Agor y brif ddewislen

Prishtina, neu sillefir weithiau Pristina, yw prifddinas Cosofo (IPA: pɾiʃtiːna, Albaneg: Prishtinë, Almaeneg: Prischtina, Serbeg: Приштина, Twrceg: Priştine). Lleolir hi yn nwyrain y wlad.[1] Mae wedi ei lleoli 652m uwchben lefel y môr, ger mynyddoedd Goljak. Mae'r ddinas 185km i ffwrdd o brifddinas Albania, Tirana, 176km o Sofia, 78km o Skopje, a 243km o Belgrâd.[2] Poblogaeth y ddinas yw 208,230.[3]

Prishtina
Prishtina Collage.jpg
Prishtinë - Priştine.png
Lleoliad Pristina o fewn Cosofo
Llywodraeth
Daearyddiaeth
Uchder 652 m
Demograffeg
Poblogaeth Cyfrifiad 208,230 (Cyfrifiad 2013)
Gwybodaeth Bellach
Gwefan Gwefan Saesneg

HanesGolygu

Roedd yr ardal lle saif Prishtina gyfoes yn rhan o'r diwylliant Vinča yn ystod yr Oes Paleolithig. Daeth Prishtina yn gartref i nifer o bobl Illyriaidd a Rhufeinig yn Cyfnod clasurol. Gwyddir i'r Brenin Bardyllis ddod â gwahanol lwythau ynghyd yn ardal Pristina yn y 4ydd ganrif CC, gan sefydlu'r Deyrnas Dardanaidd sy'n ysbrydoliaeth i Albaniaid hyd heddiw. Mae treftadaeth y cyfnod clasurol yn dal yn amlwg yn y ddinas, a gynrychiolir gan ddinas hynafol Ulpiana, a ystyriwyd yn un o'r dinasoedd Rhufeinig pwysicaf ym mhenrhyn y Balcan. Ceir y cofnod cyntaf i dref Prishtina 892. [4]. Yn yr Oesoedd Canol, roedd Prishtina yn dref bwysig yn Serbia Canoloesol ac yn ystod teyrnasiad brenhinol Stefan Milutin, Stefan Uroš III, Stefan Dušan, Stefan Uroš V a Vuk Branković.

Yn ystod cyfnod yr Otomaniaid, roedd Pristina yn ganolfan fasnachu a mwyngloddio bwysig oherwydd ei safle strategol ger tref glofaol gyfoethog Novo Brdo. Roedd y ddinas yn adnabyddus am ei ffeiriau masnach ac eitemau, fel chroen a gwallt gafr a phowdwr gwn. Adeiladwyd y mosg cyntaf yn Prishtina ar ddiwedd y 14g tra dan reolaeth Serbeg.

Roedd yn perthyn i'r Ymerodraeth Otomanaidd Twrceg o 1455 i 1912 a hi oedd prifddinas vilayet Vilajeti hi Kosovës rhwng 1877 a 1888.[5]. Wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf ddaeth yn rhan o wladwriaeth Iwgoslafia o 1918 hyd 2008. Ym Mai 1944, yn ystod yr Ail Ryfel Byd, arestiodd y 21. Waffen-Gebirgs-Division der SS Skanderbeg (. Albanische Nr 1) 281 o Iddewon y ddinas gan eu danfon i wersyll Bergen-Belsen [6] lle lladdwyd hwy.

Yn 1874 agorodd yr Otomaniai y rheilffordd rhwng Salonika (Groeg heddiw) a Mitrovica (gogledd Cosofo) gan fynd drwy Prishtina. Gydag hyn symudwyd daeth Prishtina yn brif dref y dalaith (vilayet) ar draul Prizren. Gyda chwymp rheolaeth yr Otomaniaid yn Awst 1912 i luoedd yr gwrthryfelaidd Albanaidd dan arweiniad Hasan Prishtina disgwylwyd gweld Prishtina a Cofoso yn ymuno ag Albania. Bu Serbia a Bwlgaria yn ymladd gyda'i gilydd dros reolaeth o Cosofo. Ym mis Hydref 1918, meddianwyd y ddinas gan y Ffrancod a daeth Prishtina yn rhan o'r 'Iwgoslafia Gyntaf' ar y 1 Rhagfyr 1918. Ymgymrodd y Serbiaid â pholisi bwriadol o wladychu ei talaith newydd â Serbiaid [22]Rhwng 1929 a 1941, roedd Priština yn rhan o (talaith) Banovina Vardar o Deyrnas Iwgoslafia. Roedd y Banovina yma yn cynnwys Macedonia a deheudir Serbia ac yn ymdrech fwriadol i beidio cydnabod hunaniaeth neu genedligrwydd Albanaidd.

Ar 17 Ebrill 1941, ildiodd Iwgoslafia yn ddiamod i rymoedd yr Echel (Axis) yn yr Ail Ryfel Byd. Ar 29 Mehefin 1941, cyhoeddodd Benito Mussolini Albania Fawr, gan uno'r rhan fwyaf o Cosofo o dan yr Eidal yn unedig ag Albania. Lladdwyd nifer fawr o Serbiaid, yn enwedig ymsefydlwyr, a ffodd degau o filoedd. Ar ôl cwymp yr Eidal, ym Mai 1944, death y ddinas dan reolaeth y Natsiaid . Arestiodd y 21. Waffen-Gebirgs-Division der SS Skanderbeg (. Albanische Nr 1) 281 o Iddewon y ddinas gan eu danfon i wersyll Bergen-Belsen [6] lle lladdwyd hwy. Ychydig o deuluoedd Iddewig sydd wedi goroesi yn Pristina yn y pen draw a adawodd i Israel ym 1949. [13] O ganlyniad i'r Ail Ryfel Byd ac ymfudo dan orfod, gostyngodd poblogaeth Pristina i 9,631 o drigolion.

Wedi'r Ail Ryfel Byd, a threchu plaid a lluoedd cenedlaetholaidd gwrth-gomiwnyddol y Balli Kombëtar rheolwyd Iwgoslafia gan y blaid Gomiwnyddol o dan reolaeth Tito. Penderfynwyd cadarnhau Prishtina yn brifddinas Cosofo ym 1947. Gwelwyd cyfnod o ddatblygiad cyflym a dinistr llwyr. Y slogan comiwnyddol Iwgoslafaidd ar y pryd oedd uništi stari graditi novi (dinistrio'r hen, adeiladu'r newydd). Mewn ymdrech ddiffygiol i foderneiddio'r dref, bu comiwnyddion yn bwriadu dinistrio'r bazaar Otomanaidd a rhannau helaeth o'r ganolfan hanesyddol, gan gynnwys mosgiau, eglwysi catholig a thai Otomanaidd. Arweiniodd ail gytundeb a lofnodwyd rhwng Iwgoslafia a Thwrci yn 1953 at exodus nifer o gannoedd o deuluoedd Albanaidd yn fwy.

Sefydlwyd Prifysgol Prishtina yn 1969 a gwelwyd cyfnod o dwf gyda'r poblogaeth yn codi o 69,514 yn 1971 i 109,208 yn 1981

OrielGolygu

GyfeilldrefiGolygu

CyfeiriadauGolygu

DolenniGolygu