampwriaeth tîm myfyrwyr y byd, bwrdd 3 (6/7) | |
1957 | Moscow -24ain Pen U. Sof.,1af (14/21) | Reykjavik - Penc. Tîm Myf y Byd, bwrdd 1 (8½/10) Baden, Awstria Pencampwriaeth Tîm Ewropeaidd, bwrdd 4, 1af–2il (3/5) |
1958 | Riga - 25ain Pen U. Sof., 1af (12/19)Interzonal Portoroz 1af (13½/20) | Varna - Pen. tîm Myfyrwyr y Byd, bwrdd 1 (8½/10) Olympiad Munich 1958, bwrdd 5 (13½/15) |
1959 | Riga – Olympiad Latfia, 1af (7/7) Twrnamaint Zurich 1af (11½/15) Bled - Zagreb-Belgrâd - twrnamaint ymgeiswyr, 1af (20/28) |
|
1960 | Moscow - Pencampwriaeth y Byd yn erbyn Mikhail Botvinnik (+6−2=13) Hambwrg -Gornest Gorllewin yr Almaen yn erbyn. Undeb Sofietaidd, 1af (7½/8) Olympiad Leipzig 1960, bwrdd 1, medal arian (11/15) | |
1960/61 | Twrnamaint Stockholm, 1af (9½/11) | |
1961 | Twrnamaint Bled, 1af (14½/19) | |
1962 | Olympiad Varma 1962, bwrdd 6 (10/13) | |
1963 | Twrnamaint Miskolc, 1af (12½/15) | Moscow, USSR Spartakiad, bwrdd 1, 1af (6/9) |
1963/64 | Twrnamaint Premier Hastings, 1af (7/9) | |
1964 | Twrnamaint Reykjavic, 1af (12½/13) Interzonal Amsterdam, 1af–4ydd (17/23) Twrnamaint Kislovodsk, 1af (7½/10) |
Moscow, Pencampwriaeth Tîm Clwb yr Undeb Sofietaidd, bwrdd 1, 1af (4½/6) |
1965 | Riga, pencampwriaeth Latfia, 1af (10/13) | Bled – Ymgeiswyr rownd yr wyth olaf yn erbyn Lajos Portisch: (+4−1=3) Bled – Ymgeiswyr Cynderfynol yn erbyn Bent Larsen (+3−2=5) |
1966–1977
golyguBlwyddyn | Twrnamaint / Pencampwriaeth | Cystadleuaeth gêm / tîm |
---|---|---|
1966 | Twrnamaint Sarajevo, 1af–2il (11/15) Twrnamaint Palma de Mallorca, 1af (12/15) |
Olympiad Hafana 1966 bwrdd 3, 1af (12/13) |
1967 | Kharkiv -35ain Pen U. Sof., = 1af (12/15) | Moscow, USSR Spartakiad, B terfynol, 1af (6/9) |
1968 | Twrnament Gori, 1af (7½/10) | Belgrâd – Ymgeiswyr rownd y chwarteri yn erbyn Svetozar Gligoric (+3−1=5) |
1969/70 | Tbilisi - twrnamaint coffa Goglidze, 1af–2il (10½/15) | |
1970 | Poti - Pencampwriaeth Agored Georgia , 1af (11/14) Sochi -Uwchfeistri vs. Meistri Ifanc, 1af (10½/14) |
Belgrâd - Yr Undeb Sofietaidd yn erbyn y Byd, bwrdd 9 yn erbyn Miguel Najdorf (+1−1=2) Kapfenberg, Pencampwriaeth Tîm Ewropeaidd, bwrdd 6 (5/6) |
1971 | Twrnamaint Tallinn, 1af–2il (11½/15) | Rostov-ar-Don, Pencampwriaeth Tîm Clwb yr Undeb Sofietaidd, bwrdd 1, 1af (4½/6) |
1972 | Twrnamaint Sukhumi,
1af (11/15) Baku - 40fed Pen URS, 1af (15/21) |
Olympiad Skopje 1972, bwrdd 4 (14/16) |
1973 | Twrnamaint Wijk aan Zee,
1af (10½/15) Twrnamaint Tallinn, 1af (12/15) Sochi - cofeb Mikhail Chigorin, 1af (11/15) Twrnamaint Dubna, 1af–2il (10/15) |
Caerfaddon, Pencampwriaeth Tîm Ewropeaidd, bwrdd 6, medal arian (4/6) |
1973/74 | Twrnamaint Hastings, 1af–4ydd (10/15) | |
1974 | Twrnamaint Lublin, 1af (12½/15) Twrnamaint Halle, 1af (11½/15) Twrnamaint Novi Sad, 1af (11½/15) Leningrad – 42ain Pen U. Sof., 1af (9½/15) |
Olympiad Nice, 1974, bwrdd 5 (11½/15) Moscow, Pencampwriaeth Tîm Clwb yr Undeb Sofietaidd, bwrdd 1, 1af (6½/9) |
1976 | Stockholm, Gornest gydag Ulf Andersson, Cyfartal (+1=7) | |
1977 | Tallinn – Cofeb Keres, 1af (11½/17)Leningrad 60ain y Chwildro., 1af–2il (11½/17) Sochi – cofeb Chigorin, 1af (11/15) |
Moscow, Pencampwriaeth Tîm Ewropeaidd, bwrdd 4 (4½/6) |
Blwyddyn | Twrnamaint / Pencampwriaeth |
---|---|
1978 | Tbilisi -46ain Pen. U. Sof., 1af (11/17) |
1979 | Twrnamaint Monteal, 1af–2il (12/18) Interzonal Riga, 1af (14/17) |
1981 | Tallinn – cofeb Keres, 1af (12½/15) Twrnamaint Malaga, 1af (7/11) Moscow, Pencampwriaeth Tîm Sofietaidd, bwrdd 1, 1af (7/9) Twrnamaint Riga, 1af (11/15) Twrnamaint Lviv, 1af–2il (9/13) |
1981/82 | Twrnamaint Porz, 1af (9/11) |
1982 | Twrnamaint Moscow, 1af (9/13) Twrnamaint Erevan, 1af (10/15)Sochi – cofeb Chigorin, 1af (10/15) Twrnamaint Pforzheim, 1af (9/11) |
1983 | Tallinn – cofeb Keres, 1af (10/15) |
1984 | Twrnamaint Albena, 1af–2il (7/11) |
1985 | Twrnamaint Jurmala, 1af (9/13) |
1986 | Twrnamaint Agored Gorllewin Berlin, 1af–2il (7½/9) Tbilisi – cofeb Goglidze, 1af–2il (9/13) |
1987 | Termas de Rio Hondo (Yr Ariannin), 1af (8/11) Twrnamaint Jūrmala, 1af–4ydd (7½/13) |
1988 | Twrnamaint Agored Cenedlaethol Chicago, 1af–6ed (5½/6) St John - Pencampwriaeth blitz y Byd : 1af |
1991 | Buenos Aires - cofeb Najdorf, 1af–3ydd (8½/13) |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "World Student Team Chess Championship :: Mikhail Tal". OlimpBase.org. Cyrchwyd 24 Hydref 2013.