Sefydliad Diogelwch a Chydweithrediad Ewrop
Sefydliad rhyngwladol yw Sefydliad Diogelwch a Chydweithrediad Ewrop (OSCE; Saesneg: Organization for Security and Co-operation in Europe). Ei waith yw rhybydd cynnar, atal gwrthdaro, goruchwyliaeth argyfwng ac ailsefydlu ar ôl gwrthdaro yn Ewrop.
Math o gyfrwng | sefydliad rhynglywodraethol |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1975 |
Rhagflaenwyd gan | Helsinki Accords |
Yn cynnwys | OSCE Minsk Group |
Pennaeth y sefydliad | Chairperson-in-Office of the Organization for Security and Co-operation in Europe |
Pencadlys | Fienna |
Enw brodorol | Organization for Security and Co-operation in Europe |
Gwladwriaeth | Awstria |
Gwefan | https://www.osce.org/, https://www.osce.org/de/, https://www.osce.org/fr, https://www.osce.org/it, https://www.osce.org/ru, https://www.osce.org/ro/moldova, https://www.osce.org/bs/mission-to-bosnia-and-herzegovina |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Lleolir pencadlys y sefydliad yn Fienna, Awstria, a cheir swyddfeydd ganddo yn ninasoedd Copenhagen, Genefa, Den Haag, Prag a Warszawa (Warsaw).
Aelodau
golyguMae 56 o wledydd Ewrop, Gogledd America, y Cawcasws a Chanolbarth Asia yn aelodau o'r OSCE:
Albania, Yr Almaen, Andorra, Armenia, Awstria, Aserbaijan, Belarws, Bosnia-Hertsegofina, Bwlgaria, Canada, Casachstan, Cirgistan, Croatia, Cyprus, Denmarc, y Deyrnas Unedig, Yr Eidal, Estonia, Dinas y Fatican, Y Ffindir, Ffrainc, Georgia, Y Weriniaeth Tsiec, Gwlad Belg, Gwlad Groeg, Gwlad Pwyl, Gwlad yr Iâ, Hwngari, Yr Iseldiroedd, Iwerddon, Latfia, Liechtenstein, Lithwania, Lwcsembwrg, Gogledd Macedonia, Malta, Moldofa, Monaco, Montenegro, Norwy, Portiwgal, Romania, Rwsia, San Marino, Sbaen, Serbia, Slofacia, Slofenia, Sweden, Y Swistir, Tajicistan, Twrci, Tyrcmenistan, Unol Daleithiau America, Yr Wcráin, ac Wsbecistan.
Hanes
golyguSefydlwyd yr OSCE ym 1973 fel Cynhadledd ar gyfer Diogelwch a Chydweithrediad yn Ewrop (CSCE). Roedd dadl am gael sefydliad diogelwch yn Ewrop wedi cychwyn yn y 1950au, ond roedd hi'n anodd dod i benderfyniad oherwydd y Rhyfel Oer.
Er hynny, dechreuwyd y CSCE yn Helsinki, y Ffindir ar 3 Gorffennaf, 1973 ac anfonodd 35 o wledydd gynrychiolwyr. Yn ystod y gynhadledd, a barhaodd am 5 diwrnod, cytunodd pawb i ddilyn y "Llyfr Glas", adroddiad yn cymeradwyo proses y dadl. Cafwyd yr ail gynhadledd yng Ngenefa. Dechreuodd ar 18 Medi, 1973 a goffen ar 21 Gorffennaf 1975. Yn ystod y drydedd gynhadledd, o 30 Gorffennaf hyd 1 Awst 1975, arwyddodd y gwledydd a fu'n bresennol Cytundeb Terfynol Helsinki (Helsinki Final Act).
Cafwyd sawl cynhadledd ar ôl hynny. Y pwysicaf oedd cynadleddau Beograd (4 Hydref 1977 - 8 Mawrth 1978), Madrid (11 Tachwedd, 1980 - 9 Medi, 1983), a Vienna (4 Tachwedd 1986 - 19 Ionawr 1989).
Golygodd cwymp comiwnyddiaeth yn nwyrain Ewrop a'r USSR rôl newydd i'r CSCE. O ganlyniad, arwyddwyd Siarter Paris dros Ewrop Newydd (Paris Charter for a New Europe) ar 21 Tachwedd, 1990, a newidiwyd enw'r sefydliad i OSCE ar 1 Ionawr, 1995.
Cafwyd cynhadledd OSCE yn Istanbwl ar 19 Tachwedd, 1999 er mwyn datrys problemau'r anghydfod yn Chechnya a derbyn Siarter Diogelwch Ewrop (Charter for European Security).