Mintys ysbigog
Y planhigyn wedi blodeuo
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Ddim wedi'i restru: Asteridau
Urdd: Lamiales
Teulu: Lamiaceae
Genws: Mentha
Rhywogaeth: M. spicata
Enw deuenwol
Mentha spicata
L.

Planhigyn blodeuol a pherlysieuyn ydy'r mintys ysbigog (Lladin: Mentha spicata) a ddefnyddir i roi blas ar fwyd, diodydd a hyd yn oed bast dannedd. Mae rhwng 30 a 100 cm o daldra ac yn hoff iawn o bridd gwlyb. Mae'r dail rhwng 5 a 9 cm ac (fel y coesyn) yn eitha blewog ac ymylon daneddog.

Rhinweddau meddygol

golygu

Fe'u tyfir yn draddodiadol er mwyn gwella dolur y gwynt ac igian.[1] Gellir ei ddefnyddio'n allanol hefyd mewn pwltis ar clwy'r marchogion neu friwiau ar y croen.[2]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Llysiau Rhinweddol gan Ann Jenkins, cyhoeddwyd gan Wasg Gomer, 1982. Defnyddio'r dail i wneud paned i wella'r cyntaf a cnoi'r dail amrwd i wella pwl o igian.
  2. "Gwefan 'Plants for a Future'". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-07-06. Cyrchwyd 2009-04-15.

Gweler hefyd

golygu

Dolennau allanol

golygu

[1][dolen farw] Prifysgol Aberystwyth: Sut i adnabod planhigyn?

  Eginyn erthygl sydd uchod am blanhigyn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato