Mimoza Kusari-Lila

Gwleidydd a Gweinyddwr Cosofo, Maer

Gwleidydd a gweinyddydd yw Mimoza Kusari-Lila (ganwyd 16 Hydref 1975 yn Gjakova, (Serbeg: Đakovica, Serbeg Cyrilig: Ђаковица) Talaith Sosialaidd Hunanlywodraethol Cosofo, Iwgoslafia). Etholwyd hi yn Faer Gjakova, Gweriniaeth Cosofo. Hi oedd y fenyw gyntaf i fod yn Faer yn hanes Cosofo.

Mimoza Kusari-Lila
Ganwyd16 Hydref 1975 Edit this on Wikidata
Gjakova Edit this on Wikidata
DinasyddiaethCosofo Edit this on Wikidata
Alma mater
  • University of Pristina
  • Prifysgol Pristina Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddDirprwy Brif Weinidog Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolNew Kosovo Alliance Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://mimozakusari.com/ Edit this on Wikidata

Gyrfa academaidd a gwasanaeth

golygu

Mae gan Lila radd meistr mewn gweinyddiaeth fusnes yn yr Unol Daleithiau. Yn ystod y cyfnod hwn, mynychodd astudiaethau yn yr Economics Institute, Prifysgol Colorado a Phrifysgol Duquesne yn Pittsburgh, lle y cwblhaodd radd meistr mewn e-fusnes. Mae ganddi hefyd radd mewn systemau rheoli a gwybodaeth yn y Gyfadran Economeg ym Mhrifysgol Prishtina, Cosofo. Dychwelodd i wleiddyddiaeth yn etholiadau 2009, lle bu'n rhedeg ar gyfer bwrdeistref Gjakova. Ar ôl brwydr gyfreithiol hir dros yr etholiadau a ymladdwyd, fe'i hetholwyd yn Is-Lywydd plaid Cynghrair Kosovo Newydd ym mis Rhagfyr 2009.

Cyn cael ei hamlygu mewn gwleidyddiaeth, gwasanaethodd Kusari-Lila fel cyfarwyddwr gweithredol y Siambr Fasnach America yn Cosofo (American Chamber of Commerce, AmCham), rhwng 2006-2009. Daeth Mimoza Kusari-Lila yn rhan o wleidyddiaeth a gwasanaeth cyhoeddus yn 2003 pan cafodd gynnig swydd llefarydd a chynghorydd gwleidyddol i'r Prif Weinidog Cosofo ar y pryd, Bajram Rexhepi.

Yn 2001, gweithiodd Mimoza Kusari-Lila ar prosiect Banc y Byd a USAID yn cefnogi busnesau Cosofo. Mae ei sgiliau arwain a rheoli eu profi tra bu'n gweithio fel rheolwr prosiect yn y American University Foundation of Kosovo ar gyfer Cosofo, a sefydlu y sefydliad. Arweiniodd ei gwaith at agoriad llwyddiannus y Brifysgol Americanaidd yn Cosofo, sydd bellach y sefydliad blaenllaw ym myd addysg y wlad a'r rhanbarth. Yn ystod gwrthdaro Cosofo 1998-1999, bu Mimoza Kusari-Lila yn gweithio yng ngwersylloedd ffoaduriaid y National Public Radio (NPR) yn Macedonia. Yn 1998-1999, bu'n gweithio i sefydliadau Meddygon Heb Ffiniau a'r Sefydliad ar gyfer Diogelwch a Chydweithrediad yn Ewrop (OSCE).

Gwleidyddiaeth

golygu

Daeth yn Ddirprwy Brif Weinidog Cosofo a Gweinidog Masnach a Diwydiant ar 23 Chwefror 2011. Gwasanaethodd yn y swydd yma nes 2 Hydref 2013 pan ymddiswyddodd er mwyn sefyll etholiad i fod yn Faer Gjakova, dinas o oddeutu 95,000 o bobl yn ne orllewin Cosofo.

Safodd Kusari-Lila etholiad i fod yn Faer o dan faner plaid AKR (Aleanca Kosova e Re, Cynghrair Cosofo Newydd), plaid ganolig, rhyddfydol. Etholwyd hi yn Faer Gjakova yn 2013 o dan faner plaid AKR gan fod y ddynes gyntaf i fod yn Faer yn hanes Cosofo. Gwasanaethodd fel Maer nes 2017.

Personol

golygu

Mae hi'n briod ag Arben Lila ac yn arddel ei gyfenw ac mae ganddynt dau blentyn.

Cyfeiriadau

golygu